CIC

CIC LLANBERIS

Mae CIC (Clwb Ieuenctid Cristnogol) Llanberis yn cyfarfod bob yn ail nos Wener yn ystod y tymor ysgol.  Mae’r cyfarfod yn Capel Coch, o 7.00 hyd 8.30 o’r gloch ar gyfer pobl ifanc Blwyddyn 6-9 yr Ysgol.
 
CYFARFOD NESAF – NOS WENER, MAI 25, 2012
YNG NGWESTY’R DOLBADARN, LLANBERIS
 
Noson Gwis i’r teulu cyfan
am 7.00 o’r gloch
 
Noson i ieuenctid a theuluoedd CIC a phlant a theuluoedd yr Ysgol Sul
 
Cysylltwch â John Pritchard am ragor o fanylion (01286 872390).

Cwpan CIC

Aeth tim pel droed 5-yr-ochr CIC Llanberis i Fotwnnog i gymryd rhan yng Ngwpan CIC a drefnwyd gan Trobwynt, nos Fercher, Gorffennaf 7, 2010, a llwyddodd yr hogiau i ennill y Cwpan eleni.  Llongyfarchiadau mawr a diolch i Andrew, Dafydd ac Alwyn am fynd efo’r hogiau.

‘Uts a nocowt’

  

Cawsom noson hwyliog yn y Ganolfan yn Llanberis nos Wener. Daeth 28 o bobl ifanc i’r ‘Uts a Nocowt’ a drefnwyd gan Gynllun Efe. Roedd pob math o ‘gemau gwirion’ yn Y Ganolfan ac ar Gae’r Ddôl. Ffurfiwyd tri thim, a chafwyd cystadlu brwd iawn. Erbyn diwedd y nos roedd tim yr hogia ac yn un o dimau’r genod yn gydradd gyntaf, gyda thim arall y genod yn agos iawn atynt.Roedd y bobl ifanc o Lanberis a Llanrug ac amryw ohonynt heb fod yn yr un o weithgareddau Efe o’r blaen. Roedd yn werth cynnal y noson er mwyn hynny’n unig. Y gobaith yw y gwelwn ni rai ohonynt yn dod i gyfarfodydd CIC ar nos Sul.”Wnewch chi gynnal un arall o’r rhain i ni plis” oedd cwestiwn un o’r ieuecntid sy’n dod yn gyson i CIC. Roedd yn braf iawn gweld eu bod wedi mwynhau’r noson yn fawr ac yn pwyso am ragor o weithgareddau.

Diolch yn fawr i Andrew, Gwenno a Dafydd am reoli’r gemau; ac i Susan a Llew a Graham am gyfri’r marciau a helpu i gadw trefn. Andrew a wnaeth y trefniadau i gyd, a diolch yn fawr iddo am hynny.

 Bowlio 10

 Diolch yn fawr i Gwenno, Dafydd ac Andrew am ddod gyda’r ieuenctid i’r Ganolfan Bowlio Deg ym Mharc Glasfryn, Y Ffôr,  nos Wener, Chwefror 12.  Cafwyd noson arbennig o dda.

PENWYTHNOS YNG NGHOLEG Y BALA

Nos Wener – Dydd Sul, Ionawr 29-31

Diolch yn fawr i Andrew am fynd i’r Bala gyda Kim, Kate a Gareth.

 

 ”UTS Y NOCOWT” - CANOLFAN Y FFOR

NOS WENER, GORFF. 17

 
Cafwyd hwyl yn y noson “Uts a Nocowt”.  Roedd yn agos i 50 o bobl ifanc yno o glybiau ieuenctid Llyn ac Eifionydd.  Cafwyd gemau yn y Ganolfan ac ar y buarth.  Roedd 4 o bobl ifanc o Iwerddon yno gyda ni, wedi dod i’r ardal i helpu gyda gwaith y Genhadaeth ar y Traeth yn Nhudweiniog yr wythnos ganlynol.  Cafwyd sgetsus da yn cyflwyno neges yr Efengyl yn glir i’r bobl ifanc.  Dim ond 3 o griw’r Pysgod Mawr oedd yno, ond fe gawson nhw amser da iawn.  Diolch i Andrew am ddod yno gyda ni.

