Gweinidog newydd

Medi 3, 2011

Ar lawer ystyr, nid mis Ionawr ond mis Medi yw dechrau’r flwyddyn.  Mae hynny’n sicr yn wir ym myd addysg.  Dymunwn yn dda felly i blant a phobl ifanc yr Ofalaeth wrth iddynt gychwyn blwyddyn newydd yn yr ysgol neu’r coleg, yn arbennig os ydyn nhw’n mynd i’r ysgol am y tro cyntaf neu’n cychwyn mewn ysgol neu goleg newydd.

Ac mewn rhyw ffordd, mae’n ddechrau newydd yr adeg hon o’r flwyddyn i’r rhan fwyaf o’n gweithgareddau yn yr eglwysi.  Edrychwn ymlaen at brofi bendith Duw ar ein holl ymdrechion a’n gwasanaeth i’r Arglwydd.

Ac mae’n braf iawn cael sôn am ddechrau newydd yn hanes un gŵr ifanc sy’n gyfarwydd i lawer ohonoch.  Pan ddeuthum i’r Ofalaeth hon gyntaf, roedd Ifor Glyn a Nest Efans (Afon Goch, Deiniolen bryd hynny) yn aelodau gweithgar yn Neiniolen, a’u meibion, Rhodri a Robin, yn ffyddlon yn ein holl gyfarfodydd. Pan benodwyd Ifor yn brifathro Ysgol Dyffryn Conwy, fe symudodd y teulu i fyw yng Nghapel Curig.  Roedd yn golled fawr i ni ar eu hôl, ond mae capel yr Annibynwyr yn Nantybenglog wedi bod ar ei ennill ers hynny.

Rwy’n sôn amdanynt heddiw am fod Rhodri (Dr Rhodri Glyn erbyn hyn) yn dechrau gweithio fel Cynorthwy-ydd Gweinidogaethol yng Ngofalaeth Bro Aled yn ardal Llansannan y mis hwn.  I bob pwrpas, bydd yn gyd-weinidog yno gyda’r Parchg Aneurin Owen.  Bu Rhodri yno o’r blaen am rai misoedd yn cael profiad o waith yr eglwysi, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu yng Ngheinewydd yn cael profiad pellach o arwain gwaith Cristnogol.  Ond heddiw i bob pwrpas mae’n cychwyn yn ei swydd newydd.  Ac ar ran yr Ofalaeth hon, mae’n braf iawn cael dymuno’n dda iddo ac erfyn bendith Duw ar ei weinidogaeth ym Mro Aled.  Yn ôl a ddeallaf, cynhelir cyfarfod arbennig i’w gomisiynu i’w waith newydd nos Sul, Hydref 2, ac mae’n siwr y cawn ni ragor o fanylion am y cyfarfod hwnnw maes o law. 

Mae clywed hanes Rhodri yn gwneud i ni ddiolch fod Duw yn dal i alw pobl i’w wasanaethu yng Nghymru heddiw.  Ac mae clywed am rywun yr ydym ni’n ei adnabod yn ymateb i’r alwad honno’n gwneud i ni rywsut deimlo’n fwy diolchgar fyth.  Gweddiwn yn arbennig dros y bobl ifanc sy’n ymateb i alwad Duw i’w wasanaethu fel gweinidogion yr Efengyl neu mewn rhyw ffordd arall o fewn ei eglwys.  Boed i Dduw eu cynnal a’u calonogi a’u nerthu, a boed iddo roi iddynt hwy – ac i ninnau gyda hwy – fendith helaethach, a mwy o lwyddiant yng ngwaith y Deyrnas nag a welodd y gweddill ohonom hyd yma. 

 Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 04 Medi, 2011

Advertisements

Gweinidog da

Medi 3, 2011

Ddechrau mis Awst, bum yn arwain oedfa angladd y Parchg Wayne Hughes, Blaenau Ffestiniog. Roedd hi’n oedfa arbennig iawn, a chapel Ebeneser, Gorseinon yn rhwydd lawn er ei bod yn dymor gwyliau a bod 150 o filltiroedd rhwng Stiniog, lle bu Wayne yn gweinidogaethu ers 29 o flynyddoedd, a Gorseinon, lle cawsai ei fagu. Roeddwn i a’r gweinidogion eraill a gymerai ran yn yr oedfa yn ffrindiau i Wayne ers blynyddoedd lawer. Ac er y galar a’r tristwch o’i golli ac yntau ond 50 mlwydd oed, roeddem yn ei theimlo’n fraint fawr mai Wayne ei hun oedd wedi trefnu ein bod i gymryd rhan yn yr angladd.

Welais i neb erioed oedd yn fwy hyddysg yn ein hemynau nag ef. A diolch am hynny, mae’r gyfrol Emynau Ffydd 2, a ysgrifenwyd ganddo, yn ein hatgoffa o’i wybodaeth a’i ddefnydd o emynau i rannu’r Ffydd. Am flynyddoedd, bu’n dod i’r cyfarfod gweinidogion a gai ei gynnal yma yng Nghilfynydd bob mis. Ond roeddwn yn ffrindiau ag o ymhell cyn hynny, gan i mi ddod i’w nabod yn fuan wedi iddo ddod i’r coleg ym Mangor ym mis Medi 1979, er fy mod i wedi gadael coleg erbyn hynny hefyd. Bu’n ffrind da a charedig ar hyd y blynyddoedd.

Yn wahanol iawn i lawer o’m ffrindiau sy’n weinidogion, roedd Wayne yn gwybod erioed mai gweinidog oedd o am fod. Mae’n debyg ei fod yn ‘actio pregethu’ ar risiau ei gartref pan oedd yn dair oed! Yn saith oed, roedd o’n llythrennol yn breuddwydio am weld arwydd o flaen capel yn nodi mai’r ‘Parchedig A Wayne Hughes’ oedd i bregethu yno’r Sul canlynol. Cafodd ei ordeinio’n weinidog yn y Blaenau yn 1982, ac yno’r arhosodd yn weinidog ffyddlon i Iesu Grist ar hyd ei yrfa. Cafodd bedair blynedd o waeledd, ond llwyddodd fwy nag unwaith i ail afael yn ei waith, a doedd dim yn rhoi mwy o bleser iddo, a dim yn fwy o ysgogiad iddo i wella a chryfhau, na’r gobaith o gael ailddechrau pregethu a chyflawni ei waith fel gweinidog i’w bobl. Roedd yn annwyl a hwyliog, ac roedd ganddo ffordd unigryw o ddweud ei farn am bob math o bethau. Roedd yn ei elfen yng nghwmni pobl o bob oed. Roedd yn arwain gwyliau Cristnogol i bensiynwyr pan oedd o’i hun oddeutu 35 mlwydd oed! Ac er bod Hazel ei wraig yn tynnu ei goes gan ddweud ‘na fu Wayne erioed yn ifanc’, roedd hefyd wrth ei fodd yng nghwmni plant ac yn mwynhau cyflwyno Iesu Grist iddynt.

Daeth y misoedd olaf â chystudd blin iddo. Ond roedd ei ffydd yn ddisigl, a chafodd teulu a ffrindiau a meddygon a nyrsus y fraint o’i weld a’i glywed yn tystio’n rymus i’w sicrwydd ei fod ‘yn mynd at fy Arglwydd’. Diolch i Dduw am gydweithiwr mor dda, am ffrind mor driw, ac am dystiolaeth mor loyw.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 28 Awst, 2011