Y gwynt

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i’n canmol y tywydd braf a gawsom ni’r dyddiau cynt. Ond wrth i mi ddechrau sgwennu hwn yn hwyr nos Iau, mae’n go wahanol. Mae’n wyntog ac yn wlyb, ac maen nhw’n addo gwaeth dros nos.

Y dyddiau diwethaf yma, dywedodd mwy nag un wrthyf eu bod yn bryderus pan glywant fod gwynt cryf i ddod. Byddai’n well ganddynt law ac eira mawr na gwynt cryf. Ac mae’n hawdd deall pam eu bod yn dweud hynny. Fedrwn ni ddim rheoli’r gwynt. Ddim mwy nag y gallwn reoli’r glaw a’r eira. Ond rywsut, mae rhu nerthol y gwynt yn ymddangos yn fwy o fygythiad.

Fedrwn ni ddim gweld y gwynt, wrth gwrs. Clywed y gwynt a wnawn ni, a gweld ei ôl: dail ar lawr; brigau’r coed yn crynu; llechi’n rhydd o’r to; dillad yn dawnsio ar lein; a llong hwyliau’n symud dros y tonnau.

Clywed swn o’r nef ‘fel gwynt grymus yn rhuthro’ a wnaeth yr Apostolion pan ddaeth yr Ysbryd Glân arnynt ar ddydd y Pentecost (Actau 2:2). Welodd neb yr Ysbryd a ddaeth i’w llenwi. Ond trwy eu hyder a’u brwdfrydedd newydd dros gyhoeddi’r Efengyl, roedd yn amlwg i bawb bod rhywbeth mawr wedi digwydd iddynt. Cyn hynny, roedd Iesu ei hun wedi dweud bod y “gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei swn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd. Felly mae gyda phob un sydd wedi ei eni o’r Ysbryd’ (Ioan 3:8).

Ni allwn esbonio dirgelwch y gwynt. Ac ni allwn ddeall na rheoli ei rym. Ond gallwn weld ei effeithiau. Mae’r Ysbryd Glân fel gwynt yn chwythu, ac fe welwn ei ôl ym mywydau’r rhai y mae’r Ysbryd wedi eu cyffwrdd. A does dim rhaid ofni’r gwynt hwn. Mae’n wir ei fod yn chwythu ymaith ein balchder a phob syniad sydd gennym ein bod ni’n ddigon da i’r Brenin mawr fel yr ydym. Ond mae’n gwneud hynny er mwyn anadlau bywyd newydd i ni: y bywyd sy’n dod o wybod mai Iesu Grist sy’n dod â ni i berthynas gywir â Duw. Rhywbeth i’w groesawu, yn hytrach na’i ofni, yw awel dyner a gwynt nerthol Ysbryd Glân Duw.

Fyddwn ni ddim bob amser yn clywed y gwynt. Ond wrth weld coeden wedi cwympo neu wal wedi dymchwel, fe wyddon ni fod y gwynt wedi bod. A phan welwn ni bobl yn caru Iesu Grist, yn tystio i’w gariad, yn mwynhau’r Beibl a gweddi ac addoliad, yn gwneud ymdrech newydd i gadw gorchmynion Duw, ac yn awyddus i ddilyn Iesu, fe wyddom fod yr Ysbryd wedi bod ar waith ynddynt. Dyna’r unig esboniad ar y bywyd newydd y mae pobl wedi ei gael wrth ddod i gredu yn Iesu Grist a’i adnabod.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 14 Tachwedd

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: