Roedd ’na sôn am ddydd Gwener du echdoe a darogan mai ddoe fyddai’r diwrnod siopa prysuraf cyn yr Ŵyl. Beth bynnag am hynny, mae’n ddiwrnod prysur arall yn yr Ofalaeth heddiw gyda gwasanaethau Nadolig y plant yn Neiniolen yn y bore ac yn Llanberis gyda’r nos. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y gwasanaethau hyn mewn unrhyw ffordd. Oedfaon i’w mwynhau yw’r rhain bob amser, ac edrychwn ymlaen at ddathlu’r Nadolig gyda’n gilydd. Bydd bwrlwm y plant yn parhau nos Fawrth ym mharti’r Ysgolion Sul yn Capel Coch, a diolch i bawb am y nwyddau a’r bwyd a’r paratoadau ar gyfer hwnnw hefyd. Rhwng y ddau, bydd cyfle i blant blwyddyn 3-6 yr ysgol ddod i ddiwrnod o gemau a neges y Nadolig yn Y Ganolfan yn Llanberis yfory. Mae’r cyfan yn dangos i bwy bynnag a’u gwêl bod y dystiolaeth Gristnogol yn dal yn fyw yn ein plith, a diolchwn i Dduw am ei drugaredd sy’n sicrhau hynny.
Dyma’r math o weithgarwch y bu’r eglwysi’n ei gynnal ers cenedlaethau bellach. Am ba reswm bynnag, mae llawer yn Neiniolen a Llanberis yn tybio bod y pethau hyn wedi darfod ac yn siarad am gapel ac Ysgol Sul fel petaent yn perthyn i’r gorffennol yn unig. Os clywch chi rywun – boed deulu neu gymdogion neu ffrindiau – yn sôn am y pethau hyn fel petaent wedi darfod, cofiwch ddweud wrthynt am y gweithgarwch hwn sydd yma o hyd. Ond pwysicach o lawer na’r gweithgarwch yw’r hyn y mae’r gweithgarwch yn dwyn sylw ato ac yn dystiolaeth iddo. Oherwydd y llawenydd mwyaf yw’r ffaith fod yma o hyd sôn am yr Arglwydd Iesu ac ymdrech yn nerth Duw i gyflwyno Iesu i genhedlaeth newydd. Am Iesu Grist y dywedwn o hyd yn yr oedfaon a’r ysgolion Sul, am ein bod yn credu bod Iesu’n dal i gynnig y bywyd gorau posibl i bawb ohonom, beth bynnag ein hoed.
Felly, boed i Iesu Grist gael ei fawrygu yn ein plith heddiw a’r Nadolig hwn, a boed iddo gael mwy o le yn ein calonnau a mwy o ogoniant gennym yn y flwyddyn newydd sydd o’n blaen.
Wedi sôn am gyffro a phrysurdeb, anfonwn ein cofion at bawb y mae’r Nadolig yn drwm ac anodd ac ymhell o fod yn fêl i gyd iddynt. Boed i’r rhai sy’n llesg, yn wael, yn alarus, yn bryderus, yn ofnus ac yn unig brofi rhywfaint o ddiddanwch presenoldeb y Duw byw gyda hwy i’w cysuro a’u cynorthwyo’r dyddiau nesaf hyn. Nid enw yn unig oedd yr ‘Imanwel’ ond sicrwydd i ni fod yr Un a aned ym Methlehem yn wir Dduw gyda ni yn y byd hwn. Diolch am hynny, beth bynnag ein hamgylchiadau, mae modd canfod cysur a chymorth y Duw a ddaeth i ganol byd trafferthus i fod yn Geidwad ac yn Gyfaill i bawb sy’n ei geisio.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 18 Rhagfyr, 2011
