Tywydd oerach, dail ar lawr, troi’r cloc: mae’r cyfan yn dangos bod y gaeaf yn prysur ddod. A diolch am hynny. Nid fy mod i’n gwirioni ar y gaeaf, cofiwch, nac yn edrych ymlaen at dywydd rhewllyd a chaethiwed eira. Mae pob rhyddid i bobl ganu ‘O na byddai’n haf o hyd’, ond fe ŵyr pawb ohonom fod arnom angen y gwahanol dymhorau a’u hamrywiol dywydd. A dyma ddyfodiad gaeaf arall yn ein hatgoffa fod addewid Duw ynglŷn â’i fyd yn aros. Ganrifoedd lawer yn ôl, yn nyddiau cynnar yr Hen Destament, fe addawodd Duw y byddai’n darparu’r tymhorau yn eu pryd. ‘Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear’ (Genesis 8:22).
Un o fendithion mawr byw yn y rhan arbennig hon o’r byd sy’n gartref i ni yw’r amrywiaeth tywydd. Mae’n siŵr ein bod wedi diolch amdano yn ein hoedfaon Diolchgarwch eleni eto. Ac un o’r manteision pennaf sydd gennym oherwydd y fath amrywiaeth yw digonedd dŵr. Nid i ni’r pryder parhaus ynghylch diffyg glaw a phrinder dŵr yfed. Nid i ni’r broblem oesol o ddiffyg dŵr glân. Nid yn unig ein bod yn byw mewn gwlad o ddigonedd o ddŵr, ond mae gennym hefyd y drefniadaeth a’r systemau sy’n sicrhau i ni gyflenwad glân a hwylus yn ein cartrefi. Gwelsom a chlywsom ddigon am y dioddefaint y mae prinder dŵr yn ei achosi i sylweddoli mor freintiedig ydym yn y rhan hon o’r byd.
Diolchwn o’r newydd am ddŵr glân, a gweddïwn dros bobl ein byd sy’n dioddef am nad oes cyflenwad o ddŵr glân i’w gael. Diolchwn am y bobl sy’n gweithio’n egnïol i sicrhau dŵr glân i fwy a mwy o gymunedau ein byd heddiw. Ac wrth ddiolch amdanynt, ystyriwn pa gymorth y gallwn ni ei roi i’r mudiadau Cristnogol sy’n gweithio yn y maes arbennig hwn.
O gofio mor gwbl angenrheidiol yw dŵr i bob un ohonom, nid rhyfedd fod Iesu Grist wedi ei ddefnyddio fel darlun o’r hyn y mae ef yn ei gynnig i bobl. Mae’n rhaid i ni gael dŵr. Fedrwn ni ddim byw hebddo. A dyna’n union a ddywed Iesu amdano’i hun. Mae’n rhaid i ni wrtho ef er mwyn cael y bywyd tragwyddol. Heb ddŵr, sychedu a wnaiff pobl; a heb Grist hefyd, sychedu a fydd pobl. Sychedu, newynu a marw, yn ysbrydol ac yn dragwyddol, fydd pobl hebddo ef. Ond byd pawb sy’n yfed y dŵr a rydd Iesu yn cael y bywyd tragwyddol y daeth ef i’r byd i’w gynnig.
Y Duw sy’n cadw ei addewid i roi’r tymhorau yn eu pryd sydd hefyd yn addo y caiff pawb sy’n credu yng Nghrist etifeddu’r bywyd tragwyddol.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 30 Hydref, 2011