Hwyl yn Y Bala

Mai 18, 2010

Plant Llanberis, Deiniolen a Llanrug yng Ngholeg y Bala, Ebrill 23-25, 2010

Advertisements

Dim cyfaddawd

Mai 18, 2010

Dyna beth oedd priodas sydyn!  Fuon nhw ddim yn canlyn yn hir.  A deud y gwir, prin ddeng niwrnod sydd ers eu bod nhw yng ngyddfau’i gilydd.  Os rhywbeth, roedd pawb yn meddwl bod un ohonyn nhw â’i llygaid ar rywun arall.  A doedd neb yn disgwyl i’r llall briodi o gwbl.  Does ryfedd bod pobl wedi synnu.  Cofiwch chi, does neb yn disgwyl i’r briodas bara mwy na phum mlynedd.  Mae nhw wedi addo bod efo’i gilydd am gymaint â hynny.  Ond fydd neb yn synnu os byddan nhw wedi ysgaru o fewn blwyddyn neu ddwy.

Er mwyn i’r briodas hon lwyddo bydd angen cryn dipyn o gyfaddawd o’r ddwy ochr.  Mae’r naill a’r llall wedi addo hynny wrth selio’r cyfamod.  Ond amser a ddengys a fyddan nhw’n cadw at yr hyn a addawon nhw.  Y drwg yw bod un gymaint cryfach na’r llall.  A dyw’r Ceidwadwyr ddim yn debygol o gyfaddawdu ar unrhyw beth y mae nhw wirioneddol eisiau ei wneud.  Fe wnawn nhw ildio yn y pethau bychain o bosibl, ond nid yn y pethau o bwys.  Fe gaiff y Democratiaid Rhyddfrydol druan eu ffordd ambell waith, ond nid yn y pethau mawr.  A bydd llwyddiant a dedwyddwch y briodas yn dibynnu ar allu’r blaid honno i ddygymod â’r fath sefyllfa.  Dylai dyddiau’r briodas fod wedi eu rhifo pan fydd gofyn i Nick Clegg a’i blaid wneud un cyfaddawd yn ormod, beth bynnag fydd hwnnw.

Fedrwn ni ddim gwadu ein bod ninnau yn yr eglwysi wedi cyfaddawdu mewn llawer i beth y blynyddoedd diwethaf yma.  Nid bod cyfaddawd yn beth da, chwaith.  Byddai’n rheitiach gennym allu sefyll yn gadarn dros yr hyn a gredwn, a thros yr hyn a deimlwn yw’r peth iawn i’w wneud.  Ond mae yna bwysau o du’r byd i ni gyfaddawdu, nes ein bod er enghraifft yn glynu mwy wrth safonau’r byd nag wrth Air Duw.  Ac mae yna bwysau arnom hefyd o’r tu mewn i’r eglwys i gyfaddawdu trwy beidio cyhoeddi a chredu rhai pethau sydd o bosibl yn annerbyniol yn yr oed sydd ohoni.

Ac felly, mae’n werth ystyried beth yw’r pethau na fyddem yn cyfaddawdu o gwbl ynglyn â nhw.  Beth yw’r pethau na fyddem yn fodlon ildio tir yn eu cylch o gwbl?  Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cyfaddawdu mewn llawer peth.  Dwyf fi ddim yn falch o hynny, er bod rhai o’r pethau wedi eu gwneud am resymau didwyll, gobeithio. A byddaf yn cyfaddawdu eto, fwy na thebyg.  Ond Duw roddo nerth i mi i beidio cyfaddawdu ynglyn ag un peth o leiaf.  A beth yw hwnnw?  Y ffaith mai Iesu Grist yw’r ffordd, a’r unig ffordd, at Dduw.  Gyda Phedr, mynnnwn nad “oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef  wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo”  (Actau 4:12).

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 16, Mai


Rhy hwyr

Mai 18, 2010

Faint o’r gloch fuoch chi’n bwrw’ch pleidlais ddydd Iau?  Oeddech chi ymysg y bore godwyr a wnaeth hynny cyn i’r gweddill ohonom olchi’r llestri brecwast?  Roedd hi’n ddigon distaw yn y Ganolfan yn Llanberis pan oeddwn i yno ddiwedd y p’nawn.  Aeth rhywun ohonoch i’r orsaf bleidleisio yn hwyr y nos, tybed?  Ac a gyrhaeddodd unrhyw un ohonoch yno â’i wynt yn ei ddwrn funudau’n unig cyn deg o’r gloch?
Cafwyd cwyno mawr mewn mwy nag un etholaeth nos Iau wedi i gannoedd o bobl fethu pleidleisio am na allai staff y gorsafoedd pleidleisio ymdopi â’r holl bobl a gyrhaeddodd yr un pryd yn ystod awr olaf y pleidleisio.  Digwyddodd hyn yn Sheffield, Lerpwl, Manceinion, Llundain a mannau eraill.  Er bod y bobl hyn yno cyn i’r gorsafoedd gau am ddeg o’r gloch, chawson nhw ddim bwrw pleidlais am na lwyddwyd i roi papur pleidleisio iddynt cyn deg o’r gloch.  Bydd y Comisiwn Etholiadau yn ymchwilio i’r helynt hwn, ond eisoes mae yna sôn y bydd rhai o’r bobl hyn yn siwio ar y sail bod eu hawiliau dynol wedi eu hamddifadu.

Cael eu gwrthod wnaeth pump o’r morynion yn un o ddamhegion Iesu Grist hefyd.  Roedden nhw wedi mynd i’r briodas heb olew yn eu lampau, ac wedi gorfod mynd i brynu olew pan oedd y priodbaf ar fin cyrraedd.  Wedi iddyn nhw ddod yn ôl, roedd drysau’r wledd wedi ei cloi.  Chawson nhw ddim mynd i’r wledd.  Ac yn wahanol i’r bobl na chafodd bleidleisio, ar y morynion eu hunain yr oedd y bai am hynny.  Doedd dim modd apelio yn erbyn y gwaharddiad; a doedd y merched ddim wedi cael yr un cam.

Yn y ddameg, roedd Iesu Grist yn dweud mor bwysig oedd hi i bobl fod yn barod am ddyfodiad Teyrnas Dduw.  Ni wyddom pryd y daw ein bywyd i ben a ninnau’n gorfod rhoi cyfrif i Dduw am y bywyd hwnnw.  Bydd raid i bawb sefyll gerbron gorsedd Barnwr Nef ryw ddydd.  Ac wrth ddweud “na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y Dyn”, mae Iesu’n cyfeirio at ei Ailddyfodiad ef ei hun, pan fydd yn dod yn ei ôl, yn Nydd y Farn.  Nid oes neb yn gwybod pryd y bydd hynny’n digwydd, a dyna pam fod Iesu’n pwysleisio’r angen i bobl fod yn barod.  A sut all pob fod yn barod?  Trwy gredu yn Iesu Grist, ac ymddiried ynddo ef i ateb drostynt pan fyddant yn sefyll gerbron gorsedd Duw.

Gwrthodwyd y pum morwyn.  “Nid wyf yn eich adnabod”, meddai’r priodfab.  A dywed Iesu’n glir y bydd yntau’n gwrthod llawer hefyd.  Ond ni arno ef fydd y bai am hynny, ac ni chaiff neb gam ganddo.  Oherwydd y mae ef wedi gwahodd pawb i gredu ynddo, er mwyn bod yn barod.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 09, Mai


Y meic

Mai 18, 2010

Mae’n amlwg eu bod nhw wedi gwella’n arw ers Steddfod Caerfyrddin yn 1974.  Byddech yn disgwyl hynny, wrth gwrs.  Petha go newydd oedden nhw bryd hynny, ac annibynadwy iawn hefyd.  Fe welais i’r sioe gerdd ‘Nia Ben Aur’ ym Mhafiliwn y Steddfod honno, er na chlywais i, fwy na neb arall oedd yno, fawr ddim chwaith.  Y meicroffons radio (radio-mikes) oedd y drwg.  Os cofiaf yn iawn, dim ond y meicroffon oedd gan Dewi Pws fel Y Brenin Ri oedd yn gweithio’n iawn y noson honno.  Ac aeth llond pafiliwn o bobl adre’n siomedig.

Byddai Gordon Brown wedi rhoi’r byd am un o feicronffonau Nia Ben Aur y diwrnod o’r blaen.  Ond mwyaf piti i’r Prif Weinidog, doedd dim o’i le ar y meic a wisgai o wrth iddo gyfarfod ag etholwyr yn Rochdale.  Anghofiodd Mr Brown nad oedd wedi diffodd y meic yn y car, ac fe’i clywyd yn siarad yn ddirmygus am y wraig y bu’n sgwrsio â hi funudau’n gynharach.

Er i’r cyfryngau wneud môr a mynydd o’r stori, cafodd Gordon Brown gryn gydymdeimlad gan bobl o bob plaid.  Mae’n hawdd deall pam.  Er gwaetha’r embaras mawr iddo, roedd llawer yn teimlo nad oedd y geiriau eu hunain mor ddrwg â hynny.  O leiaf, chafodd o mo’i ddal yn rhegi ac yn dweud pethau gwirioneddol wael am y wraig.  Ond hefyd, roedd llawer yn ddigon gonest i gydnabod eu bod hwythau’r un mor dueddol o siarad yng nghefn pobl eraill.  Nid gwleidyddion yn unig sy’n euog o hynny, wrth gwrs.

Fe wyddai’r Apostol Iago’n dda mor beryglus y gall geiriau fod.  Mae’n sôn yn ei lythyr yn y Testament Newydd am y drwg y gall y tafod ei wneud.  Mae’n cymharu’r tafod â llyw llong a ffrwyn ceffyl.  Fel y mae’r llyw a’r ffrwyn yn rheoli symudiad y llong a’r ceffyl, y mae’r tafod, er mor fychan ydyw, yn medru rheoli ein bywydau ni mewn ffordd.  Mae’r aelod bychan hwn o’r corff yn medry gwneud drwg mawr os nad yw dan reolaeth.  A dywed Iago mai rhan o’n problem fawr ni fel pobl yw na fedrwn reoli’r tafod.  Gall pobl, meddai, reoli pob math o anifeiliaid ac adar, ond ni allant reoli ei tafod eu hunain.  Ac fel y dangosodd Gordon Brown, gall dyn reoli gwledydd a methu rheoli ei dafod.

Mae angen gras arnom i reoli’r tafod fel nad ydym yn dweud pethau difriol am bobl.  Y perygl mawr a wêl Iago yw bod pobl  un funud yn bendithio Duw â’r tafod, a’r funud nesaf yn melltithio pobl â’r un tafod.  Gras a nerth Duw yn unig sy’n gallu’n cadw rhag y pechod hwnnnw.  Gweddiwn am gymorth Duw i allu siarad bob amser mewn ffordd sy’n glod i’w enw.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 02, Mai


Mynd i’r Bala

Mai 18, 2010

Yn ôl a glywais ar y radio nos Iau neu fore Gwener, roedd y tywydd i fod yn braf iawn ddoe.  Ddoe oedd diwrnod brafiaf y penwythnos i fod, a diwrnod cynhesaf y gwanwyn hyd yma.

Gobeithio mai felly buo hi, a ninnau wedi cychwyn i’r Bala bnawn Gwener efo plant yr Ysgol Sul.  Mae’n gwneud byd o wahaniaeth cael tywydd braf dros gwrs preswyl fel hwn er mwyn i’r plant gael mynd allan i chwarae.

Mae na sawl un wedi gofyn i mi dros y dyddiau diwethaf yma beth fyddwn ni yn ei wneud ar gwrs fel hyn.  Yr ateb syml, mae’n debyg, yw ‘cael hwyl wrth ddysgu am Iesu Grist’.

Hen goleg diwinyddol ydi Coleg y Bala lle cafodd llawer iawn o weinidogion eu haddysg flynyddoedd yn ôl.  Ond ers blynyddoedd dechrau 70au’r ganrif ddiwethaf, os cofiaf yn iawn, mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cynnal y lle fel canolfan breswyl ar gyfer gwaith plant ac ieuenctid.  Cynhelir cyrsiau yno yn rheolaidd ar gyfer plant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

Felly, beth fyddwn yn ei  wneud dros y penwythnos?  Mi gawn ni swper i ddechrau nos Wener  Yna fe gawn ni ddau sesiwn o ddysgu am y Beibl trwy wahanol weithgareddau, yn cynnwys gemau a gwaith llaw ac atio a chanu.  Dros y ddau ddiwrnod bydd gennym chwech o’r sesiynau hynny, a bydd digon o amrywiaeth o un cyfarfod i’r llall.  Mae’n nhw’n gymysgedd o Ysgol Sul ac ysgol a chlwb chwarae, a lot o bethau eraill mewn gwirionedd.  Bydd y plant yn treulio’r pnawn Sadwrn yn y Ganolfan Hamdden yn Y Bala, lle cawn nhw fynd i’r pwll nofio a chwarae yn y neuadd chwaraeon.  Nos Sadwrn, fe gawn nhw weld ffilm ar sgrin fawr yn y coleg ei hun.  Bydd yna gyfle hefyd rhwng y sesiynau i chwarae yn yr ystafell chwaraeon neu i chwarae ar dir y coleg.

Mae’n rhaid cyfaddef nad oes yno bob gyfleusterau drud fel a geir mewn canolfannau preswyl eraill.  Ond wedi dweud hynny, fe gaiff y plant ddigon o hwyl.  Ac nid cyfleusterau yw cryfder y lle, ond y ffaith bod pawb sydd yno yn gwneud eu gorau i ddangos i’r plant mor bwysig yw Iesu Grist i’w bywydau.  Mae’r gofal a gaiff y plant, a’r hwyl a gawn nhw wrth i bobl rannu’r newydd da am Iesu Grist efo nhw’n gwneud y Coleg yn lle arbennig ac unigryw.

Dros y blynyddoedd, cawsom amser da yno, ac ryw’n siwr yn down ni’n ôl y tro hwn eto wedi mwynhau dysgu am Iesu Grist yng nghwmni ein gilydd.  Welwn ni chi ddydd Sul, os na fydd yr awyren o’r Bala wedi cael ei chanslo oherwydd rhyw folcano neu’i gilydd!!


Picnic yr Ysgolion Sul – 2009

Mai 18, 2010
Hwyl y picnic! (Ewch i dudalen yr Ysgolion Sul)
Hwyl y picnic! (Ewch i dudalen yr Ysgolion Sul)


Eyjafjallajökull

Mai 18, 2010

Y llynedd colledion ariannol bancwyr Gwlad yr Ia oedd yn mynnu’r sylw.  Achosodd hynny gryn drafferth i lawer, yn cynnwys mwy nag un cyngor sir yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.  Roedd Gwlad yr Ia yn ôl yn y newyddion yr wythnos ddiwethaf yma, ond y tro hwn, nid cwymp y banciau ond ffrwydriad llosgfynydd oedd y rheswm.

Fe barodd y cwmwl lludw o losgfynydd Eyjafjallajökull i feysydd awyr dros ran fawr o Ewrop orfod atal pob taith awyren.  Ers dydd Iau, ychydig iawn o awyrennau sydd wedi hedfan, am fod perygl gwirioneddol i’r cwmwl lludw amharu ar eu peiriannau pe byddent yn hedfan trwyddo.  Bu’r awyr yn rhyfedd o wag a distaw, a dryswyd arferion teithio gwledydd cyfan mewn amrant.

Mae’r lluniau a welsom o’r llosgfynydd yn rhyfeddol.  Ac er pob perygl, mae yna (o bellter diogel, rhaid cyfaddef) brydferthwch eithriadol i’w rym a’i aruthredd.  Ni allaf amgyffred y grym hwnnw, ac ni allaf ddychmygu dyfnder y cwmwl lludw uwch ein pen.  Ond mae’r ychydig a welais (a’r llai fyth a ddeallais) yn dangos rhyfeddod byd Duw.  Y fath egni a dirgelwch sydd yn y byd a greodd ein Duw.  Ac mor rhyfeddol yw Duw ei hun, sy’n cynnal ac yn dal y cyfan yng nghledr ei law.  Mae’r mynydd sy’n ffrwydro, y tân sy’n llosgi, y lafa sy’n llifo, a’r lludw sy’n codi yn nwylo Brenin y bydysawd.  Mae’r cyfan dan ei reolaeth, a’i rym a’i allu Ef yn fwy na’r cwbl.

Beth allwn ei wneud ond cydnabod mawredd Duw a’n bychander ni ein hunain, a chyffesu ein dibyniaeth ar y Duw Mawr hwn.  Fe’n hatgoffwyd o’r newydd nad ydym yn feistri ar ein byd.  Er gwaethaf ein holl dechnoleg a’n holl gyfundrefnau, daeth pob rhuthro rhwydd i ben oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd fil o filltiroedd i ffwrdd, a miloedd o droedfeddi uwch ein pen.

Fe brofodd miloedd o deithwyr anghyfleustra mawr.  Ac eto, diolchwn na chlywyd, hyd yma o leiaf, am neb a laddwyd yng Ngwlad yr Ia nac unman arall.  O wybod am y dinistr a achosir gan losgfynyddoedd, mae cau meysydd awyr am sbel yn bris bach i’w dalu.  Dywedir i’r nwyon swlffwr o ffrwydrad Laki yng Ngwlad yr Ia yn 1783, er enghraifft, ladd cymaint â chwarter poblogaeth y wlad ynghyd â 23,000 o bobl yng ngwledydd Prydain.  Gallasai pethau fod yn wahanol y tro hwn oni bai am uchder y cwmwl, a’r tywydd sych, a sawl peth arall nad wyf fi’n sicr yn eu deall.  A diolchwn i Arglwydd y Cread am hyn oll.  Rwy’n deall bod rhai o aelodau’r Ofalaeth wedi eu dal yng nghanol yr helynt, ac edrychwn ymlaen at eu gweld adre’n ddiogel mor fuan â phosibl.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 18 Ebrill