Roedd hi’n ddiwrnod prysur iawn yn Llanberis ddoe. Roedd rasys Pencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Gymanwlad yn cael eu cynnal yma, fel rhan o dridiau Pencampwriaethau Mynydd a Thra-Phell y Gymanwlad. Cynhaliwyd gweithgareddau’r ddau ddiwrnod arall yn Llandudno echdoe ac yn Niwbwrch heddiw. Mae’n rhaid llongyfarch pawb a lwyddodd i gwblhau’r ras fynydd o Gae’r Ddôl i ben Moel Eilio ac yn ôl, a’r rasys eraill a gynhaliwyd dros y tri diwrnod. Meddyliwch mewn difrif am redeg am 24 awr o amgylch strydoedd Llandudno. Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi blino ar ôl pnawn o siopau yno! Llongyfarchiadau hefyd i bawb a fu wrthi’n trefnu’r ras yn Llanberis. Fyddai dim yn bosibl oni bai am barodrwydd llu o bobl i helpu mewn gwahanol ffyrdd.
A llongyfarchiadau i bwy bynnag oedd yn gyfrifol am yr arwyddion mawr melyn a fu’n ein hysbysu ers wythnos neu ddwy am gau rhan o’r Stryd Fawr. Mae’n rhaid i mi gyfaddef i mi gael siom pan welais i’r arwyddion gyntaf. Nid am eu bod nhw’n dweud bod y lôn i gael ei chau am rai oriau yn ystod y ras, ond oherwydd yr hyn oedd wedi ei sgwennu arnynt – “Chymanwlad Ras”. Chymanwlad Ras? Beth ar wyneb daear oedd peth felly? Cyfieithiad hynod o sâl o ‘Commonwealth Race’ wrth gwrs.
Ond ie, llongyfarchiadau mawr i bwy bynnag oedd yn gyfrifol am yr arwyddion. Oherwydd o fewn ychydig ddyddiau roedd yr arwyddion wedi eu cywiro, a ‘Chymanwlad Ras’ wedi ei newid i ‘Ras y Gymanwlad’. Byddai wedi bod yn ddigon hawdd gadael yr erthyl o gyfieithiad arnynt, gan fynnu y byddai’n ormod o drafferth neu’n ormod o gost i’w gywiro. Ond wnaed mo hynny, ac aeth rhywun ati i sicrhau bod y camgymeriad yn cael ei gywiro. Ac mae’n braf iawn cael diolch am hynny.
Mae’n ddigon hawdd gwneud camgymeriad, ond nid mor hawdd yw cydnabod y camgymeriad hwnnw bo amser. O ran y bywyd Cristnogol, mae cydnabod bai yn un o’r pethau mwyaf sylfaenol. Mae pawb ohonom yn gwneud camgymeriadau. Mae pawb ohonom yn pechu mewn rhyw ffordd bob dydd. Fedrwn ni ddim peidio, gwaetha’r modd. Y cam cyntaf i ddod yn Gristion yw cydnabod hynny, cydnabod ein bod yn pechu yn erbyn Duw trwy beidio ei garu â’n holl galon a pheidio gwneud popeth y mae’n ei orchymyn i ni. Cyfaddef bai, a gwneud rhywbeth ynglŷn ag o ydi dechrau’r bywyd Cristnogol. A beth ydym yn ei wneud? Credu bod Iesu Grist wedi cael ei gosbi am ein beiau ni; a chredu y cawn ni faddeuant wrth bwyso ar Iesu Grist. Ac am ei fod yn cael maddeuant, mae’r Cristion yn awyddus i fyw heb bechu wedyn.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 25 Medi, 2011