Dim ond wrth ymweld ag atyniadau twristaidd y bum i dan ddaear. Doedd dim angen mynd yn bell ar gyfer un o’r ymweliadau mwyaf cofiadwy, wrth gwrs, sef y daith mewn bws i grombil mynydd Elidir. Bum hefyd yn hen waith copr Sygun ym Meddgelert a Cheudyllau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Profiad arbennig hefyd oedd ymweld â’r Amgueddfa Lofaol yn y Pwll Mawr ym Mlaenafon. A’r haf hwn, bum yng nghrombil hen chwarel yng ngogledd Ffrainc. Roedd hwnnw’n un o’r llefydd yr oedd yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn bwriadu ei ddefnyddio i danio rocedi i ymosod ar Lundain.
Ond er i mi ymweld â’r fath lefydd, fedraf fi ddim dychmygu bod dan ddaear go iawn. Un peth yw mynd mewn bws neu dren bach neu ar droed trwy dwnelau a stafelloedd enfawr a naddwyd o’r graig. Peth gwahanaol iawn yw bod mewn ogof neu dwnel cyfyng. Rwy’n darllen nofel ar hyn o bryd ag ynddi ddisgrifiad o bobl yn cloddio twnel cul, ryw dair troedfedd o led, 70 troedfedd dan y ddaear. Mae darllen y peth yn ddigon o hunllef.
A dyna pam na fedraf ddychmygu beth mae’r 33 o ddynion sydd wedi eu dal dan ddaear yn San José yn Chile yn ei wynebu ar hyn o bryd. Maen nhw yno ers Awst 5, ac ofnir y bydd hi’n Ddolig erbyn iddyn nhw gael eu rhyddhau. Dyna bedwar mis arall felly dan ddaear. Ac er eu bod ym mhen draw’r byd i ni, gallwn weddio drostynt. Gweddiwn y cant eu cadw’n iach, yn gorfforol a meddyliol ac emosiynol, a chael eu hachub mor fuan ag y bo modd.
Dwn i ddim faint wyddai’r Salmydd am ogofau a chrombil daear. Ond mae’n sôn amdano’i hun yn galw ar Dduw o ddyfnderoedd ei angen. Ar ddechrau Salm 130 dywed, ‘O’r dyfnderau y gwaeddais arnat, O Arglwydd’, gan sôn am ddyfnder ei euogrwydd, a’r teimlad o ryddhad o brofi maddeuant. Ac yn Salm 40, dywed am ei ddyhead mawr am gymorth Duw ac am atebiad i’w weddiau; ac mae’n disgrifio’r rhyddhad a gafodd wedyn yn nhermau cael ei godi ‘i fyny o’r pwll lleidiog, allan o’r mwd a’r baw’.
Profiad hunllefus ac uffernol fyddai bod yn gaeth dan ddaear, heb allu gwneud dim i’n hachub ein hunain, a heb fath o sicrwydd o gael ein dwyn i olau dydd. Ac er na allwn, ac na fynnem chwaith, ddweud ein bod yn deall profiad y 33 yn San José, mae pwll dwfn euogrwydd am bechod yn hunllef ac yn orthrwm enaid i bawb sy’n methu darganfod y rhyddhad a ddaw trwy’r maddeuant yn Iesu Grist. Boed i Dduw waredu’r rhai sy’n galw arno heddiw o’r dyfnderoedd llythrennol ac ysbrydol.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 29 Awst