Yr Ysgolion Sul

 Ysgol Sul Unedig Deiniolen

Cynhelir yr Ysgol Sul am 10.15 o’r gloch ar fore Sul.      

Ar y trydydd dydd Sul o bob mis, Oedfa Deulu am 10.00 o’r gloch      

- cyfle i’r plant a’r oedolion addoli gyda’i gilydd      

Yr Oedfa Deulu nesaf  – dydd Sul, Mai 6, 2012 am 10.00 o’r gloch

 Y Sul nesaf,  Mai 27 -  Ysgol Sul am 10.15 o’r gloch

Ysgol Sul Capel Coch, Llanberis

Cynhelir yr Ysgol Sul am 11.15 o’r gloch ar fore Sul.   

Cynhelir oedfa deulu unwaith y mis am 10.30 o’r gloch      

- – cyfle i’r plant a’r oedolion addoli gyda’i gilydd      

Oedfa Deulu nesaf - Mai 27, 2012 am 10.00 o’r gloch       

Y Sul nesaf, Mai 27 -  Oedfa Deulu am 10.30 o’r gloch
 
 
  

Parti Nadolig 2010

 

Ar noson o eira …

 

… o Ddeiniolen a Llanberis …

 

… daeth y plant i barti’r Ysgolion Sul …

… a diolch am hynny, cyrhaeddodd Sion Corn hefyd.

Cwpan CIC Dolgellau

 

Tim pel droed 5 yr ochr Capel Coch a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Cwpan CIC Dolgellau, ddydd Sadwrn, Gorffennaf 17, 2010

 

  Gemau Giamocs – Uts e Nocowt

Noson o gemau hwyliog i blant Ysgolion Sul yr ardal 

(Plant Oed Ysgol Blwyddyn 3-6) 

yn Y Ganolfan, Llanberis 

am 7.00 o’r gloch, nos Wener, Mehefin 18 

 
 
 
 
 
 
  

 Penwythnos yng Ngholeg y Bala

 
 
 
 
 
 
 

 

 
 
 
 
 
 Aeth 17 o blant Ysgolion Sul Llanberis a Deiniolen am benwythnos i Goleg y Bala o nos Wener hyd ddydd Sul, Ebrill 23-25. Roeddem yn rhannu’r penwythnos efo Ysgol Sul Llanrug.

Cawsom amser arbennig o dda. “Colli ac Ennill” oedd teitl y cwrs, a chawsom hanes Iesu’n cerdded ar y dwr; Iesu’n iachau gwas y canwriad; Mair a Martha; a Sacheus. Clywsom am bwysigrwydd ymddiried yn Iesu; cael ffydd yn Iesu; gwrando ar Iesu; a gadael i Iesu newid ein bywydau.

Diolch yn fawr i Nia Williams, a Zoe, Gwilym a Steffan am eu croeso ac am ofalu amdanom. Diolch hefyd am y bwyd da a’r hwyl a gawsom ar y cwrs.

    

     

 

  NADOLIG 2009

   

Gwasanaeth Nadolig plant Capel Coch, nos Sul, Rhagfyr 20, 2009

 DIOLCH  

Diolch yn fawr iawn i Nia Williams, Blaen Cae Isaf, am ei gwaith yn arwain yr Ysgol Sul dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae Nia wedi penderfynu rhoi’r gwaith heibio ddiwedd y tymor hwn, a gwerthfawrogwn ei chyfraniad yn fawr iawn.  Mae wedi bod yn arweinydd gweithgar a gofalus, ac mae pawb sy’n gysylltiedig â’r Ysgol Sul yn gwybod mor ddyledus ydym iddi am bopeth a wnaeth dros y gwaith a thros y plant. Diolch yn fawr iawn, Nia.       

Picnic Ysgolion Sul Llanberis a Deiniolen

 Dydd Sul, Gorffennaf 19, 2009

 Bu raid cynnal y picnic yn festri Capel Coch oherwydd y tywydd, ond ni wnaeth hynny amharu’n ormodol ar yr hwyl.  Cafwyd digon o hwyl wrth chwarae gemau (a diolch i Andrew Settatree am ei help efo’r gemau.  Diolch hefyd am gael benthyg y parasiwt o Noddfa, Caernarfon).  Diolch i’r plant a’r rhieni am eu cefnogaeth.    

 bwyta    

   TRIP YSGOL SUL I SW CAER

 MEHEFIN 27, 2009

S8001498

 S8001486             S8001502   S8001507Aeth dros 70 ohonom ar y Trip Ysgol Sul i Sw Caer, a chafwyd diwrnod arbennig o dda.  Roedd y tywydd yn braf, ond heb fod yn rhy boeth.  Fe wnaeth pawb fwynhau ei hun, yn ôl pob sôn.  Cawsom swper yn y McDonalds yn Nhreffynnon ar y ffordd adref.       
Na! – nid yr un ohonom ni oedd yn gyfrifol am helpu 30 mwnci i ddianc, nes bod raid anfon pawn allan o’r Sw am gyfnod. Yr wythnos ar ôl i ni fod yno y digwyddodd hynny.  Doedd o ddim byd i’w wneud efo ni.  Fe wnaeth pawb ohonom ni fyhafio.  

  Cystadleuaeth y Pasg

Diolch i bawb a anfonodd luniau i’r gystadleuaeth.  Mae’r beirniaid, y Parchg Robert a Mrs Cath Townsend, wedi penderfynu ar y drefn hon ar ôl edrych yn ofalus ar yr holl luniau.      

1af – Ella      

Y bedd gwag - Ella, Deiniolen      

Bedd Iesu Grist - Ella, Deiniolen

2il – Alis      

Sul y Blodau - Alis, Deiniolen      

Sul y Blodau – Alis, Deiniolen

3ydd – Emma      

Y Swper Olaf - Emma, Deiniolen       

 Y Swper Olaf – Emma, Deiniolen      

Da iawn chi, a llongyfarchiadau i bawb ohonoch      

Diolch yn fawr iawn i’r beirniaid – roedd y gwaith o ddewis enillydd yn waith anodd iawn.   

  

 
 

Sylwadau ar gau.

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn