Petai’r Apostol Paul yn dod i’r ardal hon heddiw, gallai wneud bywoliaeth iddo’i hun yn eitha rhwydd, mae’n siwr. Mae digon o alw am bebyll yn arbennig yn y tywydd braf presennol. Gwneud pebyll oedd y grefft yr oedd Paul wedi ei drwytho ynddi, a byddai’n ailafael yn y grefft honno o bryd i’w gilydd er mwyn ei gynnal ei hun. Ond nid oes yn Llyfr yr Actau unrhyw sôn amdano’n gwneud pabell ar gyfer yr eglwysi yr oedd yn eu sefydlu. Er iddo sefydlu llawer o eglwysi mewn gwahanol drefi a dinasoedd, nid oes sôn amdano’n codi’r un adeilad, boed babell neu gapel neu eglwys.
Ond os na chododd Paul yr un adeilad, beth yn union a sefydlodd? Mae’r gair ‘eglwys’ (o’r gair Groeg ekklesia) wedi colli ei ystyr i raddau helaeth. Ystyr y gair yw ‘cynulliad’. Mae’r gair yn cyfeirio at gynulliad o bobl. Yr hyn a sefydlodd Paul, felly, oedd cynulliadau o bobl oedd yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist ac yn perthyn i’w gilydd trwy eu perthynas newydd â Duw.
Yn syml iawn, felly, pobl yw eglwys. Ond dyna un o’r pethau yr ydym yn ei anghofio’n aml. Tueddwn i feddwl mai adeilad yw eglwys. Y mae gennym ni ein capeli, ac mae gan eraill eu heglwysi, meddwn. Ond camgymeriad yw siarad felly, gan mai pobl sy’n gwneud eglwys, ac nid brics a choed a cherrig. Gallwn ddweud heb unrhyw amheuaeth, felly, fod yr eglwys yn bwysicach na’r capel. Nid dweud bod un math o adeilad crefyddol yn fwy pwysig na’r llall yw hynny, ond dweud bod y bobl sy’n perthyn i’w gilydd ar sail eu fydd yn Iesu Grist yn bwysicach nag unrhyw adeilad.
Mor bwysig yw cofio hynny. Y mae ein hadeiladau yn bwysig, wrth gwrs, fel mannau cyfleus i bobl Iesu Grist ddod at ei gilydd iddynt. Mae’r eglwys yn bod ar wahan i’r un adeilad, boed gapel diaddurn neu gadeirlan ysblenydd. Ac os na sylweddolwn hynny, bydd ein Cristnogaeth yn ddiffygiol. Wrth ddod i’r capel (neu i’r adeilad a alwn ni’n ‘eglwys’) down i gymdeithas yr eglwys, y bobl sy’n dilyn yr Arglwydd Iesu Grist. Mwynhau’r gymdeithas hon, a’i meithrin, a chydweithio o’i mewn er mwyn yr Efengyl yw ein gwaith a’n braint. Pobl yw’r eglwys sy’n addoli Duw yn Iesu Grist ac yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn tystio iddo a gweithredu ei gariad. Pobl sydd yn un â’i gilydd yn eu hawydd i weld Efengyl Iesu Grist yn llwyddo. Pobl sydd yn caru ei gilydd ac yn gwneud eu gorau dros ei gilydd fel brodyr a chwiorydd.
Heb i ni weld yr eglwys o’r newydd mewn ffordd felly, nid oes obaith i ni weld llwyddiant a bendith i’w gwaith yn ein plith.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 27 Mehefin