“Gwawriodd blwyddyn newydd eto,
o’th drugaredd, Arglwydd cu;
llaw dy gariad heb ddiffygio
hyd yn hyn a’n dygodd ni”
Ar fore Calan arall, boed i ninnau ategu geiriau’r emynydd (Griffith Penar Griffiths) trwy gydnabod mai yn llaw’r Arglwydd Dduw y mae pob dim. Duw sy’n ben dros bopeth, ac ef sy’n trefnu a rheoli dyddiau a blynyddoedd ein byd. O’i ddaioni a’i drugaredd y daw pob blwyddyn yn ei thro. Yn ei gariad hefyd y mae Duw yn ein cynnal ac yn ein dwyn ninnau’n ddiogel o’r naill flwyddyn i’r llall.
A’r bore Calan hwn, addunedwn o’r newydd i gydnabod gofal Duw. Gallwn wneud pob math o addewidion ar ddechrau blwyddyn. Os gwnaethoch addunedau da’r llynedd a llwyddo i’w cadw, llongyfarchiadau mawr i chi. Ond fel arall y bu hi i’r mwyafrif ohonom, mae’n debyg: gwneud addunedau, a methu eu cadw. Onid dyna ein profiad yn amlach na heb, flwyddyn ar ôl blwyddyn? Addo pob math o bethau; addo’r byd i ni ein hunain ac i bobl eraill o ran newid pob math o arferion. Ac weithiau, addo pethau mawr i Dduw hefyd, a sylweddoli o fewn ychydig ddyddiau nad ydym fawr gwell am gadw’r addewidion a wnawn i’r Brenin Mawr nag a wnawn i deulu a chyfeillion ac i ni ein hunain.
Ond er gwaetha hyn oll, ddylai’r ffaith ein bod yn methu mor aml ddim ein hatal rhag gwneud addunedau eto eleni. Oherwydd mae Duw eisiau i ni addunedu bob dydd i fod yn ffyddlon iddo. A dim ond i ni wneud yr addunedau hynny yn onest, mae’r Duw trugarog yn barod i faddau o’r newydd bob dydd ein methiannau oll. Dyna ryfeddod maddeuant y Brenin Mawr, wrth gwrs: mae’n maddau ein holl grwydradau a’r ffaith ein bod yn syrthio ganwaith i’r un bai. Addunedwn felly ar ddechrau blwyddyn newydd i geisio byw eleni yn ufudd i orchmynion ein Duw ac yn fwy tebyg i’r esiampl a roddwyd i ni yn ei Fab, Iesu Grist.
A gwnawn hynny gan sylweddoli bod nerth ein Duw ar ein cyfer heddiw eto. Ac felly, yn hytrach nag addo i ni ein hunain ac i Dduw y byddwn ni’n cyflawni campau mawr yn ei wasanaeth eleni, gallwn wneud adduned syml i bwyso fwy a fwy ar Dduw. Pwyso arno am faddeuant a gras a chysur a gobaith bob dydd o’r flwyddyn newydd hon.
Ystrydeb yw dweud na wyddom ni beth a ddigwydd o hyn i ddiwedd y flwyddyn. Ond dymunwn i’n gilydd heddiw fendith y Goruchaf Dduw. Gweddïwn dros ein gilydd a chyflwynwn ein gilydd a’n hanwyliaid i ofal cariadus Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 01 Ionawr, 2012
