Tywydd braf

Nos Sadwrn diwethaf roeddem yn troi’r cloc yn ôl a hynny’n arwydd eglur bod y gaeaf yn dod.  Ac roedd holl wynt a glaw dechrau’r wythnos yn awgrymu ei fod wedi dod yn sydyn iawn.  Ond er syndod, diolch am dywydd braf oeddwn i ac eraill yn Llanberis echnos a ddoe.  Cawsom dywydd sych, braf echnos ar gyfer y noson tân gwyllt a drefnwyd gan Ysgol Dolbadarn.  Roedd hynny mor annisgwyl o gofio bod digwyddiadau tebyg wedi gorfod cael eu gohirio mewn pentrefi eraill yn yr ardal yn gynharach yn yr wythnos.  A bore ddoe, cawsom dywydd rhyfeddol o gynnes a sych ar gyfer taith gerdded noddedig tîm pêl droed y plant o amgylch Llyn Padarn.  Roedd cael y fath dywydd yn gwneud byd o wahaniaeth i lwyddiant y ddau ddigwyddiad. 

Felly, gwaith rhwydd iawn i mi heddiw yw diolch am noson braf i ddotio at liw a chyffro’r tân gwyllt a bore hyfryd i fwynhau taith hwyliog o amgylch y Llyn.  Roedd hwnnw fel drych llonydd, a’r mynyddoedd i’w gweld yn glir, a’r cyfan yn ein hatgoffa am harddwch byd Duw.  Fedrwn ni ddim rheoli’r tywydd, ond petai modd i ni wneud hynny ar gyfer digwyddiadau arbennig, fyddem ni ddim wedi gallu trefnu gwell nag a gafwyd y tro hwn.

Ond fe allasai pethau fod yn wahanol, wrth gwrs.  A gwn y bydd yna ddyddiau eto pan fydd tywydd drwg yn difetha’n trefniadau.  Daw’r glaw a’r eira i’n gorfodi i ohirio rhyw ddigwyddiad neu’i gilydd.  A phan ddigwydd hynny, does ond gobeithio y gallwn, er gwaethaf pob siom, ddal i ganmol gofal Duw am ei fyd a’i ddaioni i ni.  Mae arnom angen sychder haf ac oerni’r gaeaf, gwres yr haul a gwlybaniaeth glaw.  Wrth ddiolch amdanynt, yr ydym yn cydnabod nad eiddom ni’r gallu na’r hawl i benderfynu pryd yn union y daw’r cyfan i ni.

Ac fel y diolchwn am ofal a daioni Duw yn y gwres a’r glaw, gallwn ddiolch hefyd, gobeithio, am ei ofal amdanom trwy brofiadau o bob math.  Pan fo bywyd yn rhwydd a’n cerddediad yn ddirwystr, gallwn foli Duw.  Ond pan fo bywyd yn anodd, a’r cymylau’n cau amdanom, gallwn hefyd gobeithio, trwy drugaredd, ganfod Duw yn gymorth parod.  Un o ryfeddodau’r bywyd Cristnogol yw bod pobl yn gallu canu mewn adfyd a dal i ganmol Duw yng nghanol trafferthion o bob math.

Yng ngwres y dydd ac yn storm y nos, diolchwn am y llaw ddwyfol sy’n ein gwarchod a’n cynnal.  Dyna’r peth mawr, wrth gwrs.  Does neb yn dweud bod ymddiried yn beth hawdd i’w wneud pan fo pethau’n galed.  Dydi canu mewn adfyd ddim yn rhwydd.  Nid ynom ni y mae’r cryfder, ond yn Nuw ac yn gras a rydd i’w bobl. 

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 07  Tachwedd

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: