Mul

‘Doeddwn i ddim yn awyddus i bregethu am yr asyn’, meddai ffrind i mi wrthyf y diwrnod o’r blaen. Wedi bod yn meddwl am bregeth ar gyfer Sul y Blodau oedd o. Diolch am hynny, roedd o’n sylweddoli nad yr asyn oedd y peth pwysicaf yn y stori, ac fe lwyddodd i baratoi ei bregeth, a gobeithio y caiff hwyl ar ei thraddodi heddiw.

Hyd y gwyddon o’r hyn a ddywedir yn yr efengylau, chafodd y disgyblion ddim trafferth efo’r asyn. Fe anfonodd Iesu ddau o’i ddisgyblion i Fethphage i nôl yr asyn. Doedd neb wedi marchogaeth arno cyn hynny, meddai Marc wrthym yn ei efengyl, ond fe lwyddodd y disgyblion i ddod ag o at Iesu, ac fe eisteddodd Iesu arno a marchogaeth i Jerwsalem. Mae’r Brenin yn dod i’w ddinas, ac mae’r asyn hyd yn oed yn ildio iddo.

Ond mor wahanol i’r syniad arferol sydd gennym am yr asyn yw hynny, a ninnau wedi arfer siarad am bobl sy’n ‘styfnig fel mul’. Ac nid syniad newydd mo hwnnw chwaith, gan fod y Salmydd ganrifoedd lawer yn ôl wedi sôn am y ‘march a mul direswm y mae’n rhaid wrth ffrwyn a genfa i’w dofi cyn y dônt atat’. Sôn am y mul a wnaeth y Salmydd er mwyn rhybuddio pobl rhag bod yn debyg i’r creadur hwnnw: ‘Paid â bod fel march neu ful’ (Salm 32:9).

‘Hyfforddaf di a’th ddysgu yn y ffordd a gymeri’, medd y Salmydd. Mae’r ffordd honno, fel y dengys y Salm, yn golygu cydnabod ein pechod ac ymddiried yn yr Arglwydd. Ond yn eu styfnigrwydd, mae llawer yn gwrthod gwneud hynny, gan fod yn amharod i gyfaddef bai a mynnu ymddiried ynddyn nhw eu hunain yn hytrach nag yn yr Arglwydd.

Ac er ei holl swn wrth groesawu Iesu Grist i’r ddinas, roedd tyrfa Sul y Blodau yn ddigon tebyg i’r mul styfnig y soniodd y Salmydd amdano. Fe weiddodd y bobl, ’Hosanna’, ond cyndyn iawn oedden nhw i bwyllo ac ystyried pa fath o frenin a ddeuai atynt ar gefn yr asyn. Roedd ganddyn nhw eu syniadau, a doedd yna ddim a ddywedai nac a wnai Iesu a fyddai’n gwneud iddyn nhw ailystyried. Roedden nhw’n disgwyl Mesiea nerthol a fyddai’n arwain y genedl i ryddid, ac yn glynu wrth y syniad hwnnw. Er i Iesu egluro ei fod wedi dod i wasanaethu yn hytrach na chael ei wasanaethu, doedd y dyrfa ddim yn barod i dderbyn hynny. Ac oherwydd y styfnigrwydd hwn, fe drodd y dyrfa yn ei erbyn cyn diwedd yr wythnos.

Gwyliwn rhag y styfnigrwydd a wna i ninnau wrthod ufuddhau i alwad Iesu i droi ato mewn edifeirwch a ffydd. Mae’n dangos i ni ffordd ddiogel i’w chymryd; ac fel dywed y Salm, ‘gwyn ei fyd’ y sawl sy’n ei dilyn.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17 Ebrill, 2011

Haint

Un o’r negeseuon anarferol a gefais yn ddiweddar oedd cyfarwyddyd oddi wrth Ysbyty Gwynedd i gadw draw oddi yno am y tro oherwydd yr haint sy’n blino nifer o wardiau’r ysbyty. Rwyf wedi ufuddhau i’r cyfarwyddyd hwnnw, yn y gobaith o beidio dal yr haint na chwaith ei drosglwyddo i neb arall. Gobeithio bod y penderfyniad i gyfyngu ar ymweliadau wedi bod o help i atal yr haint rhag lledaenu.

