Eyjafjallajökull

Y llynedd colledion ariannol bancwyr Gwlad yr Ia oedd yn mynnu’r sylw.  Achosodd hynny gryn drafferth i lawer, yn cynnwys mwy nag un cyngor sir yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.  Roedd Gwlad yr Ia yn ôl yn y newyddion yr wythnos ddiwethaf yma, ond y tro hwn, nid cwymp y banciau ond ffrwydriad llosgfynydd oedd y rheswm.

Fe barodd y cwmwl lludw o losgfynydd Eyjafjallajökull i feysydd awyr dros ran fawr o Ewrop orfod atal pob taith awyren.  Ers dydd Iau, ychydig iawn o awyrennau sydd wedi hedfan, am fod perygl gwirioneddol i’r cwmwl lludw amharu ar eu peiriannau pe byddent yn hedfan trwyddo.  Bu’r awyr yn rhyfedd o wag a distaw, a dryswyd arferion teithio gwledydd cyfan mewn amrant.

Mae’r lluniau a welsom o’r llosgfynydd yn rhyfeddol.  Ac er pob perygl, mae yna (o bellter diogel, rhaid cyfaddef) brydferthwch eithriadol i’w rym a’i aruthredd.  Ni allaf amgyffred y grym hwnnw, ac ni allaf ddychmygu dyfnder y cwmwl lludw uwch ein pen.  Ond mae’r ychydig a welais (a’r llai fyth a ddeallais) yn dangos rhyfeddod byd Duw.  Y fath egni a dirgelwch sydd yn y byd a greodd ein Duw.  Ac mor rhyfeddol yw Duw ei hun, sy’n cynnal ac yn dal y cyfan yng nghledr ei law.  Mae’r mynydd sy’n ffrwydro, y tân sy’n llosgi, y lafa sy’n llifo, a’r lludw sy’n codi yn nwylo Brenin y bydysawd.  Mae’r cyfan dan ei reolaeth, a’i rym a’i allu Ef yn fwy na’r cwbl.

Beth allwn ei wneud ond cydnabod mawredd Duw a’n bychander ni ein hunain, a chyffesu ein dibyniaeth ar y Duw Mawr hwn.  Fe’n hatgoffwyd o’r newydd nad ydym yn feistri ar ein byd.  Er gwaethaf ein holl dechnoleg a’n holl gyfundrefnau, daeth pob rhuthro rhwydd i ben oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd fil o filltiroedd i ffwrdd, a miloedd o droedfeddi uwch ein pen.

Fe brofodd miloedd o deithwyr anghyfleustra mawr.  Ac eto, diolchwn na chlywyd, hyd yma o leiaf, am neb a laddwyd yng Ngwlad yr Ia nac unman arall.  O wybod am y dinistr a achosir gan losgfynyddoedd, mae cau meysydd awyr am sbel yn bris bach i’w dalu.  Dywedir i’r nwyon swlffwr o ffrwydrad Laki yng Ngwlad yr Ia yn 1783, er enghraifft, ladd cymaint â chwarter poblogaeth y wlad ynghyd â 23,000 o bobl yng ngwledydd Prydain.  Gallasai pethau fod yn wahanol y tro hwn oni bai am uchder y cwmwl, a’r tywydd sych, a sawl peth arall nad wyf fi’n sicr yn eu deall.  A diolchwn i Arglwydd y Cread am hyn oll.  Rwy’n deall bod rhai o aelodau’r Ofalaeth wedi eu dal yng nghanol yr helynt, ac edrychwn ymlaen at eu gweld adre’n ddiogel mor fuan â phosibl.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 18 Ebrill

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: