Gronyn
Gofalaeth Unedig Deiniolen, Llanberis a Nant Peris
Croeso i wefan Gofalaeth Unedig Deiniolen, Llanberis a Nant Peris
Pam Gronyn?
Daw enw’r wefan o gylchlythyr wythnosol eglwysi’r Ofalaeth – Gronyn – a gyhoeddir bob Sul. Ceir ynddo neges gan y Gweinidog ynghyd â newyddion llawn am waith yr Ofalaeth. Gwelir rhifynnau diweddaraf Gronyn trwy glicio ar “Gronyn” ar ben y dudalen hon.
Cyhoeddwyd “Gronyn” yn achlysurol ers 1988 (a chyn hynny hefyd, mewn gwirionedd, yng ngofalaeth flaenorol ein Gweinidog yn ardal Abersoch); ond mae wedi ei gyhoeddi’n wythnosol yn ei ffurf bresennol ers mis Medi 2001.
Caiff oddeutu 160 o gopiau eu rhannu bob wythnos, ac mae’n rhan bwysig o genhadaeth eglwysi’r Ofalaeth. Rhowch wybod i ni os gwyddoch am rywun o’r ardal a fyddai’n hoffi derbyn copi ohono ar bapur yn wythnosol.
Gallwn ddarparu fersiwn mwy, maint A4, i bwy bynnag sy’n cael trafferth i ddarllen Gronyn yn ei faint A5 arferol.
COLLED
Mae’r Ofalaeth wedi colli un o’i blaenoriaid ffyddlon trwy farwolaeth Mr Eifion Williams, a fu’n flaenor yn eglwys Cefnywaun am yn agos i 50 o flynyddoedd. Bu farw nos Sul, Ionawr 30, 2011 yn 82 mlwydd oed. Cafodd ei ethol yn flaenor yn 1962. Gwasanaethodd yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Bu’n gofalu am adeiladau’r capel am flynyddoedd hefyd. Roedd ei gyfraniad i fywyd yr eglwys yn fawr, a bu’n aelod ffyddlon a gwerthfawr o bwyllgorau’r eglwys a’r Ofalaeth. Bu’n gyfaill da, yn gydweithiwr ffyddlon, ac yn gefn mawr i mi fel ei weinidog am dros 22 o flynyddoedd, a byddaf yn gweld ei golli yn fawr. Diolch am ei gyfraniad at waith yr eglwys mewn cyfnod a fu’n ddigon anodd ar lawer cyfrif, ac yn arbennig felly yn ystod y trafodaethau a’n harweiniodd i adael capel Cefnywaun a pharhau’r Achos trwy i eglwys Cefnywaun rannu adeilad Ebeneser. Wedi cyfnod o waeledd mawr, roedd yn benderfynol o ail ymuno â ni yn yr oedfaon, a llwyddodd i wneud hynny mor ffyddlon ag erioed hyd at y Sul olaf un cyn iddo gael ei daro’n wael a’i gipio i’r ysbyty. Cydymdeimlwn yn fawr â’i deulu yn eu galar.
DIOLCH YN FAWR
Diolch i bawb am y bocsys esgidiau a’r rhoddion ariannol at Ymgyrch Plentyn y Nadolig. Fe gafwyd yn agos i 7o o focsys eleni eto o’r eglwysi. Nid yw hynny’n cynnwys wrth gwrs y rhai a anfonwyd i’r ysgolion lleol. Mae’r bocsys wedi eu danfon i Landrillo yn Rhos, lle maent yn cael eu pacio mewn bocsys mawr i’w hanfon i’r plant – mewn 14 o wledydd eleni – erbyn y Nadolig.
Mae yna dim o wirfoddolwyr yn paratoi’r bocsys yn festri capel Yr Eglwys Fethodistaidd yn Llandrillo yn Rhos eleni eto, a dyma lun neu ddau o’r prysurdeb yno fore Llun, Tachwedd 22. Erbyn amser cinio roedden nhw wedi pacio 1,000 o focsys yn barod.