Cadw pobl rhag dod i gysylltiad â’r haint yw’r ffordd orau o sicrhau nad yw pobl yn ei ddal. Ac yn aml iawn, dyna’r syniad sydd gan bobl hefyd am ddrygioni. Rhyw fath o haint yw pechod, meddir, a’r gamp yw cadw pobl rhag ei ddylanwad. Mae hynny wrth reswm yn beth clodwiw, a gwnawn ein gorau i ddiogelu ein hunain, ac yn arbennig ein plant, rhag dylanwadau drwg o bob math. Ac ar y cyfan, mae pobl yn gobeithio bod y mwyafrif ohonom yn llwyddo i gadw’n hunain yn ddiogel, rhag y dylanwadau gwaethaf o leiaf.

Ond hyd yn oed os ydym yn gwarchod ein hunain a’n plant rhag llawer o’r drygioni sy’n ein bygwth, nid ydym yn rhydd o afael yr haint. Oherwydd mae hwnnw’n fwy o lawer na’r llyfrau a ddarllenwn, a’r ffilmiau a welwn, a’r gemau a chwaraewn, a’r rhegfeydd a glywn, a’r anghyfiawnder a’r creulondeb a’r lladd a welwn.

Mae’r haint yn nes o lawer na dylanwad y pethau hyn arnom. Nid dylanwadau o’r tu allan yw’r gwir haint, ond rhywbeth sydd ynom ni ein hunain. Fel y dywedodd Iesu, ‘Y mae’r pethau sy’n dod allan o’r genau yn dod o’r galon, a dyna’r pethau sy’n halogi rhywun (Mathew 15:18). O’n mewn, ac nid o’n cwmpas, y mae’r haint. Rhywbeth sydd ynom ydyw, ac nid rhywbeth a ddaliwn.

Petaech chi’n gosod pobl mewn gwagle, heb unrhyw gysylltiad â’r un person arall ac ymhell o bob dylanwad drwg, byddai pobl yn dal i bechu, yn arwydd o’r haint sy’n eu blino. Nid yw hon yn ddysgeidiaeth boblogaidd heddiw. Ni fu erioed yn boblogaidd mae’n debyg. Mae’n haws gan bobl gredu ein bod yn hanfodol dda, ac mai’r cyfan sydd ei angen yw meithrin pobl i ymwrthod â’r drwg. Ond wedi canrifoedd o feithrin ac addysgu, ydi pobl yn eu hanfod ronyn gwell?

Gobaith mawr am feddyginiaeth i’r haint hwn sydd yn yr Efengyl. Mae honno’n delio â’r drwg sydd ynom trwy estyn i ni faddeuant am ein beiau a gallu i frwydro yn erbyn y drwg sydd o’n mewn. Yn Iesu Grist, mae i ni faddeuant am bob bai, a nerth i wrthsefyll ein gwendid ein hunain a’r temtasiynau amrywiol a wynebwn. Mae’r haint wedi ei goncro gan Grist, ac nid trwy ein hymdrechion ni i’w osgoi.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 10 Ebrill, 2011

Cwrs Coleg y Bala

Cwrs Coleg y Bala

i blant 8-12 oed

Mai 20-22

Bydd cyfle i blant yr Ysgol Sul (Blwyddyn 3-6) fynd i aros yng Ngholeg y Bala eleni eto.  Bydd plant yr Ofalaeth yn rhannu’r penwythnos gyda phlant Llanrug a Bethel.  Byddwn yn aros yno o nos Wener tan ar ôl cinio ddydd Sul. 

Mae hwn yn gwrs poblogaidd iawn bob blwyddyn, ac mae’n bwysig ein bod yn cael gwybod mor fuan â phosibl pwy sydd eisiau mynd arno.  Fe all llefydd fod yn brin ac mae’n bosibl na fydd lle ar ôl os gadewch chi bethau’n rhy hir cyn ymateb.

Rhowch eich enw i’r Gweinidog ar unwaith os ydych eisiau dod.  Bydd angen llenwi ffurflen a thalu £10 o flaendal.  Bydd yr Ysgol Sul yn rhoi cyfraniad at y gost i bob plentyn, ac felly £30 fydd y gost i’r plentyn.

Mae gostyngiadau i ail blentyn o’r un teulu, ac i deuluoedd sy’n hawlio budd-daliadau.

Cwestiwn 20

Fe glywyd ambell un yn gofyn pam fod rhaid llenwi’r ffurflen o gwbl, ond ar y cyfan ychydig o gwyno a fu ynghylch Y Cyfrifiad y tro hwn. Nid fel deng mlynedd yn ôl pan gafwyd cwyno mawr nad oedd modd i ni nodi mai Cymry oedden ni ar y ffurflen hon. Yr unig gwestiwn y clywais unrhyw fath o gwyno yn ei gylch y tro hwn oedd Cwestiwn 20, ‘Beth yw eich crefydd?’

Doedd dim rhaid i neb ateb hwn, wrth gwrs, gan fod y ffurflen yn nodi bod ‘y cwestiwn hwn yn wirfoddol’. Daeth y cwyno o du ambell i ddyneiddiwr a deimlai y dylasid geirio’r cwestiwn mewn ffordd wahanol, gan ofyn rhywbeth fel ‘Ydi crefydd yn chwarae rhan amlwg yn eich bywyd?’ Eu dadl oedd y byddai hynny’n rhoi darlun mwy cywir o nifer y crefyddwyr yng ngwledydd Prydain nag a geir trwy’r cwestiwn a ofynnwyd.

Synnwn i ddim nad yw’r dyneiddwyr yn gywir. Wedi’r cwbl, mae’n dipyn haws rhoi tic mewn blwch i nodi mai Cristnogaeth (neu unrhyw grefydd arall a restrwyd) yw ein crefydd na honni bod crefydd yn ‘chwarae rhan amlwg’ yn ein bywydau. Ac eto, mae’n anodd meddwl pa ffordd arall y gellid gofyn y cwestiwn.

Ystadegau yw busnes y Cyfrifiad, yn hytrach na diwinyddiaeth a diffinio’n fanwl ystyr ‘Cristnogaeth’ neu unrhyw grefydd arall. Fedrwn ni ddim disgwyl i’r Cyfrifiad roi diffiniad manwl o’r Ffydd Gristnogol nac unrhyw ffydd arall. O ran ystadegau, ac er mwyn parchu crefydd fel mater personol i bob unigolyn, mae’n rhesymol caniatáu i bobl yr hawl i ddweud neu beidio dweud a ydynt yn arddel crefydd. Ac rwy’n siŵr y gallai crefyddwyr o bob ffydd gwyno mai ‘Dim crefydd’ oedd y dewis cyntaf yn rhestr yr atebion i’r cwestiwn ‘Beth yw eich crefydd?’. Siawns nad oedd hynny’n rhoi cyfle digonol i bobl nodi eu hanffyddiaeth a’u gwrthodiad o grefydd?

Ond beth bynnag a ddywed y Cyfrifiad am nifer ‘swyddogol’ dilynwyr pob crefydd, mae pawb sy’n arddel unrhyw un o’r crefyddau hynny’n deall na fydd hwnnw o reidrwydd yn ddarlun cwbl gywir. O ran y Ffydd Gristnogol, gall fod gan bobl wahanol syniadau am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gristion ac yn ddilynwr i’r Arglwydd Iesu Grist. A gall rhai o’r syniadau hynny fod yn gwbl anghywir. Nid yw’r ffaith bod dyn yn ei gyfrif ei hun yn Gristion, neu’n cael ei alw’n Gristion gan bobl eraill, o reidrwydd yn golygu mai dyna ydyw. Wedi’r cwbl, fe ddywedodd Iesu ei hun, ‘Nid pawb sy’n dweud wrthyf, Arglwydd Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas Dduw’. A rhan o waith yr Eglwys yw egluro beth yw Cristion yn y gobaith y bydd pobl yn mynnu cael y berthynas â’r Iesu sy’n sail i’r diffiniad cywir o’r gair hwnnw.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 03 Ebrill, 2011