Cwpan CIC

Cystadleuaeth Pel droed 5 -yr -ochr Trobwynt

yn Ysgol Botwnnog, nos Lun, Gorffennaf 6, 2009

cwpan clic2

Roedd tim o’r Clwb Pysgod Mawr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth bel droed 5 yr ochr a drefnwyd gan Trobwynt yn Ysgol Botwnnog, nos Lun, Gorffennaf 6. Roedd 8 o dimau’n cymryd rhan, a rhanwyd hwy’n ddau grwp.
Aelodau tim Llanberis oedd Gerallt, Sion, Nathan, Adam a Kurt (o Lanberis) a Rhodri a Rhun (o Lanrug).
Enillodd yr hogia ddwy o gemau’r grwp a chael un gem gyfartal. Yna, cafwyd gem gyfartal yn rownd go-gynderfynol, ac ennill y gem ar ôl ciciau o’r smotyn. Ond yn y rownd gyn-derfynol, colli o un gôl oedd yr hanes. Ond fe chwaraeodd pawb yn dda, a chael hwyl fawr. Ond fe gyflwynwyd medalau i’r hogia am orffen yn drydydd, gan mai nhw oedd wedi gwneud orau o’r ddau dim a gollodd yn y rownd gyn-derfynol.
Da iawn, chi, hogia. Llongyfarchiadau mawr.
Ar ddiwedd y noson roedd barbiciw wedi ei drefnu ar gyfer pawb. Roedd oddeutu 60 o hogia (blwyddyn 7-9 yr ysgol) yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a phob un ohonynt efo cysylltiad â chlwb ieuenctid neu ryw weithgarwch Cristnogol arall. Dyma’r ail dro i Trobwynt gynnal y gystadleuaeth, ac fel y llynedd roedd cyfle i’r hogia glywed neges yr Efengyl cyn i’r noson ddod i ben. John Pritchard oedd wedi cael gwahoddiad i roi’r sgwrs y tro hwn. Diolch yn fawr iawn i Andrew, Huw a Dafydd am hyfforddi a gofalu am y tim ym Motwnnog, ac i Mrs Gwenno Williams, Llanrug, am helpu i ddanfon yr hogia i Fotwnnog.
 

cwpan clic

 

Llanberis yn ennill y "penalty shoot out"

Llanberis yn ennill y “penalty shoot out” 

 NOSON CARTIO 

Nos Wener, Ebrill 3, aeth aelodau Clwb Pysgod Mawr i rasio ceirt dan do yng Nghanolfan Gertio Redline yng Nghaernarfon.  Cafodd pawb ddwy ras yr un, gyda’r gyrrwyr cyflymaf yn mynd trwodd i’r rownd derfynol.  Yr hogiau ddaeth i’r brig y tro hwn, a  llongyfarchiadau i’r enillydd Adam Jones, Sion Roberts oedd yn ail, ac Elliw Saynor yn drydydd.   Cafodd Elin Haf fedal arbennig hefyd.  Doedd arweinwyr y Clwb ddim yn cael medal na mynd trwodd i’r ffeinal, ond mae’n siwr mai’r gwir yw nad oedden nhw mor gyflym â’r bobl ifanc.  (Huw Davies enillodd, gydag Andrew Settatree yn ail, a Robert Townsend yn drydydd). 
Wedi’r gyrru gwyllt rownd y trac, aeth pawb am fwyd i McDonald’s yng Nghaernarfon. 
 Gan fod amryw o’r criw wedi bod yn sâl yn ystod yr wythnos, gobeithio nad ydynt ddim gwaeth wedi’r holl yrru a’r bwyta. 
Diolch yn fawr iawn i Andrew am drefnu’r noson.  Gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu hunain. 
 
ar ras 
  
Criw'r Clwb Pysgod Mawr - bydd y Clwb yn ail ddechrau nos Sul, Mai 10

Yr enillwyr

 

Sylwadau ar gau.

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn