Eglwys Annibynnol
Nant Padarn, Llanberis
Ysgrifennydd:
Mrs Jane Jones
Aylwin, Ffordd Capel Coch, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4SH
Trysorydd:
Mr Heddwyn Jones
Y Dreflan, 4 Ffordd Capel Coch, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4SH
Ysgrifennydd Cyhoeddiadau’r Sul:
Mr Bert Parry
Sycharth, Preswylfa, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd
Cydaddoli yn Capel Coch, Llanberis
Oedfaon y Sul am 10.00 a 5.30 o’r gloch
ac eithrio Oedfaon Teulu am 10.30 o’r gloch
- gweler “Cyhoeddiadau”
Ysgol Sul am 11.15 o’r gloch
Yr eglwys a’i gweinidog
Pan ymunodd eglwys Nant Padarn â’r Ofalaeth chwe blynedd yn ôl, roedd mwy nag un peth anarferol am y trefniant newydd.
Y peth cyntaf oedd bod yr eglwys, a fu heb weinidog am fwy na 25 o flynyddoedd, yn dod yn rhan o’r Ofalaeth wrth iddi benderfynu rhoi’r gorau i ddefnyddio ei hadeilad ei hun. Nid pob dydd y digwydd peth felly, mae’n debyg. Mae’r eglwys yn cydaddoli yn Capel Coch ers hynny.
A’r ail beth oedd bod y gweindiog newydd wedi ei fagu yn eglwys Nant Padarn.
Cymanfa Dosbarth Cwm y glo
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Annibynwyr Cwm y glo yn Capel Coch, Llanberis ddydd Sul, Mai 17. Arweinydd y Gân oedd Gareth Jones, Llanberis. Cyfeiliwyd gan Bethan Holding (organ); Falmai Pritchard (piano); Gerwyn Murray a Ceri Murray (gitars); a Dafydd Lake (drymiau). Cymerwyd rhan gan blant Ysgolion Sul Llanberis, Deiniolen a Phenisarwaun. Llywyddwyd gan y Parchg John Pritchard.
Oedfa Deulu Sul y Pasg
Cynhaliwyd Oedfa Deulu fore Sul y Pasg ac roedd yn braf gweld cymaint yno unwaith eto. Falmai Pritchard oedd yn arwain yr oedfa. Cafwyd stori i’r plant gan Dafydd Pritchard ac anerchiad gan Andrew Settatree. Darllenwyd gan Sara Jones a Gruffudd Pritchard. Gareth Jones oedd yr organydd. Rhoddwyd wy pasg bach i’r plant, gan eu siarsio i beidio eu bwyta cyn cinio! Ar ôl yr oedfa, cafwyd paned a sgwrs, fel sy’n digwydd bob tro y cawn ni Oedfa Deulu.
Gyda’r nos, cafwyd oedfa dan arweiniad y Gweinidog.
O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidog
Aeth nifer o aelodau Capel Coch a Nant Padarn i weld cynhyrchiad olaf Cymdeithas y Gronyn Gwenith yn Theatr Seilo, Caernarfon nos Wener, Ebrill 3. Seiliwyd O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidog ar storiau poblogaidd y Parchg Harri Parri, ac ef wrth gwrs sydd wedi eu haddasu ar gyfer y llwyfan. Cafwyd noson hwyliog dros ben wrth weld rhai o gymeriadau difyr a chofiadwy’r storiau poblogaidd yn cael eu portreadu ar y llwyfan. Llongyfarchiadau mawr i’r awdur ac i holl aelodau’r cwmni. Diolch yn arbennig i Miss Dilys Mai Roberts am drefnu’r ymweliad ar ein cyfer.
Hoffi hwn:
Bod y cyntaf i hoffi hwn page.