Hed amser

Hed amser!
Meddi Na!
Erys Amser
Dyn â

Petaech chi wedi rhoi mil o bunnoedd i mi, fyddwn i ddim wedi cofio mai dyna’r geiriau a dorrwyd ar ochrau’r garreg y mae’r deial haul yn sefyll arni ar lawnt Cwod y Brifysgol ym Mangor. Fe gerddais heibio’r garreg gannoedd o weithiau yn ystod y pum mlynedd a dreuliais yn y coleg, ond roeddwn wedi hen anghofio’r geiriau.

Wn i ddim pwy dorrodd y geiriau ar y garreg. Ond pwy bynnag oedd, fe allai fod wedi atalnodi’r geiriau’n well! Mae’n debyg mai fel hyn y dylid eu darllen: “‘Hed amser’, meddi? Na! Erys amser, dyn â.” Dyna’n sicr sy’n wir os yw awgrym Huw Llewelyn Williams mewn ysgrif yn Y Drysorfa yn 1957 yn gywir, sef mai cyfieithiad o eiriau bardd Saesneg o’r enw Austin Dobson ydynt: “Time goes, you say? Ah no, Alas, Time stays, we go.” (Neu, fe allai’r geiriau Cymraeg fod yn gyfieithiad o’r pennill Ffrangeg gan fardd o’r enw Ronsard a aralleiriwyd gan Dobson).

‘Hed amser’, meddwn ninnau’n aml, ac mae’n rhyfedd meddwl ein bod yn cyrraedd pedwerydd Sul y flwyddyn newydd heddiw: wythnos arall, a bydd mis cyfan wedi mynd. Ydi, mae amser yn hedfan heibio mor sydyn. Y mae’r blynyddoedd yn diflannu.

Beth bynnag a ddywed y bardd, neu’r athronwyr am amser, mi fyddwn i’n tueddu i ddweud ei fod yn hedfan yn hytrach nag aros. Mae’r munudau a’r oriau’n mynd heibio, a fedrwn ni’n sicr ddim eu cael yn ôl. Mae hynny’n ein dysgu i wneud yn fawr o bob munud, fel rhodd Duw i’w defnyddio er daioni ac er gogoniant iddo Ef.

Na, fyddwn i ddim yn cytuno â’r bardd bod amser yn aros. Mynd mae amser, yn y byd hwn beth bynnag. Ac eto, mi fyddwn i’n cytuno â’r geiriau olaf sy’n dweud mai dyn sy’n mynd. Y mae amser yn hedfan, ac y mae dyn yn mynd. Brau yw ein bywyd, ac mae wythnosau cyntaf y flwyddyn newydd wedi dangos hynny i ni eto. Ac wrth i ni gael prawf rhy fynych o’r breuder hwnnw, diolchwn i Dduw am gael credu fod ein breuder wedi ei lyncu gan ein Harglwydd Iesu Grist. Trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad, mae ef wedi delio â’n breuder mewn ffordd gwbl ryfeddol. Mae wedi ei lyncu; mae wedi ei goncro; mae wedi cael gwared ohono’n llwyr. Ie, mynd yw hanes dyn. Ond trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist, ein gobaith rhyfeddol yw bod dyn, er iddo fynd, yn aros hefyd yn dragywydd. Mae gennym addewid sicr Duw bod y bywyd tragwyddol yn eiddo i bawb sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 23, Ionawr 2011

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: