Cefnywaun, Deiniolen
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Apêl Adnewyddu’r Festri
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y Dyddiau o Roddion a gafwyd ddydd Gwener a dydd Sadwrn, Mawrth 9 a 10 er budd Cronfa Adnewyddu Festri Ebeneser. Derbyniwyd ychydig dros £3,000. Gwerthfawrogir bob cefnogaeth i’r apêl hon ac edrychwn ymlaen at osod gwresogyddion newydd ac adnewyddu’r llwybr at ddrws y festri.
Blaenor newydd
Llongyfarchiadau i Miss Marian Jones a ordeiniwyd yn flaenor yn eglwys Cefnywaun mewn oedfa a gynhaliwyd gan yr Henaduriaeth yng Nghapel Cysegr, Bethel nos fawrth, Hydref 25, 2011. Pob bendith a dymuniadau gorau iddi.
Ysgrifennydd:
Mrs Margaret Cynfi Griffith
Cynfi, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd L55 3HH
Trysorydd:
Mr Irfon Thomas
6 Tai Marian, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
Ysgrifennydd Cyhoeddiadau’r Sul:
Mrs Margaret Cynfi Griffith
Blaenoriaid
Mrs Margaret Cynfi Griffith
Miss Marian Jones
Teyrnged
Mr Eifion Williams – Colled fawr i’r eglwys oedd marwolaeth Mr Eifion Williams, nos Sul, Ionawr 30, 2011. Bu’n flaenor am yn agos i 50 mlynedd, gan iddo gael ei ordeinio yn 1962. Gwasanaethodd yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Bu’n gofalu am adeiladau’r capel am flynyddoedd hefyd. Roedd ei gyfraniad i fywyd yr eglwys yn fawr, a bu’n aelod ffyddlon a gwerthfawr o bwyllgorau’r eglwys a’r Ofalaeth. Bu’n gyfaill da, yn gydweithiwr ffyddlon, ac yn gefn mawr i mi fel ei weinidog am dros 22 o flynyddoedd, a byddaf yn gweld ei golli yn fawr. Diolch am ei gyfraniad at waith yr eglwys mewn cyfnod a fu’n ddigon anodd ar lawer cyfrif, ac yn arbennig felly yn ystod y trafodaethau a’n harweiniodd i adael capel Cefnywaun a pharhau’r Achos trwy i eglwys Cefnywaun rannu adeilad Ebeneser. Wedi cyfnod o waeledd mawr, roedd yn benderfynol o ail ymuno â ni yn yr oedfaon, a llwyddodd i wneud hynny mor ffyddlon ag erioed hyd at y Sul olaf un cyn iddo gael ei daro’n wael a’i gipio i’r ysbyty.
Oedfaon y Sul ar y cyd ag Ebeneser, yn Ebeneser
Cynhelir 2 oedfa (am 9.30 a 5.00 o’r gloch) pan fydd y Gweinidog yn gwasanaethu ac un oedfa ar y Suliau eraill (am 5.00 o’r gloch)
Oedfa Deulu am 10.00 ar drydydd Sul y mis
Ysgol Sul am 10.15 o’r gloch
Mae’r eglwys yn bwriadu hawlio ad-daliad Treth dan Gynllun Rhodd Cymorth ar y cyfraniadau a wneir gan yr aelodau. Miss Marian Jones, Dinorwig, fydd yn gofalu am y gwaith hwn. Os ydych yn talu treth incwm, gall pob cyfraniad ariannol a wnewch i waith yr eglwys fod yn werth mwy wrth i ni hawlio’r ad-daliad. Does dim angen i chi wneud dim ond llenwi ffurflen sy’n cadarnhau eich bod eisiau i’ch cyfraniadau gael ei cyfrif fel cyfraniadau “Rhodd Cymorth”. Am bob £1 a gyfrannwch chi, gall yr eglwys hawlio 20 ceiniog arall oddi wrth Dreth y Wlad. Mae’r ffurflenni ar gael gan Miss Marian Jones.
Swper Blynyddol
Cymdeithas Undebol Deiniolen
Daeth tymor y Gymdeithas i ben nos Fawrth, Ebrill 28, gyda’r Swper Blynyddol a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff, Caernarfon. Cafwyd bwyd ardderchog, ac roedd pawb wedi mwynhau’r wledd.
Cyflwynwyd y gwr gwadd, Mici Plwm, gan y Parchg John Pritchard, Llywydd y Gymdeithas. Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol gan Mici Plwm am ei hunangofiant, Meical Ddrwg o Dwll y Mwg. Soniodd am yr ysgogiad i ysgrifennu’r gyfrol a’r broses o roi’r hanes ar bapur. Cawsom flas ar gynnwys y gyfrol hefyd wrth iddo adrodd rhai o’r hanesion a gofnodwyd ynddi. Soniodd am rai o’i deithiau i wahanol rannau o’r byd, gan gydio’r gwahanol atgofion wrth ddarn o garreg neu wrthrych a ddygodd adref gydag ef o’r gwahanol wledydd. Cafwyd noson o hwyl a chwerthin, ac ar y diwedd roedd cyfle i brynu’r gyfrol.
Gwerthfawrogir y nawdd ariannol a gafwyd oddi wrth Academi at gynnal y noson.
Cyfarfod Pregethu Sul y Pasg
Ers blynyddoedd, mae eglwys Cefnywaun wedi cynnal Cyfarfodydd Pregethu ar Sul y Pasg. Ac er bod pethau wedi newid llawer o ran trefn yr oedfaon hyn dros y blynyddoedd, mae’r traddodiad yn parhau.
Penderfynwyd gofyn i’r gweinidog, y Parchg John Pritchard, i arwain oedfa’r bore eleni, er mwyn rhoi cyfle iddo fod mewn oedfa yn Neiniolen ar Sul y Pasg am y tro cyntaf erioed. Gan fod y Cyfarfod Pregethu’n cael ei gynnal bob Pasg, hon oedd yr oedfa gyntaf iddo ei chael gyda ni ar Sul y Pasg er ei fod yma ers 20 mlynedd. Arweiniwyd oedfa’r hwyr gan y Parchg W R Williams, Y Felinheli, a diolchwn iddo ef am ei wasanaeth.
