Siomi

Dim ond dwy flynedd sydd ers i dim rygbi Cymru ennill y Gamp Lawn. Mae’n anodd credu hynny erbyn hyn wedi i’r tim golli ei drydedd gem o’r pedair a chwaraewyd hyd yma eleni. Mor sydyn y gall pethau newid ar y maes chwarae. Welais i mo’r gêm yn erbyn Iwerddon bnawn ddoe, ond yn ôl a glywais ar y radio wedyn, go dila oedd perfformiad y Cymry. Mae arwyr ddoe yn feidrolion ffaeledig heddiw.

Gall hynny ddigwydd mewn pob math o feysydd eraill hefyd wrth gwrs, yn cynnwys gwleidyddiaeth ac adloniant a chrefydd. Gan mai ffaeledig ydym ni oll, mae mor rhwydd i ni siomi ein gilydd a phobl eraill trwy fethu cyrraedd y safonau a ddisgwylir oddi wrthym a’r safonau a osodwn hyd yn oed i ni ein hunain.

A phan syrth y goron, mor rhwydd yw hi i bobl feirniadu neu droi cefn ar y sawl a fethodd. Mor hawdd yw ymosod ar y gwleidydd a’r seren bop a’r chwaraewr rygbi am unrhyw gam gwag.

Mwy anodd o lawer yw cydymdeimlo â’r sawl a’n siomodd; cefnogi’r un a wnaeth gamgymeriad; a maddau i’r un sydd wedi ein brifo. Ond dyna’r math o bethau y mae’r Arglwydd Iesu Grist yn galw arnom i’w gwneud. Dyna mae’n disgwyl i ni eu gwneud. A dyna mae’n ein helpu a’n nerthu i’w gwneud. Gall pawb ohonom gyfeirio at rywun a’n siomodd mewn rhyw ffordd. Mwy na thebyg hefyd i ninnau siomi pobl eraill ar adegau. Ar yr adegau hynny, does dim yn fwy melys na’r sylweddoliad bod pobl yn barod i faddau beth bynnag a wnaethom i’w siomi. Ac fe ddylai hynny wneud i ninnau fod yn ddigon hael a graslon i faddau i’r rhai sy’n ein siomi ninnau.

Daw’r Pasg cyn hir, a byddwn yn cofio’r Crist a faddeuodd fwy o lawer na’r siom o weld ei gyfeillion yn troi eu cefn arno. Fe wnaethon nhw ei adael a’i wadu, ac eto fe faddeuodd y cyfan iddynt. Fe faddeuodd hyd yn oed i’r bobl a’i gwawdiai wrth iddo grogi ar groes. A byddai Judas hyd yn oed wedi derbyn maddeuant am ei fradychu pe bai hwnnw wedi cydnabod ei fai a cheisio’i faddeuant.

Nid yw’r maddeuant hwn yn dod yn rhwydd, wrth gwrs. Peth anodd yw maddau, ond peth prydferth a gwerth ei wneud. Mae’n bosibl, diolch am hynny, trwy ras Duw. Ac mae’n debyg ei fod dipyn haws ei wneud pan welwn ni’r modd y mae Duw wedi maddau i ni, a phan wyddon rywbeth hefyd am gyfeillion yn maddau i ni’r pethau a wnaethom yn eu herbyn.

Gweddiwn o’r newydd, “Maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr”.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 14 Mawrth
<

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: