Undod Cristnogol

Rhyw sbio dros y ffens yn fusneslyd ydw i heddiw, yn gwylio – ac yn gwneud sylwadau – am yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud.  Yfory yw diwrnod cynta’r ‘Wythnos Weddi am Undod Cristnogol’.  Nid yr un yw hon a’r Wythnos o Gyfarfodydd Gweddi Dechrau Blwyddyn a gedwid ym mhob capel hyd yn gymharol ddiweddar.  (Gwaetha’r modd, daeth yr eira eleni i’n rhwystro rhag cynnal y cyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer yr wythnos honno).

Hyd y cofiaf, fum i erioed yn rhan o weithgarwch yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol.  Doedd hi ddim ar agenda’r eglwysi ym Mhen Llyn pan oeddwn yno, a doedd eglwysi’r ardal hon ddim yn ei chadw pan ddeuthum yma. Fyddwn ni ddim chwaith yn rhan o weithgarwch yr wythnos nesaf.

A dyna pam y dywedaf fy mod yn sbio dros y ffens.  Oes gen i hawl i sôn am yr Wythnos o gwbl, a minnau heb gymryd rhan ynddi?  Go brin.  Ond mi fentraf er hynny.  Wnes i erioed ddeall beth yn union a olygir wrth “undod eglwysig” yn y cyswllt hwn.  Ai sôn a wneir am yr undeb trefniadol a ddaw wrth uno eglwysi ac enwadau â’i gilydd?  Ynteu am addoli a chenhadu a chydweithio ar draws ffiniau enwadol o bob math?  Wnes i rioed wirioni am y naill, ac rwy’n ofni fy mod yn dipyn o sinig ynglyn â’r llall am fod yn ein gwlad fwy o lawer o siarad am gydweithio nag o’i wneud.

Nid rhywbeth i’w greu yw undod Cristnogol.  Ar un ystyr, nid rhywbeth i weddio amdano yw.  Mae gwir undod yn bodoli eisoes rhwng Cristnogion a’i gilydd.  Undod ysbrydol ydyw, ac y mae pob Cristion yn un â’i gilydd trwy eu perthynas â’r Arglwydd Iesu Grist.  Am ein bod yn un â’r Tad nefol yr ydym yn un â’n gilydd.  Yr ydym yn un yng Nghrist, i ba eglwys neu enwad bynnag y perthynwn.  Gallwn, a dylem weddio, i’r undod hwn gael ei ddangos mewn parch a chariad a chydweithio ymhlith Cristnogion yng ngwaith y Deyrnas.

Ofni rwyf, mae’n debyg, fod a wnelo llawer o’r sôn am undod Cristnogol fwy ag uno cyfundrefnau crefyddol nag â ffydd yn Iesu Grist.  Ofni hefyd bod llawer o sôn am dystio a chydweithio ac ychydig o sylw’n cael ei roi i beth yn union yr ydym yn tystio iddo.

Yn yr Arglwydd Iesu Grist y mae ein hundod.  Ef sy’n ein dwyn at ein gilydd yn un teulu o bobl sy’n ei gyffesu a’i garu.  Ynddo Ef yr ydym yn un â Christnogion o bob gwlad ac iaith a chyfnod.  Ie, yn un, er gwaethaf pob gwahaniaeth sydd rhyngom o ran gwlad ac iaith a chyfnod!  A dyna, mewn gwirionedd, wir ryfeddod ein hundod.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17, Ionawr

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: