Rhifau ffôn, enwau, cyfeirnodau, dyddiadau – mi fyddaf yn dod o hyd iddyn nhw’n aml ar fy nesg. Neu, yn fwy cywir, ar dameidiau o bapur ar fy nesg. Mi fydda i’n nabod fy sgwennu fy hun, ac felly’n deall yn iawn mai fi sy’n gyfrifol amdanyn nhw. Mae’n debyg fy mod wedi sgriblan y rhan fwyaf o’r pethau hyn wrth sgwrsio dros y ffôn.
Ond wrth ddod o hyd iddyn nhw ddyddiau, wythnosau a misoedd yn ddiweddarach, mae llawer o’r nodiadau bach hyn yn annealladwy. Rhif ffôn pwy ydi hwn? Beth ar wyneb daear yw ystyr y rhes hon o lythrennau a rhifau? Weithiau, wedi hir ddyfalu, mi gofiaf pwy oedd yr enw hwn a’r dyddiad acw a pham fy mod wedi cofnodi teitl rhyw lyfr arbennig. Ond dro arall, bydd y cyfan yn drech na mi, a minnau’n methu’n glir â deall at beth mae’r nodiadau’n cyfeirio.
Doedd damhegion Iesu ddim yn hollol fel y nodiadau hyn, ond roedd gwaith deall arnynt hwythau. Doedd eu hystyr ddim yn gwbl amlwg ar unwaith i’r bobl a’u clywodd. Roedd hynny’n gwbl fwriadol wrth gwrs, gan fod Iesu eisiau i bobl feddwl am y pethau yr oedd o’n eu dweud. Roedd yn mynnu bod pobl yn chwilio am ystyr ei eiriau. Byddai hynny’n dangos eu bod o ddifrif ynglŷn ag ef. Byddai’n golygu hefyd y bydden nhw’n cofio a deall a gwerthfawrogi’r neges wedi iddyn nhw feddwl amdani a chanfod ei hystyr.
Ond roedd y ffaith ei fod yn cyflwyno ei neges ar ddamhegion yn golygu hefyd y byddai’r neges yn aros yn ddirgelwch i bobl nad oedd am drafferthu meddwl amdani na chwilio am ei hystyr. Roedd yn cyflwyno’r gwirioneddau mawr am Dduw a theyrnas nefoedd mewn ffordd a fyddai’n gorfodi pobl i feddwl drostynt eu hunain. Os yw pobl yn amharod i chwilio am ystyr ei eiriau, mae’r gyfrinach fawr y mae’r geiriau hynny’n ei chyhoeddi’n aros yn guddiedig iddyn nhw.
Mae yna elfen o bôs yng ngeiriau Iesu ac yn neges yr Efengyl. Ond yn wahanol i’r nodiadau blêr ac annealladwy ar fy nesg, y mae’n bosib deall geiriau Duw. Maen nhw’n gwneud synnwyr. Maen nhw’n dweud am gariad Duw. Ac mae yna help i’w deall. Oherwydd nid oes raid i’r un ohonom ymdrechu i ddeall geiriau Duw yn ein nerth ein hunain. Gallwn weddio ar Dduw i roi goleuni i ni ar ei eiriau ei hun.
Ydych chi erioed wedi teimlo bod geiriau’r Beibl yn anodd i’w deall? Ydych chi wedi chwysu drostynt wrth geisio deall beth y mae Duw yn ei ddweud wrthych? Os felly, daliwch i fyfyrio ac i weddio gan geisio goleuni Duw ar ddirgelion ei Efengyl a’i Air.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 26 Mehefin, 2011