Roedd rhaid i mi wenu pan glywais yr hysbyseb ar y teledu echnos. Wedi’r cyfan a ddigwyddodd yn ddiweddar, roedd un o bapurau’r Sul yn siŵr o honni bod y Sunday paper you can trust. Ond bydd angen tipyn mwy na slogan slic neu ymddiheuriad mewn hysbyseb cyn y bydd pobl yn ymddiried yn ein papurau newydd eto.
Ar wahân i’r drwgweithredu a’r loes a achoswyd i bobl drwyddo, y peth trist am yr holl helynt yw bod y cyfrwng wedi cael mwy o lawer o sylw nac y dylai ei gael. Taenu gwybodaeth, a thrafod materion y dydd yw gwaith papur newydd. Ond ar hyn o bryd y cyfrwng yw’r newyddion. Yn hytrach na bod y Wasg yn rhoi sylw i faterion o bwys, y Wasg ei hun yw canolbwynt y sylw. A thra bo hynny’n bod, mae storïau pwysig, megis yr argyfwng yn nwyrain Affrica, yn cael llawer llai o sylw nag a fyddai yn ei gael fel arall.
Mae’n beryg pan fo’r negesydd yn dod yn bwysicach na’r neges. Un a wyddai hynny’n iawn oedd Ioan Fedyddiwr. Ei waith o oedd cyhoeddi bod Iesu Grist yn dod ar ei ôl, ac unwaith y daeth Iesu roedd Ioan yn fodlon mynd i’r cefndir gan ddweud, ‘Rhaid iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau.’ Gwyddai Ioan yn dda mai’r neges a roddwyd iddo ynghylch dyfodiad y Meseia oedd y peth pwysig, ac nid Ioan ei hun.
A dyna un o’r pethau sy’n gwneud yr Arglwydd Iesu’n gwbl wahanol i bawb arall. Yr oedd wrth gwrs yn broffwyd, wedi ei anfon oddi wrth Dduw a chanddo neges arbennig i’w chyhoeddi am gyfiawnder a chariad a gras Duw. Ond yn wahanol iawn i bob proffwyd ac arweinydd crefyddol arall, roedd – ac y mae Iesu o hyd – yn fwy na dim ond cludydd y neges. Ef ei hun yw’r neges! Y gwir yw bod y negesydd hwn yn bwysicach na’i neges. Oherwydd, beth bynnag a ddywed neb am gariad Duw, fyddem ni ddim wedi elwa’n llawn o’r cariad hwnnw oni bai bod Iesu Grist wedi dod i farw drosom ar Galfaria. Nid dod i ddweud am gariad Duw a wnaeth Iesu, ond dod i ddangos (ac i fod) y cariad hwnnw yn ei fywyd a’i farwolaeth a’i atgyfodiad. Yn Iesu Grist y gwelwn ni bopeth y gallwn ei ddweud a’i wybod am Dduw: mae’r cyfan i’w weld ar waith ynddo. Mae’n dweud am gariad, ond mae hefyd yn gweithredu’r cariad hwnnw’n llawn; yn union fel y mae’n cyhoeddi a gweithredu cyfiawnder a gras a thrugaredd Duw.
Roedd gan Iesu neges bwysig, ond roedd yn cynnig rhywbeth pwysicach hyd yn oed na’r neges honno. Roedd yn ei gynnig ei hunan yn Waredwr ac yn Arglwydd. ‘Myfi yw …’, meddai mor aml, a ‘deuwch ataf fi’ meddai wrth wahodd pobl. Ei gyhoeddi ei hun a wna’r proffwyd a’r negesydd hwn.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 17 Gorffennaf, 2011