Colli wnaeth y rhan fwyaf ohonom yn y Gyllideb ddydd Mercher. Un arwydd pendant o hynny yw’r ffaith y bydd pobl dros 80 oed yn cael £100 yn llai at eu costau ynni’r gaeaf nesaf, er bod cost nwy a thrydan wedi codi cymaint yn ddiweddar. Dal yng nghrafangau’r gaeaf economaidd ydym yn ôl pob golwg.
Colli fu hanes peldroedwyr Cymru ddoe, ac mae gwanwyn newydd ein tîm cenedlaethol yn ymddangos mor bell ag erioed.
A cholli awr fu’n hanes ninnau yn ystod y nos ar ddechrau Amser yr Haf, ond mae gobaith o wanwyn. Gwelsom y dydd yn ymestyn ers wythnosau, a gwelwn wahaniaeth amlwg eto heno. Does ond gobeithio y cawn ni dywydd braf y gwanwyn a’r haf.
Ond ’dyw colli pres a gem ac awr yn ddim o’u cymharu â’r colledion mawr a gafodd pobl oherwydd daeargryn a tswnami a gormes a brwydro yn ystod y dyddiau a’r wythnosau diwethaf. Daliwn i gofio am y bobl sydd wedi dioddef cymaint mewn trychinebau naturiol ac oherwydd creulondeb pobl at ei gilydd.
Ond yng nghanol yr holl sôn am golli, diolchwn heddiw y gallwn sôn am rywbeth sy’n ennill mawr i ni, gan mai dyna’n sicr yw Efengyl Iesu Grist a’i bendithion. Does neb ar ei golled wrth ddod at yr Arglwydd Iesu Grist. Elw mawr yw’r Efengyl i bawb sy’n ei chredu gan fod Iesu’n rhoi bywyd i ni, sef bywyd o lawenydd a gobaith. Mae Cristnogion yr oesoedd wedi profi bod hynny’n wir, a dyna mae pawb sy’n credu yn Iesu heddiw yn ei brofi hefyd.
Heddiw yw dydd y Cyfrifiad yng ngwledydd Prydain. Ydych chi wedi llenwi’r ffurflen a nodi eich enw ac enw pawb sy’n byw neu’n aros acw? Un o fendithion mwyaf yr Efengyl yw ei bod yn rhoi sicrwydd i bawb sy’n credu yng Nghrist fod eu ‘henwau yn llyfr y bywyd’ (Philipiaid 4:3). Mae Duw ei hun yn datgan mai ei bobl ef ydym, ac mai ei bobl ef fyddwn ni, heddiw ac am byth.
Ond neges fawr Y Beibl yw bod rhaid i bobl dderbyn cynnig Duw o fywyd tragwyddol. Mae’n rhaid ymateb mewn ffydd i’r Iesu, neu golli’r cyfan sy’n cael ei gynnig trwyddo. Ond oherwydd cariad a thrugaredd Duw, does dim rhaid i neb golli’r bendithion hyn. Mae Duw’n gwahodd pawb i gredu a chael y trysor mwyaf; ond os yw pobl yn gwrthod Iesu, maen nhw’n colli’r cyfan.
Bydd pobl Iesu Grist yn diolch am byth am y gras a gawsant i dderbyn yr Arglwydd Iesu fel eu Gwaredwr, gan mai trwyddo ef y maent yn derbyn y bendithion mwyaf gwerthfawr sydd gan Dduw ar eu cyfer.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 27 Mawrth, 2011