Capel Coch

Capel Coch, Llanberis

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Côd Post: LL55 4SN

Ysgrifennydd:

Miss Dilys Mai Roberts

Yr Haciau, Penisarwaun, Caernarfon, Gwynedd  LL55 3DB

Trysorydd:

Mr Colin Jones

Bryn Gelli, Gellihirbant, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd  LL55 4TU

Ysgrifennydd Cyhoeddiadau’r Sul:

Mr Bert Parry

Sycharth, Preswylfa, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd  LL55 4LF

Blaenoriaid

Mr John H Hughes

Mr Gareth Jones

Miss Dilys Mai Roberts

Mr Colin Jones

Mr Bert Parry

Oedfaon y Sul am 10.00 a 5.30 o’r gloch

(ac eithrio Oedfaon Teulu am 10.30 o’r gloch

ar bedwerydd Sul pob mis - gweler “Cyhoeddiadau”

a MOLI am 5.00 o’r gloch

ar ail Sul pob mis – gweler “Cyhoeddiadau”)

Ysgol Sul am 11.15 o’r gloch

Ffair Nadolig 2011

 

 

Cynhaliwyd Ffair Nadolig er budd Cronfa Capel Coch ddydd Gwener, Rhagfyr 2, a gwnaed elw o £700.  Diolch am y genfogaeth.

Casgliad Efe

 

Mae Capel Coch wedi cyfrannu £1,000 y flwyddyn at Gynllun Efe dros y tair blynedd ddiwethaf, a gobeithiwn allu gwneud hynny eto dros y ddwy flynedd nesaf.  Gwahoddwn aelodau’r eglwys i’n helpu i gyrraedd y nod hwnnw.  Ers i ni rannu amlenni casglu ganol Tachwedd, yr ydym wedi derbyn £380 at y nod hwn hwn.  Byddwn yn falch ac yn ddiolchgar o dderbyn eich cyfraniadau.

Ffair Nadolig 2010

Cynhaliwyd Ffair Nadolig yn y festri b’nawn Mercher, Tachwedd 25 er budd Cynllun Efe.  Gwnaed elw o £530.85, a diolchwn i bawb am eu cefnogaeth.  Diolch yn arbennig i bawb a fu’n helpu i baratoi ar gyfer y Ffair.  Diolch am y nwyddau a’r bwydydd a baratowyd,  a diolch i bawb a fu’n gweithio mewn unrhyw ffordd er sicrhau llwyddiant y Ffair.

Cwis Cymorth Cristnogol

Gwesty’r Dolbadarn, Nos Wener, Mai 15, 2009

 
Y Parchg Jeff Williams, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn sôn am waith y mudiad yn ystod y Cwis
Y Parchg Jeff Williams, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn sôn am waith y mudiad yn ystod y Cwis
Dafydd yn holi'r cwestiynau anodd!

Dafydd yn holi’r cwestiynau anodd!

Oedfa Deulu Sul y Pasg

Cynhaliwyd Oedfa Deulu fore Sul y Pasg ac roedd yn braf gweld cymaint yno unwaith eto.  Falmai Pritchard oedd yn arwain yr oedfa.  Cafwyd stori i’r plant gan Dafydd Pritchard ac anerchiad gan Andrew Settatree.  Darllenwyd gan Sara Jones a Gruffudd Pritchard.  Gareth Jones oedd yr organydd.  Rhoddwyd wy pasg bach i’r plant, gan eu siarsio i beidio eu bwyta cyn cinio!  Ar ôl yr oedfa, cafwyd paned a sgwrs, fel sy’n digwydd bob tro y cawn ni Oedfa Deulu. 

Gyda’r nos, cafwyd oedfa dan arweiniad y Gweinidog.

O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidog

Aeth nifer o aelodau Capel Coch a Nant Padarn i weld cynhyrchiad olaf Cymdeithas y Gronyn Gwenith yn Theatr Seilo, Caernarfon nos Wener, Ebrill 3.  Seiliwyd O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidog ar storiau poblogaidd y Parchg Harri Parri, ac ef wrth gwrs sydd wedi eu haddasu ar gyfer y llwyfan.  Cafwyd noson hwyliog dros ben wrth weld rhai o gymeriadau difyr a chofiadwy’r storiau poblogaidd yn cael eu portreadu ar y llwyfan.  Llongyfarchiadau mawr i’r awdur ac i holl aelodau’r cwmni.  Diolch yn arbennig i Miss Dilys Mai Roberts am drefnu’r ymweliad ar ein cyfer.

 

Sylwadau ar gau.

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn