Efe

Y CYNLLUN
 Mae Cynllun Efe yn elusen Gristnogol sy’n cefnogi’r eglwysi lleol i gyflwyno Efengyl Iesu Grist i blant a ieuenctid yn nalgylch papur bro Eco’r Wyddfa yn Arfon, Gwynedd.

Buom yn trafod a gweddio dros y gwaith hwn am dair blynedd a hanner cyn penodi ein gweithiwr ieuenctid Cristnogol.   Trwy haelioni yr enwadau (yn genedlaethol a rhanbarthol), ymddiriedeolaethau, eglwysi, unigolion a mudiadau lleol, llwyddwyd i sicrhau cyllid ar gyfer ariannu’r cynllun am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.  

YR ENW

Acronym yw’r enw Efe, sy’n cyfleu ein gweledigaeth o gyflwyno’r Efengyl i Fro’r Eco.   Mae’r enw hefyd yn awgrymu’r Efe dwyfol y ceisiwn ei wasanaethu trwy  weinidogaeth y Cynllun newydd hwn.

Y GWEITHIWR IEUENCTID

Ers mis Hydref 2008, mae gan Efe weithiwr ieuenctid Cristnogol llawn amser, Andrew Settatree.  Daw Andrew yn wreiddiol o Hwlffordd, Sir Benfro.

Andrew Settatree

Andrew Settatree

 CEFNOGI

Gellwch gefnogi gwaith Efe yn ariannol trwy anfon eich cyfraniad at Drysorydd Cynllun Efe, Mr Colin Jones, Bryn Gelli, Gelli Hirbant, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4TU.  Bydd pob cyfraniad yn ein galluogi i gynnal y genhadaeth bwysig hon dros y tair blynedd gychwynnol ac ymhellach na hynny.

 GWEDDIO

A wnewch chi weddio dros waith Efe a thros Andrew, ein gweithiwr ieuenctid, os gwelwch yn dda.  Gweddiwch dros ei waith yn yr eglwysi a’ r ysgolion lleol.

Yr ydym yn gwerthfawrogi eich gweddiau ac yn erfyn arnoch i barhau i weddio dros ein holl waith.  Mae gennym gyfarfod bob mis i weddio dros y gwaith a thros Andrew.  Cynhelir y Cyfarfod Gweddi nesaf am 7.00 o’r gloch, nos Fercher, Hydref 5, 2011.   Ffoniwch John Pritchard (01286 872390) i wybod lle bydd y cyfarfod.  Os gellwch ymuno â ni yno, byddwn yn falch iawn o’ch gweld ac o gael eich croesawu atom.

CYFARFOD BLYNYDDOL

Cynhelir Cymanfa Cynllun Efe (ein cyfarfod cyhoeddus blynyddol)  i adrodd am ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf yn festri Capel y Rhos, Llanrug, nos Iau, Hydref 20, 2011.  Croeso cynnes i bawb.

CIC (CLWB IEUENCTID CRISTNOGOL) LLANBERIS

Mae Andrew yn un o arweinyddion CIC a CICiau sy’n cyfarfod ar hyn o bryd ar nos Wener am 7.00 o’r gloch.  Mae’r ddau glwb – sy’n cyfarfod yr un pryd yn festri Capel Cch - ar gyfer plant a phobl ifanc Blwyddyn 6-10 oed ysgol.
 

 Cwpan CIC 2010

Cystadleuaeth Pel droed 5 -yr -ochr Trobwynt

yn Ysgol Botwnnog, nos Fercher, Gorffennaf 7, 2010

Tim CIC Llanberis - Enillwyr Cwpan CIC 2010

Cwpan CIC 2009

Cystadleuaeth Pel droed 5 -yr -ochr Trobwynt

yn Ysgol Botwnnog, nos Lun, Gorffennaf 6, 2009

cwpan clic

 

 
 
 
 
 
 

  

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Llanberis yn ennill y "penalty shoot out"

Llanberis yn ennill y "penalty shoot out"

NOSON CARTIO 

Nos Wener, Ebrill 3, aeth aelodau Clwb Pysgod Mawr i rasio ceirt dan do yng Nghanolfan Gertio Redline yng Nghaernarfon.  Cafodd pawb ddwy ras yr un, gyda’r gyrrwyr cyflymaf yn mynd trwodd i’r rownd derfynol.  Yr hogiau ddaeth i’r brig y tro hwn, a  llongyfarchiadau i’r enillydd Adam Jones, Sion Roberts oedd yn ail, ac Elliw Saynor yn drydydd.   Cafodd Elin Haf fedal arbennig hefyd.  Doedd arweinwyr y Clwb ddim yn cael medal na mynd trwodd i’r ffeinal, ond mae’n siwr mai’r gwir yw nad oedden nhw mor gyflym â’r bobl ifanc.  (Huw Davies enillodd, gydag Andrew Settatree yn ail, a Robert Townsend yn drydydd). 
Wedi’r gyrru gwyllt rownd y trac, aeth pawb am fwyd i McDonald’s yng Nghaernarfon. 
Gan fod amryw o’r criw wedi bod yn sâl yn ystod yr wythnos, gobeithio nad ydynt ddim gwaeth wedi’r holl yrru a’r bwyta. 
Diolch yn fawr iawn i Andrew am drefnu’r noson.  Gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu hunain. 
 
ar ras 
  
Criw'r Clwb Pysgod Mawr - bydd y Clwb yn ail ddechrau nos Sul, Mai 10
Yr enillwyr

Yr enillwyr

CYFARFOD NEWYDD AR GYFER IEUENCTID BLWYDDYN 10-13

Manylion gan Andrew

MANYLION PELLACH

Ceir manylion pellach am waith Efe gan y Parchg John Pritchard -

john.cilfynydd@btinternet.com

Mae gwefan Cynllun Efe yn barod erbyn hyn – cynllunefe.org.  Mae cyswllt i’r wefan honno o’r dudalen Hafan. 

Sylwadau ar gau.

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn