Ar gefn y rhifyn hwn fe welwch lun o dim pêl droed Ysgol Sul Llanberis oedd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth 5 yr ochr yn Nolgellau ddoe. Fe gewch hanes y gemau (fel sy’n arferol mewn papur newydd) ar y dudalen gefn.
Ond mae’r newyddion pwysicaf (fel sy’n gweddu eto i bapur newydd) ar y dudalen flaen. Ac yn wahanol iawn i’r rhelyw o bapurau newydd, yn cynnwys y Daily Post yma yng Ngogledd Cymru, nid newyddion drwg mohono ond newyddion da.
Roedd y gystadleuaeth yn Nolgellau yn rhan o’r gweithgarwch Cristnogol sydd i’w gael ymhlith plant a ieuenctid mewn gwahanol rannau o Gymru’r dyddiau hyn. Yma ac acw ar draws y wlad mae yna gynlluniau Cristnogol sy’n darparu pob math o weithgareddau gyda’r bwriad o gyflwyno’r newydd da am Iesu Grist i blant a phobl ifanc gan geisio gwneud y Ffydd yn rhan o fywyd pob dydd.
Ddoe, er enghraifft, roedd mor braf gweld yr holl weithgarwch wedi ei drefnu gan bobl ifanc yn eu hugeiniau. Mae rhai ohonynt, fel Andrew yma gyda ni yng Nghynllun Efe a Gwenno Teifi yn ardal Meironydd, mewn gwaith Cristnogol llawn amser. Maent yn rhan o’r gweithgarwch am eu bod eisiau rhannu’r Efengyl a’r profiad a gawson nhw o’r Arglwydd Iesu yn ffrind a Gwaredwr. Wedi’r gemau, a chyn y serernoni cyflwyno’r gwobrau cafodd y plant glywed gan un o’r hogia ifanc oedd yn trefnu ac yn dyfarnu’r gemau am Iesu Grist, yr un sy’n ein cyfrif ni’n werthfawr yn ddigon gwerthfawr i farw drosom ar Groes. A chyn i bawb gael barbiwcw efo’i gilydd amser cinio buom yn gwrando ar fand ifanc y “Society Profiad” yn rapio caneuon llawn o neges fawr yr Efengyl y tu allan i’r Clwb Rygbi ar gaeau’r Marian. Roedd cornel o Ddolgellau’n atseinio i swn cyhoeddi Iesu Grist yn Arglwydd a Cheidwad. Pwy a wyr nad oedd y criw oedd yn paratoi i chwarae criced ar y cae nesaf wedi clywed rhywbeth a wnaeth iddynt feddwl am Iesu Grist o glywed y canu? Roedd y band wedi bod ar daith yr wythnos ddiwethaf, a’r daith honno ymysg Ilefydd eraill wedi mynd â nhw i garchar Altcourse yn Lerpwl lle cawsom nhw gyfle i rannu’r Ffydd Gristnogol.
Mor hawdd yw dweud nad oes dim i godi’r galon o ran y Ffydd yng Nghymru. Cofiwn o’r newydd fod yna lawer yn digwydd, a bod ymhlith y genhedlaeth ifanc lawer o bobl a welodd fawredd a phrydferthwch Iesu Grist. I Dduw y mae’r diolch am bawb a ddaeth i ffydd yn Iesu, wrth gwrs. Ac wrth ddiolch iddo, gweddiwn y bydd llawer mwy eto’n dod i’r ffydd honno.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 18 Gorffennaf