Angen yr Arglwydd

Doedd dim angen gofyn ddwywaith. Roedd yr un gair yn ddigon. Biti na fyddai mor rhwydd a hynny bob amser.

Y bore Sul cyn yr Wyl Fawr oedd hi, ac fe anfonodd Iesu ddau o’i ddisgyblion i un o’r pentrefi ger Jerwsalem i nol ebol. Fe gaent yr ebol wedi ei glymu, ac roeddent i’w ryddhau a dod ag ef at Iesu. Os byddai rhywun yn gofyn beth oeddent yn ei wneud yn rhyddhau’r ebol, roeddent i ateb fod y Meistr (neu’r ‘Arglwydd’ yn ôl yr Hen Gyfieithiad) ei angen. Ac felly y digwyddodd. Pan glywodd perchenogion yr ebol hynny,gadawsant i’r disgyblion fynd â’r ebol. Ac ar yr ebol hwnnw yr eisteddodd Iesu a marchogaeth i Jerwsalem.

Roedd ar yr Arglwydd angen yr ebol, ac fe’i cafodd. Ac wrth i Iesu fynd trwy strydoedd y ddinas, cafodd ei groesawu gan y tyrfaoedd a’i gydnabod yn Frenin oedd yn dod yn enw’r Arglwydd.

Mae’n debyg mai ychydig iawn o’r dyrfa a sylweddolai beth yn union oedd natur brenhiniaeth Iesu Grist. Doedd o ddim yn frenin nerthol, milwrol, nac yn deyrn cadarn, didostur. Fe ddaeth y Brenin hwn i wasanaethu ei bobl ac i ddioddef dros ddeiliaid ei deyrnas. Does ryfedd bod pobl, wrth glywed bonllefau’r dyrfa ac wrth weld yr ebol a’i farchog, wedi dechrau holi “Pwy yw hwn?”

A’r ateb a rown ni ar Sul y Blodau yw mai dyma’r Proffwyd; dyma’r Athro; dyma’r Gwaredwr; dyma Fab y Duw byw; a dyma Frenin ein bywydau ni. Ac fel Brenin, mae’n deilwng o barch ac ufudd-dod ei bobl. Brenin y galon a’r meddwl a’r ewyllys yw Iesu, ac mae’n galw arnom i blygu’n llwyr iddo.

Pwy yw hwn? Iesu Grist, Brenin ei bobl. Beth mae’n ei ofyn gennym? Ein cariad a’n hufudd-dod. Pam ddylem ni gysegru ein holl fywyd er ei fwyn? Pam ddylem ni ildio ein holl fywyd iddo? Am fod yr Arglwydd eu hangen. Mae mor syml a hynny. Beth bynnag y mae’r Arglwydd yn ei ofyn gennym, fe ddylem ni ei roi iddo’n llawen, ac o gariad ato.

Wnaeth perchenogion yr ebol ddim holi ymhellach. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd bwriad Iesu. Ond roedd gwybod fod arno angen yr anifail yn ddigon. A dyna’r ildio llwyr a phrydferth y mae Iesu yn ei ofyn oddi wrthym ni. Mae arno angen ein doniau a’n heiddo a’n hamser a’n hegni a’n cartrefi a’n gwaith. Mae’n gofyn Ilawer oddi wrthym, wrth gwrs. Mae’n gofyn y cyfan sydd gennym, ac ni allwn ei ddilyn yn gywir heb roi ein hunain yn gyfan gwbl iddo. Ond nid yw’n gofyn gormod. Duw a’n helpo i sylweddoli hynny ac i roi’r cyfan iddo, am mai dyna yw angen yr Arglwydd.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 28 Mawrth

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: