Yr Eglwysi
Mae Gofalaeth Unedig Deiniolen, Llanberis a Nant Peris yn cynnwys pump o eglwysi yng nghysgod Yr Wyddfa a hen Chwarel Dinorwig ar fynydd Elidir: tair ohonynt yn perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC), a dwy yn eglwysi Annibynnol (A) sy’n aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Mae eglwysi Cefnywaun (EBC) ac Ebeneser (A) yn Neiniolen; Capel Coch (EBC) a Nant Padarn (A) yn Llanberis; a Rehoboth (EBC) yn Nant Peris.
Yr Ofalaeth hon yw un o’r gofalaethau bro hynaf yng Nghymru, gan fod yma eglwysi Presbyteraidd ac Annibynnol sydd wedi rhannu gweinidogaeth ers Ionawr 1, 1982. Un o weinidogion Eglwys Bresbyteraidd Cymru, y Parchg Trefor Lewis, oedd y gweinidog o’r cychwyn hyd at Fehefin 1988. Ers mis Hydref 1988, un o weinidogion yr Annibynwyr, y Parchg John Pritchard, yw’r gweinidog. Mae’r Ofalaeth felly ymhlith yr ychydig o ofalaethau bro sydd wedi cael eu gwasanaethu gan weinidogion o wahanol enwadau. Byddai’n ddiddorol gwybod sawl gofalaeth arall yng Nghymru sydd wedi gweithredu’n ddi-dor dan batrwm gweinidogaeth bro ers mwy na 28 o flynyddoedd. Dros y cyfnod hwnnw, cafwyd cydweithio hwylus a llawen rhwng eglwysi’r ddau enwad yn lleol.
Cafodd y gweinidog presennol ei fagu yn Llanberis, yn aelod o eglwys Nant Padarn; a dychwelodd i’w fro enedigol yn 1988 wedi cyfnod o bron i 10 mlynedd yn weinidog i eglwysi’r Annibynwyr yn Abersoch, Bwlchtocyn, Llanbedrog a Mynytho.
Bu’r 2 eglwys yn Neiniolen yn cydaddoli ym mhob oedfa ers oddeutu 18 mlynedd, ac maent yn rhannu’r un adeilad (Ebeneser) ers Hydref 2007. Bu’r ddwy eglwys yn Llanberis yn cydaddoli ac yn rhannu’r un adeilad (Capel Coch) ers 6 blynedd.
Gwerthwyd adeiladau capel Cefnywaun, Deiniolen yn ddiweddar, a gobeithir defnyddio’r arian er mwyn gwella ac addasu festri Ebeneser yn Neiniolen.
Mae adeiladau Capel Coch, Llanberis ar werth ar hyn o bryd, ac os gwerthir bwriedir defnyddio’r arian er mwyn datblygu safle Nant Padarn yn Llanberis yn addoldy newydd.
Mae croeso i unrhyw un ymuno yng nghyfarfodydd yr eglwysi. Dowch atom i addoli Duw a’i fab Iesu. Dowch i wrando ar Air Duw. Dowch i ganu clod i’r Iesu. Dowch i weddio ar Dduw, ein Tad nefol. Dowch i ystyried galwad Duw i ni fod yn bobl iddo. Dowch i ryfeddu at Efengyl Iesu Grist. Dowch i geisio nerth a bendith yr Ysbryd Glân. Dowch i ddiolch am y cariad a’r gras sydd wedi ei dywallt arnom trwy Iesu Grist.
Taflen Fedydd – Gwybodaeth i Rieni
Cyfrannu’n ariannol
Aelodau eglwysi’r Ofalaeth hon sy’n gyfrifol am gynnal holl waith yr eglwysi yn ariannol. Mae hynny’n cynnwys costau cynnal y Weinidogaeth a’r adeiladau a’r holl weithgarwch. Mae’r daflen “Arian Duw - Cyfrannu at yr eglwys heddiw” (cliciwch isod) yn nodi’r angen ynghyd â’r egwyddorion sy’n sail i gyfrannu at waith yr eglwysi.
Croesewir pob cyfraniad at gynnal gweinidogaeth yr eglwysi. Gellir gwneud hynny trwy drysoryddion yr eglwysi unigol, neu gall cyfeillion yr eglwysi (neu gynaelodau o’r eglwysi) gyfrannu’n uniongyrchol at Gronfa’r Ofalaeth trwy law Trysorydd yr Ofalaeth, Mrs Bet Williams, 21 Stryd yr Wyddfa, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd.
Byddwn yn ddiolchgar am bob cyfraniad a fydd yn ein helpu i gyflawni gweinidogaeth yr eglwysi.
