Trafod cwn oeddwn i efo rhywun yn ddiweddar pan ddywedais na allwn i fyth fod yn bostmon, am na fyddwn i’n mentro at yr un tŷ a gai ei warchod gan gi. Byddai’r llythyrau heb eu danfon, a minnau mewn helynt byth a hefyd.
Ac eto, rhyw fath o bostmon ydw i a phob gweinidog arall o ran hynny. Oherwydd danfon neges yw ein gwaith ninnau, ond mai neges fawr yr Efengyl yw honno. Cyfrifoldeb y postmon yw mynd â’i lythyrau, ac ymddiriedwyd i ninnau’r dasg o fynd â neges fawr ein Duw at bobl. Rydym yn perthyn i gwmni mawr o weithwyr sy’n cludo’r neges hon i bob cwr o’r byd.
Ond mae yna un gwahaniaeth mawr rhyngom a’r postmon. ’Dyw hwnnw fel arfer ddim yn gwybod beth yw’r neges y mae’n ei chario. Does dim angen iddo wybod beth sydd yn yr amlen na beth ddywed y llythyr. Dim ond cludo’r neges a wna. Ond gwyddom ni beth yw’r neges a gawsom. Sut allem drosglwyddo’r Efengyl heb wybod beth ydyw? Y mae’r Efengyl yn hysbys i ni ac yn werthfawr yn ein golwg.
Hyd y gwelaf, yr un yw cerddediad y postmon beth bynnag y mae’n ei gludo. Nid yw’n sioncach ei droed am ei fod yn cario cerdyn post nac yn llusgo’i draed am mai bil y dreth sydd ganddo. Danfon y post, yn brydlon a chywir, sy’n cyfrif ac yn rhoi boddhad iddo. Ond gwerth yr Efengyl ei hun sy’n cymell gweision Duw. Mae honno wedi cydio ynom, a ninnau wedi dod i’w charu a’i thrysori. A pho fwyaf ein cariad ati, mwyaf hefyd ein hawydd i’w chyhoeddi. Pa obaith fydd gennym o gyflwyno’r Efengyl yn effeithiol os na fydd ein calonnau yn y gwaith?
A beth yw’r neges sy’n cipio serch y galon? Y neges am gariad Duw yn Iesu Grist. Y neges syfrdanol am Dduw yn anfon ei Fab i farw dros eraill. Ac nid marw dros gyfeillion a wnaeth Iesu hyd yn oed, ond marw dros elynion. Y newyddion da yw bod, yn Iesu Grist, obaith i bobl nad oedd obaith iddynt. Mae gobaith er i ni fethu cadw deddfau Duw, ac er ein bod yn haeddu cael ein gwrthod ganddo. A’r newyddion gorau yw nad yw’r gobaith hwnnw’n dibynnu arnom ni o gwbl, ond ar Iesu a’r hyn a wnaeth ef drosom. Mae’r Efengyl yn glir ac yn syml ac yn berthnasol. Bu farw Crist yn ein lle ni, er mwyn i ni gael byw gydag ef.
Rywsut, mae angen i ni fagu’r hyder i gyhoeddi’r neges hon o’r newydd. I wneud hynny, mae’n rhaid bod yn siŵr ohoni. Rhaid i ni beidio cymylu’r neges mewn unrhyw ffordd. Ac yna, mae’n rhaid cofio nad ydym ni ar wahân i’r neges. Neges i’w chyhoeddi â’n holl galon yn y gwaith yw hon. Ewch, a chyhoeddwch yr Efengyl.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 30, Ionawr 2011