Didcot a’r Groes

Roedd yna arddangosfa o luniau cyfoes yn Amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen yr wythnos ddiwethaf. Fum i ddim yno, ond fe welais gyfeiriad at un o’r lluniau a ddangoswyd yno. Roger Wagner yw’r arlunydd, a theitl y llun yw ‘Menorah’.

Canhwyllbren ag iddi saith cangen yw ‘menorah’. Yn Llyfr yr Exodus gorchymynwyd Moses i’w gosod yn y Tabernacl ger y Cysegr Sancteiddiolaf, lle dywedid bod Duw yn byw gyda’i bobl. Daeth yn symbol i bobl Dduw o bresenoldeb y Duw anweledig. Mae’n un o symbolau’r grefydd Iddewig o hyd.

Yr ysbrydoliaeth annisgwyl i’r llun oedd gorsafoedd Cynhyrchu Trydan Didcot, yn Swydd Rhydychen. Mae yno ddwy orsaf debyg o fewn hanner milltir i’w gilydd. Yn ôl y cylchgrawn Country Life mae gorsafoedd Didcot yn drydydd ar restr golygfeydd hyllaf y Deyrnas Unedig. Roedd yr olygfa wedi gwneud argraff fawr ar Roger Wagner, byth ers iddo weld Pwerdai Didcot wrth deithio ar y tren o Rydychen i Lundain. Roedd yr hagrwch a’r mwg yn ei atgoffa o amlosgfa; ond roedd yna rywbeth arall am yr olygfa yn mynnu ei sylw.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, fe wawriodd arno bod tyrrau’r pwerdai, o ryw ongl, ar ffurf menorah anferth. A dyna pryd yr aeth wagner ati i wneud ei lun arbennig. Penderfynodd gyfuno’r ddwy ddelwedd: ar y naill law, y tyrrau yn symbol o’r llygredd a’r erchylltra a greodd dyn; ac ar y llaw arall, ffurf y menorah yn symbol o bresenoldeb Duw gyda’i bobl yng nghanol holl ddrygioni’r byd. Ac i’r arlunydd o Gristion, yr un digwyddiad sy’n dangos y presenoldeb dwyfol hwnnw yng nghanol dioddefaint a budreddi’r byd yw marwolaeth Iesu Grist. Yn ei lun, felly, mae wedi gosod Pwerdai Didcot yn gefndir i’r Croeshoeiliad.

Ar yr olwg gyntaf, roedd pwerdai Didcot yn ddarlun o bopeth hyll, a’r llygredd yn awgrymu’r gwaethaf y gallodd dyn ei greu . Roedd y mwg a’r baw y pellaf peth oddi wrth Dduw. Ac mae’r groes yn dangos y byd hwn ar ei waethaf, â’r creulondeb a’r dioddefaint a welwn ar Galfaria yn gymaint rhan o’r drygioni sy’n rhemp o’i fewn. Hawdd y gellid meddwl nad yw Duw ar gyfyl yr olygfa.

Ac eto, yng nghanol y dioddefaint, gwelwn gariad Duw at fyd llygredig a phobl sydd wedi halogi’r berthynas ag ef. Ar y groes arw, gwelwn drugaredd Duw ar ei orau. Dan yr hoelion, a thrwy’r gri ddirdynnol, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?” gwelwn gariad Iesu yn ei barodrwydd i ddioddef cosb ein pechodau yn ein lle.

I ganol byd o ddrygioni y daeth Iesu. Mewn byd o bechod y llwyddodd i fyw ei fywyd perffaith. A thros fyd llwgr y bu farw. Doedd yna ddim byd prydferth am y ddefod o groeshoelio, ond fe wnaeth Iesu Grist y groes greulon yn brydferthwch cariad Duw at bobl fel ni.

Gobeithio bydd llun Roger Wagner yn atgoffa pawb a’i gwelodd, ac a’i gwêl eto, fod Calfaria’n brawf o gariad Duw at euog fyd.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 04 Ebrill

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: