Credydau

Dros yr wythnosau diwethaf clywsom lawer o sôn am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd i fudd-daliadau a chredydau o bob math.  Bu sôn am dorri’r naill a’r llall i filoedd o bobl.  Does ryfedd bod yna bryder mawr ynghylch yr hyn sydd i ddod dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Ddydd Gwener, roedd Aelod Seneddol o’r enw Paul Burstow, Gweinidog Gwasanaethau Gofal Llywodraeth San Steffan, yn canmol cynllun sy’n cael ei weithredu yn Japan ers rhyw ugain mlynedd.  Yn ôl y cynllun hwn, mae pobl sy’n gwirfoddoli i helpu’r henoed neu bobl anabl yn ennill ‘credydau’.  Caiff y ‘credydau’ hyn eu ‘bancio’ ar gyfer y dydd y bydd y gwirfoddolwyr angen gofal.  Neu gall y gwirfoddolwyr ddefnyddio’r credydau i sicrhau gofal i’w teulu neu i’w ffrindiau.  Er i’r gweinidog ganmol y cynllun hwn, mae’r Adran Iechyd yn dweud nad yw’n fwriad gan y Llywodraeth i gyflwyno trefn debyg. 

Heb wybod digon am y ffordd y mae’r cynllun yn gweithredu yn Japan, na sut y mae’n ffitio diwylliant y wlad honno, does gennym ni ddim hawl i bwyso a mesur ei werth.  Ond mae’n sicr yn wahanol i’r ddelfryd sydd gennym yng ngwledydd Prydain, bod gan bawb hawl i’r gofal gorau posibl pan fydd mewn angen amdano. 

Mae yna rywbeth chwithig iawn hefyd am y syniad y gallai’r gofal a gaiff pobl yn eu henoed neu mewn anabledd, ddibynnu i raddau helaeth ar y gwaith gwirfoddol y maent hwy (neu deulu neu ffrindiau iddynt) wedi ei wneud.  Beth os nad yw pobl wedi gwneud digon?  Beth os na chawsant gyfle i wneud gwaith gwirfoddol oherwydd cyfrifoldebau eraill?  Beth os byddai pobl wedi gwneud blynyddoedd o waith gwirfoddol, ond bod hwnnw mewn maes heblaw gofalu am yr henoed a’r anabl? 

Mae’r holl beth rywsut yn f’atgoffa am gyfiawnhad trwy weithredoedd, sef y gred ein bod yn cael bendithion Duw ar sail ein gweithredoedd da.  Yn ôl y syniad hwn, cawn ein derbyn gan Dduw, a chael y bywyd tragwyddol, am ein bod yn llwyddo i wneud pethau da.  Ac ydi hi’n ormod i ddweud bod rhai hyd yn oed yn credu bod duwioldeb rhieni a thaid a nain yn rhyw fath o ‘gredydau’ y gellir eu trosglwyddo i’r plant, er mwyn i’r ail a’r drydedd genhedlaeth fod yn Gristnogion hefyd?

Ond mae’r cyfan yn annigonol am na all neb wneud digon o weithredoedd da i haeddu ei le yn Nheyrnas Dduw.   Ac os na allwn ni ennill ein lle ein hunain, mae’n amlwg na allwn sicrhau lle i neb arall.  Ond diolch am hynny, ffydd yng Nghrist, ac ni gweithredoedd, sy’n ein gwneud ni’n gyfiawn yng ngolwg Duw.  

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 31 Hydref

Traed o glai

Ddydd Gwener, roedd Wayne Rooney ar ben ei ddigon, wedi derbyn codiad cyflog sylweddol ar ôl cytuno i aros yn Manchester United.  Does gen i ddim bwriad i sôn am hynny heddiw.

Yr un diwrnod, roedd peldroediwr arall, a oedd yn un o chwaraewyr mwyaf dawnus ei genhedlaeth, yn y newyddion hefyd.  Dim ond 43 mlwydd oed yw Paul Gascoigne o hyd, ond daeth ei yrfa i ben flynyddoedd yn ôl oherwydd anaf difrifol i’w goes.  Ac ers hynny, neidio o un helynt i’r llall fu ei hanes.  Roedd wedi ei rybuddio ddechrau’r wythnos ddiwethaf y gallai fynd i’r carchar ar ôl cael ei ddyfarnu’n euog o yfed a gyrru unwaith eto.  Ddydd Gwener, roedd yn ôl yn y ddalfa, wedi ei gyhuddo’r tro hwn o fod â chyffuriau anghyfreithlon yn ei law.

Yn ei ddydd, roedd Paul Gascoigne yn arwr i filoedd o gefnogwyr pel-droed.  Ond ers blynyddoedd, gwelwyd mai traed o glai, a hwnnw’n glai brau iawn hefyd, sydd ganddo.  Dyna’r gwir am bob arwr y mae pobl yn mynnu ei wneud iddynt eu hunain, wrth gwrs.  Ond rywsut, er mawr dristwch, mae’n arbennig o amlwg yn achos Gascoigne.

Fel cymaint o bobl eraill, mae Paul Gascoigne wedi dwyn rhan fawr o’i drafferthion arno’i hun.  Ond ni ddylai hynny olygu na allwn gydymdeimlo ag ef a dymuno y gall mewn rhyw ffordd gael ei fywyd i drefn.  Mor drist yw gweld cysgod gwan o’r seren ddisglair a fu ugain mlynedd yn ôl.

Ond nid yw Gascoigne yn unigryw o bell ffordd.  Mae ein byd yn llawn o arwyr a gwympodd ar dir caled iawn.  Ac nid arwyr yn unig sy’n sefyll ar draed o glai.  Mae chwalfa a llanast mor amlwg ym mhob rhan o’n cymdeithas, a chaledi a dioddefaint o bob math mor gyfarwydd.

Yn nhymor y Diolchgarwch, diolchwn am y bendithion sydd gennym trwy ras Duw.  Ond cyn i’r tymor fynd heibio, cofiwn o’r newydd am bobl y mae eu bywydau yn chwilfriw oherwydd pob math o amgylchiadau a thrafferthion.  Pe na fyddai Paul Gascoigne yn gyn beldroediwr rhyngwladol, prin y byddai neb yn sylwi arno nac yn malio amdano.  Ac un o’r pethau anodd y mae Duw yn ein galw i’w wneud yw malio am bobl yng nghanol eu trafferthion.  Waeth i ni heb â thwyllo ein hunain: y mae ymestyn mewn cariad at bobl yn eu helyntion a’u hanawsterau yn eithriadol o anodd.  Mae’n costio mewn amser ac ymdrech ac arian i’r rhai sy’n mentro ei wneud.  Ond mae gan Gristnogion esiampl ac anogaeth eu Harglwydd i’w hysbrydoli.  At y gwael, yr anafus, y tlawd a’r dirmygedig y daeth yr Iesu, ac ynddo ef y cawn ninnau’r nerth a’r gras i’w efelychu.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 24 Hydref

Campo Esperanzo

‘Estamos bien ên el refugio los 33’.  Dyna, o bosibl, fydd geiriau mwyaf cofiadwy’r digwyddiadau rhyfeddol a welwyd yn Chile’r wythnos ddiwethaf.  ‘Mae’r 33 ohonom yn ddiogel yn y lloches’ oedd y neges a ysgrifennwyd ar y nodyn a anfonwyd o’r dyfnderoedd ar Awst 22. 

Erbyn hyn, codwyd y dynion o grombil y ddaear, ac mae’r gwersyll a drodd yn dref fechan uwchben pwll San José yn gwagio.  Cyn bo hir, fydd neb ar ôl.  Ond mae’n sicr y bydd rhywbeth i nodi mai yno y gwelwyd y ddrama fawr a ddaliodd sylw’r byd.  A phe byddai angen adnod i gofio Campo Esperanza (neu ‘Wersyll Gobaith’), byddwn i’n awgrymu hon o wythfed bennod y llythyr at y Rhufeiniaid.  ‘Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub.  Ond nid gobaith mo’r gobaith sy’n gweld.  Pwy sy’n gobeithio am yr hyn y mae’n ei weld?’

Mae Campo Esperanza’n wag.  Does mo’i angen bellach gan fod y dynion wedi dod i’r lan.  Am 69 niwrnod llecyn gobaith oedd y darn tir diffaith hwn.  A gwireddwyd y gobeithion.  Bellach, nid gobeithio, ond diolch a rhyfeddu a llawenhau y mae’r teuluoedd a phawb arall a fu yno.  Ie, pwy sy’n gobeithio am yr hyn y mae yn ei weld?   

Pobl sy’n gobeithio yw Cristnogion.  Dyna ddywed Paul wrthym yn yr adnod hon.  Sôn y mae am y nefoedd a’r bywyd tragwyddol.  Mae’n dweud bod y Cristion wedi cael ei achub trwy Iesu Grist.  Y mae yn ddiogel; y mae ar ei ffordd i’r nefoedd, ac yn sicr o gyrraedd yno.  Ond ddim eto.  Mae’r Cristion yn perthyn i ddau fyd.  Mae’n byw ar y ddaear.  Mae’n derbyn a mwynhau  bendithion gorau’r byd hwn, ac yn gwneud ei orau yn nerth Duw i wynebu ‘dioddefiadau’r presennol’ i gyd.  Ond mae ei lygaid hefyd ar y nefoedd.  Pa mor dda bynnag y bywyd hwn, mae’n gwybod fod Duw wedi addo’r nefoedd i bawb sy’n credu yn Iesu Grist.  Nid yw wedi gweld y pethau hynny.  Ond diolch am hynny, am bethau nad ydym wedi eu gweld y gobeithiwn.

Ryw ddydd, cawn ninnau roi heibio pob gobaith.  Ryw ddydd, cawn adnabod Duw yn llawn.  Ryw ddydd, cawn weld Iesu wyneb yn wyneb.  Ryw ddydd, cawn lawenydd a thangnefedd perffaith.  Fyddwn ni ddim mwyach yn gobeithio am y pethau hynny, ond byddwn wedi eu profi.  Ond ar hyn o bryd, Campo Esperanza’r byd hwn yw ein lle.  A diolch i Dduw ei hun am hynny.   Braint pob Cristion yw mwynhau bendithion Duw yn ei fyd.  Gwnawn hynny yn nerth Duw.  Gwnawn bob ymdrech i wasanaethu Duw ac i wasanaethu ein gilydd, gan ddal ein gobaith yn gadarn yn yr hyn sydd wedi ei addo.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17 Hydref

Bargen Orau

Dwi wedi bod yn Stesion Bangor lawer gwaith y blynyddoedd diwethaf yma, ond dim ond i nôl a danfon rhywun.  Fedra i ddim cofio pryd oedd y tro dwytha i mi fy hun fynd ar dren ‘mawr’ (ar wahan i un siwrnai fer o ganol Caerdydd i’r Bae adeg Eisteddfod yr Urdd flwyddyn neu ddwy yn ôl).  Dwn i ddim pam fod hynny chwaith gan fy mod yn eitha sicr y baswn i’n mwynhau taith dren yn fawr.

Mae’n siwr gen i bod pawb sy’n teithio ar dren yn glyfar.  Mae angen bod yn glyfar i sicrhau cael y fargen orau wrth brynu tocyn.  Mae’r prisiau’n amrywio cymaint o dren i dren ar yr un daith.  Be wnewch chi o hyn, er enghraifft?  Mi fum yn holi am bris siwrnai o Barrow i Fangor y diwrnod o’r blaen.  £55 oedd y pris a roddwyd i mi am y tren 6 o’r gloch a ddeuai trwy Gaer.  Roedd hwnnw’n swnio’n ddrud iawn i mi.  Ond rywsut, mi sylweddolais i y cawn i’r un tren o Barrow i Gaer am £5 ac y cawn i ddod o Gaer i Fangor am £15.  Hynny ydi, mi gawn i deithio (ar yr un tren) o Barrow i Fangor am £20.  Pa synnwyr sydd mewn peth felly?  Fe allwn i dalu £55 am rywbeth sydd i’w gael am £20.  Ac mae’n bosib y byddai modd cael pris llai fyth pe byddwn i’n deall y drefn ac yn gwybod lle i chwilio. 

Hen beth cas yw teimlo y gallai rhywun fod yn manteisio arnoch.  Pa degwch sydd mewn trefn sy’n gwneud i rywun dalu dwbl y pris am yr un peth?  Mor braf fyddai gwybod ein bod yn talu pris teg am nwyddau neu wasanaeth?

Diolch byth nad yw Duw’n amrywio’r pris y mae’n ei ofyn gennym am ei ffafr a’i fendith.  Gyda Duw, nid oes raid ofni y bydd y telerau’n newid.  Yr un yw gofynion Duw o hyd, o ddydd i ddydd ac o oes i oes.  Yr un ag erioed yw’r pris sydd i’w dalu am y bywyd tragwyddol.  Nid yw Duw yn gofyn mwy na llai gennym ni heddiw nag a ofynnodd i genedlaethau o’n blaen.  A’r un fydd Duw yn ei ofyn yfory hefyd.  Fydd y pris ddim llai na dim mwy byth.  Gallwn fod yn sicr i ni gael cynnig y fargen orau.

Gallwn fod yn sicr nad oes bargen well i’w chael.  Derbyniwn Iesu Grist yn Waredwr heddiw.  Nid oes mwy na gwell i’w gael.  Y cyfan a ofynnir yw ein bod yn ymddiried yn Iesu i’n gwneud ni’n ddigon da i Dduw.  Dyna’r telerau, ac nid yw Duw’n gwyro oddi wrthynt.  Dyna a ofynnodd gan ei bobl erioed, ac dyna y mae’n dal i’w ofyn.  c ni fydd yn gofyn dim gwahanol yfory chwaith.  Mae wedi addo ei ofal a’i gariad a’i ddiogelwch tragwyddol i bwy bynnag sy’n ymddiried yn ei Fab Iesu.  Does dim angen, a does dim pwrpas, chwilio am fargen well gan nad yw’r pethau hyn i’w cael ond ynddo ef.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 03 Hydref