Saith wythnos i heddiw roedd hi’n Sul y Pasg, sy’n golygu ei bod yn Sulgwyn neu’n Bentecost heddiw. Ystyr y gair Pentecost yw ‘pum deg’: a chofio wnawn ni felly’r hyn a ddigwyddodd bum deg o ddyddiau wedi’r Pasg.
Yn aml iawn, cyfeirir at y Sulgwyn fel dydd pen blwydd yr Eglwys Gristnogol, ac mae’n hawdd deall pam. Dyma’r dydd y taniwyd yr Eglwys â nerth i fynd a chyhoeddi newydd da’r Efengyl. Dyma, felly, mewn un ystyr, ddydd yr Eglwys. Ac eto, nid dyna’r holl stori. Nid dyna ddechrau stori’r Pentecost hyd yn oed. Oherwydd nid fel dydd yr Eglwys y dylem feddwl am y Sulgwyn yn gyntaf oll, ond fel dydd yr Ysbryd Glân a ddisgynnodd mewn nerth ar yr apostolion.
Er pwysiced yr Eglwys yn nhrefn Duw, ac er mor werthfawr ydyw yn ei olwg, nid arni hi y dylem ganolbwyntio gyntaf heddiw, ond ar Ysbryd Glân Duw. Nid cymdeithas yr Eglwys sydd bwysicaf yn y dathliadau, ond person yr Ysbryd. Ac mor bwysig cofio nad dylanwad neu rym amhersonol yw’r Ysbryd Glân, ond person dwyfol. Duw ei hun ydyw; a thrwy ei Ysbryd ac yn ei Ysbryd y mae Duw yn dod atom. Neges y Pentecost yw bod Duw wedi dod at ei Eglwys ym mherson real a byw ei Ysbryd. Duw ei hun yw’r Ysbryd: Duw gyda ni; Duw ynom ni; Duw trosom ni. Fel y daeth Duw i’w fyd ym mherson ei Fab, mae wedi dod ym mherson ei Ysbryd.
Duw ei hun oedd nerth a gallu ei Eglwys o’r cychwyn cyntaf. Roedd yn bresennol gyda’i bobl, ac yn eu harwain a’u cynnal yn ei waith Ef, ac yn y bywyd Cristnogol. Roedden nhw wedi cael gorchymyn i beidio ceisio gwneud dim nes i’r Ysbryd ddod arnynt. Y gwir yw na fedren nhw wneud dim hebddo. Ac ar y Pentecost, daeth Duw atynt, i fod gyda hwy yn eu gwaith ac i fod yn dân a goleuni o’u mewn i’w bendithio a’u harwain.
Soniwn am y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. Dyma, felly, drydydd person y Drindod. Y ffaith mai person yw’r Ysbryd sy’n ei gwneud yn bosibl i ni sôn am ‘gymdeithas yr Ysbryd Glân’. Gyda pherson y cawn ni gymdeithas, ac nid gyda syniad neu ddylanwad neu effaith. A’r ffaith mai person ydyw sy’n golygu y gallwn ni alw arno a gofyn iddo ddod i’n bendithio. Gyda pherson yr ydym yn siarad, ac nid â grym neu allu.
Ar y Sulgwyn, ceisiwn bresenoldeb Duw. Ef ei hun, trwy ei Ysbryd, all wneud y gwahaniaeth o fewn ei Eglwys. Y person dwyfol hwn a ddaeth at ei bobl ar y Pentecost a fedr ein bywhau ninnau, a’n gwisgo â nerth ar gyfer ei waith. ‘Tyrd, Ysbryd Sanctaidd.’
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 23, Mai