Dilyn y Bugail

Wrth feddwl am groesawu Geraint Lovgreen i’r Gymdeithas Undebol yn Neiniolen yr wythnos ddiwethaf cofiwn i ni’n dau fod yn rhan o’r un criw pêl droed 5-yr-ochr ar un cyfnod. Roedd gen i ryw syniad bod hynny oddeutu saith neu wyth mlynedd yn ôl, ond wedi aros i feddwl cefais gryn syndod o sylweddoli bod deunaw mlynedd gyfan ers hynny! Rhywbeth arall sy’n gwneud i mi ryfeddu at dreigl cyflym amser yw’r ffaith i mi fod yma gyda chi yn yr Ofalaeth ers union dair blynedd ar hugain erbyn hyn gan mai ym mis Hydref 1988 y cychwynnodd fy ngweinidogaeth yn eich plith. I ble’r aeth y 23 o flynyddoedd?

Mae’r rhif 23 yn gwneud i mi gofio un o’m ceir cynharaf. Ford Escort glas golau, digon tebyg i un o geir Panda’r Heddlu ar y pryd, oedd o, a’i rif cofrestru oedd TEY 23T. Rwy’n cofio rhif y car hwnnw’n well na’r un car arall a gefais am fod un o aelodau’r Ofalaeth yn Abersoch yn cyfeirio at Salm 23 bob tro y gwelai’r car!

Ac felly, mi fentraf innau ar derfyn 23 o flynyddoedd yn yr Ofalaeth dynnu ein sylw o’r newydd at y salm hon sy’n cyhoeddi mai ein Bugail mawr ni yw’r Arglwydd Dduw. Beth bynnag yw gwerth sôn am unrhyw weinidog fel bugail i braidd yr Eglwys, gallwn oll ymfalchïo yn y ffaith mai Bugail ein heneidiau yw’r Duw Mawr. Mae’n gwarchod drosom, yn ein harwain a’n hamddiffyn, yn darparu cynhaliaeth ac yn rhoi bywyd i ni.

A thri o gymalau arbennig y salm hon yw’r rhai sy’n dweud, ‘Ni bydd eisiau arnaf’, ‘nid ofnaf niwed’, ac ‘yr wyt ti gyda mi’. Rydym yn gyfarwydd iawn â’r salm, ac wedi ei hailadrodd gannoedd o weithiau, mae’n debyg. Ond o feddwl eto am y geiriau, rhyfeddwn o’r newydd heddiw at yr hyn a ddywed y Salmydd. Trwy bopeth sy’n digwydd, trwy brofiadau ac amgylchiadau digon tywyll, ac yn wyneb pob math o beryglon a gelynion, mae gennym Fugail sy’n gofalu amdanom ac yn ein cadw’n ddiogel.

Ydi, mae’r blynyddoedd yn hedfan heibio, ond gallwn edrych yn ôl, gobeithio, a chydnabod daioni Duw. Gallwn ddiolch am y bendithion a gawsom a’r nerth a roddwyd i ni. A gallwn fentro eto i’r dyfodol mewn ffydd bod yr Arglwydd yn ein gwahodd i ymddiried ynddo a’i ddilyn bob dydd. Y mae Ef yn ein cysuro, ac oherwydd hynny gallwn ddweud yn obeithiol y bydd ‘daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd’. Mae hwnnw, a’r sicrwydd a rydd y salm i ni y byddwn ‘byw yn nhŷ’r Arglwydd weddill fy nyddiau’, yn ddweud mawr! Ond o ddilyn y Bugail, mae modd ei ddweud yn hyderus.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 02 Hydref, 2011

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: