Ddydd Gwener, daw cyffro’r Cwpan Ryder i Gasnewydd. Pan ddaw honno i ben ddydd Sul nesaf, bydd Gemau’r Gymanwlad yn cychwyn yn yr India. Yn y naill a’r llall, yn wahanol iawn i gymaint o ddigwyddiadau eraill ym myd chwaraeon, nid arian fydd yn cymell y cystadleuwyr. Yr anrhydedd o gynrychioli gwlad (neu gyfandir), a’r posibilrwydd o ennill cwpan neu fedal fydd y cymhelliad mawr.
Mor wahanol i’r hyn a welwyd mewn cystadleuaeth snwcer yn yr Alban yr wythnos ddiwethaf. Llwyddodd Ronnie O’Sullivan i suddo pob pêl a sgorio’r uchafswm o 147 o bwyntiau. Ac fel y gwyr pawb sy’n chwarae neu wylio snwcer, mae hynny’n gryn gamp. Ond roedd O’Sullivan am fodloni ar sgôr o 140 a pheidio mynd i’r drafferth o suddo’r bêl ddu olaf. A’r rheswm am hynny oedd nad oedd gwobr ariannol hael i’w chael am sgorio 147. Byddai O’Sullivan yn debygol o gael £4,000 am sgôr uchaf yr wythnos, ond welai o ddim pwrpas i sgorio 147 os nad oedd yna ffortiwn fach i’w chael am wneud hynny.
Mae’n anodd gwybod pa mor o ddifrif oedd O’Sullivan. Roedd o wedi holi beth oedd y wobr ar gychwyn y ffrâm, pan oedd wedi sgorio 8 pwynt. Mae’n amlwg ei fod yn credu bryd hynny y gallai sgorio’r uchafswm. Mae’n bosibl mai tipyn o hwyl ar ei ran oedd holi am y wobr arbennig a ‘bygwth’ peidio suddo’r bêl olaf. Ond, bwriadol neu beidio, llwyddodd i roi’r argraff mai’r unig beth o bwys oedd yr arian, a bod y cyffro a’r wefr o lwyddo gryn dipyn llai pwysig.
Mae yna wefr i’r bywyd Cristnogol, sef dilyn yr Arglwydd Iesu Grist. Mae adnabod Iesu yn wefr; mae sylweddoli’r fath drysor sydd yn yr Efengyl yn wefr; mae byw yn nerth Crist yn wefr. Dyna pam y gallai’r Apostol Paul ddweud mai “Byw i mi yw Crist”. Dweud yr oedd mai Crist oedd byw iddo; Crist oedd ei fywyd. Iesu Grist oedd yn rhoi gwerth ac ystyr a phwrpas i’w fywyd. A’r un wefr y mae Cristnogon ar hyd yr oesoedd wedi ei phrofi wrth ymddiried yn Iesu, a’i ddilyn mewn ffydd.
Ond mae’n debyg bod pob Cristion yn gorfod cydnabod iddo golli’r wefr hon ar brydiau. Gall hynny ddigwydd wrth i ni gyfrif pob math o bethau eraill yn bwysicach na’r Efengyl. Er mwyn i Grist fod yn drysor, mae’n rhaid iddo fod yn bwysicach na dim arall i ni. I lawer o bobl, nid oes unrhyw fath o synnwyr mewn dweud mai Iesu Grist yw’r trysor pennaf. Ond i bawb sydd wedi gweld a phrofi’r ffordd y mae Duw wedi ein caru trwy ei Fab, Iesu, mae’r dweud hwn yn gwneud perffaith synnwyr.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 26 Medi