Terry Pratchett

Mae ambell i feirniad cystadleuaeth y Gadair neu’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi synnu’r gynulleidfa trwy gyflwyno’r feirniadaeth heb fath o nodiadau.  Cyflawnwyd camp debyg gan yr actor, Tony Robinson wrth iddo draddodi Darlith Richard Dimblebey y noson o’r blaen.

Traddodi’r ddarlith ar ran ei gyfaill, y nofelydd Terry Pratchett, oedd Tony Robinson, â’r ddarlith ar ei gof.  Mae Terry Pratchett yn dioddef o glefyd Alzheimer. Ac er iddo baratoi’r ddarlith ac annerch y gynulleidfa ar ddechrau’r noson, mae’r afiechyd erbyn hyn yn ei rwystro rhag darllen llawer.  Yn ei ddarlith, mae’n dadlau dros hawl pobl derfynol wael i gael cymorth meddygol i farw.  Mae’n dadlau y dylid sefydlu tribiwnlys a allai roi’r hawl hwn i bobl.  Byddai caniatad y tribiwnlys yn golygu na allai neb gael ei ddwyn gerbron llys am helpu rhywun i farw, fel sy’n gallu digwydd ar hyn o bryd pan yw’r rhoi’r fath help yn anghyfreithlon.

Nid dadl academaidd neu athronyddol yw hon i Terry Pratchett.  Mae’n codi o’i brofiad a’i ddioddefaint personol ei hun.  Ac oherwydd hynny, mae’n rhaid cydymdeimlo ag ef a phawb arall sy’n dadlau’n debyg iddo.

Ond nid yw hynny’n golygu na ellir anghytuno ag ef.  Ac ymhlith y bobl sy’n gwneud hynny, mae yna lawer sy’n derfynol wael, ond sy’n gwrthwynebu syniadau Terry Pratchett yn chwyrn.

Mae Terry Pratchett yn gwybod fod llawer yn anghytuno ag ef ar sail cred grefyddol.  Duw yw rhoddwr bywyd, ac yn amser Duw y dylai bywyd ddarfod.  Nid oes gennym hawl i benderfynu dirwyn bywyd i ben.  Mynnu a wna Terry Pratchett nad yw’r ddadl honno’n cyfrif iddo ef am nad yw’n credu yn Nuw yn y lle cyntaf.  Mae’n hawdd gweld ei resymeg, a rhaid cydnabod ei bod yn gwneud y dasg o ddadlau ag ef yn fwy anodd.

Ond pa ddadl bynnag a ddefnyddiwn er mwyn gwarchod bywyd ac amddiffyn cymdeithas rhag y peryglon posibl pe caniateid y fath dribiwnlysoedd ‘hawl i farw’, cofiwn fod gennym bob hawl i ddadlau ar sail ein ffydd. Os gall yr anffyddwyr seilio eu dadleuon ar y gred nad oes yna Dduw, mae gennym ni gredinwyr yr un hawl i seilio ein dadleuon ar y gred fod yna Dduw.  Wrth gwrs, rhaid i ni geisio deall dadleuon yr anffyddiwr, a sylweddoli nad oes fawr i’w ennill trwy ei gyhuddo o amharchu’r Duw nad yw’n credu    ynddo.  Ac os gwnawn ni hynny, mae gennym ninnau hawl i ddisgwyl bod ein barn ninnau’n cael ei pharchu, heb i bobl fychanu a sarhau ein cred a’n  hargyhoeddiadau dyfnion.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 07, Chwefror

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: