Eglwys Annibynnol
Ebeneser, Deiniolen
Côd Post: LL55 3HR
Ysgrifennydd:
Mr John Jones
Ceris, Hen Lon Fron, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd LL55 3LU
Trysorydd:
Ms Marina Marzelos
Pros Kairon, 9 Ffordd Deiniol, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd LL55 3LL
Ysgrifennydd Cyhoeddiadau’r Sul:
Mr Ernest Jones
Hafan, 7 Porth y Gogledd, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd LL55 3HY
Diaconiaid
Mr Ernest Jones
Mr John B Jones
Mrs Eirlys Williams
Mrs Buddug Jones
Apêl Adnewyddu’r Festri
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y Dyddiau o Roddion a gafwyd ddydd Gwener a dydd Sadwrn, Mawrth 9 a 10 er budd Cronfa Adnewyddu Festri Ebeneser. Derbyniwyd ychydig dros £3,000. Gwerthfawrogir bob cefnogaeth i’r apêl hon ac edrychwn ymlaen at osod gwresogyddion newydd ac adnewyddu’r llwybr at ddrws y festri.
Oedfaon y Sul ar y cyd â Chefnywaun,
yn Ebeneser
Cynhelir 2 oedfa (am 9.30 a 5.00 o’r gloch) pan fydd y Gweinidog yn gwasanaethu ac un oedfa ar y Suliau eraill (am 5.00 o’r gloch)
Oedfa Deulu am 10.00 ar drydydd Sul y mis
Ysgol Sul am 10.15 o’r gloch
Cymanfa Dosbarth Cwm y glo
Cyfarfod Pregethu
Cynhaliwyd Cyfarfod Pregethu blynyddol Ebeneser ddydd Sul, Mai 10. Gwasanaethwyd yn y ddwy oedfa gan y Parchg Dewi Morris, Porthmadog.
Swper Blynyddol Cymdeithas Undebol Deiniolen
Daeth tymor y Gymdeithas i ben nos Fawrth, Ebrill 28, gyda’r Swper Blynyddol a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff, Caernarfon.
Cafwyd bwyd ardderchog, ac roedd pawb wedi mwynhau’r wledd.
Cyflwynwyd y gwr gwadd, Mici Plwm, gan y Parchg John Pritchard, Llywydd y Gymdeithas. Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol gan Mici Plwm am ei hunangofiant, Meical Ddrwg o Dwll y Mwg. Soniodd am yr ysgogiad i ysgrifennu’r gyfrol a’r broses o roi’r hanes ar bapur. Cawsom flas ar gynnwys y gyfrol hefyd wrth iddo adrodd rhai o’r hanesion a gofnodwyd ynddi. Soniodd am rai o’i deithiau i wahanol rannau o’r byd, gan gydio’r gwahanol atgofion wrth ddarn o garreg neu wrthrych a ddygodd adref gydag ef o’r gwahanol wledydd. Cafwyd noson o hwyl a chwerthin, ac ar y diwedd roedd cyfle i brynu’r gyfrol.
Gwerthfawrogir y nawdd ariannol a gafwyd oddi wrth Academi at gynnal y noson.
