Mae’r CN Tower (Twr Cenedlaethol Canada) yn Nhoronto hanner uchder yr Wyddfa! Mae’r Wyddfa’n 1085 medr o uchder a’r Twr yn 553 medr. Mi gewch chi gerdded neu fynd ar y trên i ben yr Wyddfa. Mi gewch chi ddringo’r Twr, ar droed neu mewn lifft. Ond o fis Awst ymlaen fe gewch chi hefyd fynd am dro o amgylch y twr, ar silff agored bum troedfedd o led, 350 medr oddi ar y llawr (neu un rhan o dair o uchder yr Wyddfa!) Fydd yna ddim math o ffens o amgylch y silff; ond byddwch yn falch o wybod y byddwn yn gwisgo harnes gyda weiren yn sownd ynddi i’ch cysylltu wrth gylch o fetel o amgylch y twr.
Fyddaf fi ddim yn rhuthro i dalu £111 am y fraint o gael cerdded rownd y twr am hanner awr! Ond mae’n debyg y bydd yna ddigon o bobl yn awyddus i wneud hynny gan fod gweithgareddau mentrus o bob math mor boblogaidd y dyddiau hyn.
Mae’n bosib iawn mai arwydd o ofn a diffyg menter ar fy rhan i yw’r ffaith na fyddwn yn ystyried mynd yn agos at silff agored y Twr Toronto. Ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ei chael yn anodd penderfynu beth i’w feddwl o’r bobl a fydd yn gwneud hynny. Dylwn i edmygu eu dewrder ynteu weld bai arnynt am fod mor ffôl? Dwi ddim yn siŵr, ac mi gewch chi benderfynu.
Ar un wedd, mae’n rhaid edmygu eu dewrder am fentro cerdded ar silff gul o amgylch adeilad mor uchel. A hefyd edmygu eu ffydd! Oherwydd bydd gofyn i’r bobl hyn roi eu holl ymddiriedaeth yn y weiren a fydd yn cydio wrth y cylch haearn a fydd yn sownd wrth y twr. Dyna fydd yn eu cadw’n ddiogel, ac yn hynny o beth, maen nhw’n debyg i bobl sy’n rhoi eu holl ymddiriedaeth yn Iesu Grist i fod yn Waredwr iddynt. Ffydd ydi credu bod y weiren yn ddigon saff a chadarn i’w cadw rhag syrthio dros ymyl y twr, a ffydd ydi credu bod Iesu Grist yn ddigon i’n cadw ninnau rhag gorfod dioddef canlyniadau ein pechod.
Ond ar wedd arall, mae’n anodd peidio meddwl mai rhyfyg ffôl yw’r fath weithgaredd. Mae mwy na digon o beryglon yn ein byd heb i ni fynnu creu rhai newydd. Beth petai’r harnes neu’r weiren yn torri? Beth petai’r cyffro’n ormod i galon wan? Mae rhai pobl yn gorfod wynebu sefyllfaoedd peryglus wrth gyflawni eu gwaith, ond a oes raid i bobl eu rhoi eu hunain mewn peryg er mwyn adloniant a hwyl? Ac felly, yn hytrach nag edmygu eu dewrder a’u ffydd, gellid dweud eu bod yn debyg i bobl sy’n rhyfygu yn eu perthynas efo Duw. Maen nhw’n gwthio’r ffiniau, yn mentro ymhellach oddi wrth Dduw o hyd, ac eto’n disgwyl i Dduw ofalu amdanynt a’u gwarchod rhag niwed.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 22 Mai, 2011