‘Daw hyfryd fis
Mehefin cyn bo hir
a chlywir y gwcw’n
canu’n braf yn ein tir.’
Braidd yn hwyr ydi hi i ddyfynnu’r hen bennill hwn heddiw â mis Mehefin eisoes wedi dod. Ond mi glywais y gog yn canu cyn iddo gyrraedd. Dim ond ychydig ddyddiau, cofiwch, ond digon i’r hen bennill ddal i fod yn berthnasol.
Wrth glywed y gog daw dau beth i’m meddwl. Yn gyntaf, mor anaml y’i clywaf. O bosib bod hynny’n arwydd nad ydw i’n mynd am dro’n ddigon aml, neu o leiaf nad ydw i’n mynd am dro i’r llefydd cywir. Ac yn ail, bod angen i rywun arall dynnu fy sylw at ganiad y gog cyn ac er mwyn i mi ei glywed. Anaml iawn – os o gwbl – y clywais i’r gog yn canu heb i rywun arall dynnu fy sylw ati.
Am y rhesymau hynny, mae’n debyg, anaml y clywaf i hi. Unwaith neu ddwy’r flwyddyn o bosib, os hynny hefyd. A dyw hi fawr o help chwaith bod llai o bobl erbyn hyn yn holi a glywais i hi ai peidio. Dwi’n sicr yn un o’r bobl sydd angen help yn y pethau hyn. Glywsoch chi’r gog eleni tybed?
Ond dowch i mi ofyn cwestiwn arall. Glywsoch chi Dduw? Glywsoch chi Dduw yn siarad â chi? I lawer, mae ei lais yn fwy dieithr o lawer na chân y gog nac unrhyw aderyn arall. Oes yna Dduw? Ac os oes, ydi’r Duw hwnnw’n dweud unrhyw beth wrthym? Ac os ydyw, oes modd i ni ei glywed? Dieithr a mud yw llais Duw i lawer heddiw, fel erioed. Chlywson nhw mohono, ac maen nhw’n argyhoeddedig nad oes ganddo ddim i’w ddeud prun bynnag.
Ond tybed ydyn nhw hefyd heb fynd am dro i’r llefydd cywir? I glywed llais Duw yn eglur mae angen mynd i’r Beibl ac at yr Efengyl. Mae’r gog a’i chân, fel popeth arall a greodd Duw, yn dweud rhywbeth wrthym am ei allu a’i ryfeddod. Ond yn y Beibl ac yn y Crist a ddatguddir ynddo y mae Duw wedi siarad fwyaf eglur amdano’i hun a’i gariad. Pa obaith sydd i neb glywed ei lais os nad yw’n mynd am dro’n fynych trwy dudalennau’r llyfr y mae Duw’n ei gyfarch ynddo?
Am wn i nad oes gywilydd mawr o orfod cyfaddef f’angen am help i glywed cân y gwcw. Heb yr help hwnnw, chlywn i mohoni o gwbl. Ac mae arnom help i glywed llais Duw yn ei Air ac yn Iesu Grist. Yr help mwyaf yw’r Ysbryd Glân sy’n egluro’r Beibl i’r sawl sy’n ceisio’i oleuni arno. Ewch am dro trwy Air Duw gan ofyn i’r Ysbryd eich helpu i’w ddeall ac i ymateb iddo fel y mae Duw am i chi wneud.
A does dim cywilydd chwaith mewn ceisio help pobl eraill i glywed Duw’n siarad trwy ei Air a thrwy ei Fab. Diolch am hynny, mae yna bobl sy’n llawer nes na mi at fyd natur ac sydd ganwaith mwy effro i ryfeddodau Cread ein Duw. A thrwy drugaredd Duw, mae yna bobl sy’n gyfarwydd â’i lais ac a fedr fod o gymorth i ninnau.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 4 Mehefin 2023