Deled y gwanwyn

Cawsom gawod eira gyntaf y gaeaf hwn ddiwedd mis Tachwedd.  Ac yna, wrth gwrs, daeth yr eira mawr cyn y Nadolig.  Aeth wythnosau heibio ers hynny, nes ein bod yn teimlo y dylai’r gaeaf fod wedi hen orffen  erbyn hyn. Ond dim ond wythnos oed yw mis Chwefror, ac mae pob rheswm yn dweud y gall y gaeaf bara am wythnosau eto.

Ac eto, er gwaetha’r rhew a’r oerni, mae’r eirlysiau i’w gweld ers wythnos neu ddwy bellach.  Unwaith eto, mae’r blodau gwynion yn arwyddion fod y gwanwyn ar ddod.  Pa mor hir a chaled bynnag y gaeaf, daw’r gwanwyn a’i dyfiant a’i fywyd newydd yn y man.

Ond does dim gwarant tebyg o wanwyn ysbrydol.  Mae’n wir mai’r Duw sy’n cynnal y greadigaeth ac yn trefnu’r tymhorau sydd hefyd yn cynnal ei eglwys ac yn trefnu ei hynt.  Ym myd natur, fel ym mywyd yr eglwys, mae nerth Duw ar waith a gras Duw i’w weld.  Mae’r bydysawd, fel yr eglwys, yn gwbl ddibynnol ar Dduw; a byddai’r byd a’r eglwys wedi darfod amdanynt oni bai am allu a daioni Duw.  

Ac eto, nid yr un rheolau sydd ar waith yn y cread a’r eglwys.  Rhoed addewid y daw’r tymhorau; ac yn ei drugaredd  mae Duw’n cadw’r addewid honno.  Fe ddaw pob tymor yn ei bryd.   Beth bynnag a glywn y dyddiau hyn am newid hinsawdd ac am gyfrifoldeb pobl i warchod y cread, y mae’r tymhorau’n dal yn llaw gadarn Duw.  Fe ddaw’r gwanwyn eleni, beth bynnag a wnawn ni.  Fe ddaw yn amser Duw, ac ni allwn ni ei rwystro na’i brysuro, am fod y Brenin Mawr wedi gosod y drefn ar gyfer ei fyd.

Ond nid yr un yw’r drefn o fewn yr eglwys gan nad oes gennym warant y cawn o reidrwydd wanwyn newydd.  Ni allwn heddiw ddweud bod gwanwyn newydd yn sicr o ddod i erthylu’r gaeaf oer beth bynnag a wnawn ni fel pobl Dduw.  Does dim rheol na threfn sy’n dweud fod rhaid i’r gwanwyn ddod eto i’n gwlad a’n bröydd.  Ac oherwydd hynny, fedrwn ni ddim eistedd yn ôl a chysuro ein hunain trwy ddweud fod pethau’n sicr o wella, am fod rhaid i’r rhod – rywsut, rywbryd – droi.

Ond nid peri i ni anobeithio a wna’r sylweddoliad hwn, ond ein hysbrydoli gobeithio i geisio’r gwanwyn, a hyd yn oed i’w brysuro.  Dymuniad cariadus Duw yw bendithio ei bobl a llwyddo ei eglwys.  Mae hynny’n sicr.  Ac mae’r un mor sicr ei fod yn dymuno i ni ymbil arno i roi ei fendithion mawr.  Fedrwn ni ddim geni’r gwanwyn.  Ond fe all Duw!  Gweddïwn, felly, y bydd Duw yn ei ras yn bywhau ei waith a’i eglwys yn ein plith.  Disgwyliwn yn hyderus a gobeithiol am y gwanwyn y mae ein Duw mor awyddus i’w roi i’w bobl.   

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 06 Chwefror, 2011

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: