Mae gennym gyfle i fwrw pleidlais mewn Refferendwm ddydd Iau. Yn syml iawn, mae angen ateb y cwestiwn, “A ydych yn dymuno i’r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?” Y ddau ateb posibl yw “Ydw” neu “Nac ydw” Mae’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru’n gytûn eu bod eisiau i bobl Cymru ddweud “Ydw”.
Mae’r pleidiau’n gytûn am eu bod yn gweld hwn yn fater syml o wella’r ffordd y mae’r Cynulliad yn gweithio. Bydd cael y gallu i lunio deddfau yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt yn hwyluso gwaith y Cynulliad, ac yn arbed amser gwerthfawr. Gobeithio bydd pobl Cymru yn ateb “Ydw” yn glir ddydd Iau. Corff gwleidyddol ifanc iawn yw’r Cynulliad, ac mae’n rhyfedd fel y mae’r bobl sydd am ein perswadio i ddweud “Na” ddydd Iau yn gweld bai arno am broblemau oedd yn bod ymhell cyn sefydlu’r Cynulliad o gwbl.
Mater syml yw dweud “Ie” ddydd Iau. A mater syml iawn hefyd yw ‘bwrw pleidlais’ o blaid y Ffydd Gristnogol. Bydd cyfle mae’n debyg i wneud hynny yn nes ymlaen ym mis Mawrth, wrth lenwi ffurflenni’r Cyfrifiad, ac ateb cwestiwn am ein crefydd. Ond mae mwy o lawer i’r mater na rhoi tic mewn blwch ar bapur. Ac eto, mae’n dal yn fater syml iawn. Oherwydd gallwn ddangos ein bod o blaid y Ffydd trwy gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist a’i gyffesu.
Gallwn wneud pethau’n fwy cymhleth nag ydynt efo’r Refferendwm. Does a wnelo’r Refferendwm hwn ddydd Iau â dim ond sicrhau’r gallu i’r Cynulliad i wneud ei waith yn fwy hwylus. Dyna pam fod y pleidiau’n gallu cytuno â’i gilydd mor barod. Does dim dadl neu anghytundeb pleidiol ynglŷn â’r mater. A gobeithio y bydd pobl Cymru wedi deall hynny.
A gallwn wneud pethau’n fwy cymhleth nag ydynt efo’r Ffydd Gristnogol hefyd. Nid beth a faint a wyddom am Y Beibl sy’n cyfrif, na pha mor grefyddol neu ysbrydol ydym, na faint a wnaethom dros y Ffydd a thros yr eglwys. Yr hyn sy’n dangos ein bod o blaid y Ffydd ac yn Gristnogion yw’r ffaith ein bod wedi dweud “Ydw” wrth Iesu Grist trwy gredu ynddo fel Gwaredwr a’i dderbyn yn Arglwydd ein bywydau. Felly bu hi erioed. Felly’r oedd hi yn Oes y Seintiau pan oedd Dewi a’i gyd genhadon yn teithio’n gwlad i bregethu’r Efengyl. Felly bu hi byth ers hynny. Felly mae hi o hyd. Ac felly bydd hi. Ffydd yn Iesu Grist yw’r un peth angenrheidiol. Perthynas fyw â’r Arglwydd Iesu yw swm a sylwedd y cyfan. A chyn y Refferendwm ddydd Iau, cawn gofio hynny ddydd Mawrth ar Ddydd Gŵyl Ddewi.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 27 Chwefror, 2011