Fox & Letwin o’u Co.

Hydref 21, 2011

Doedd hi ddim yn wythnos dda i’r Blaid Geidwadol.  Liam Fox gafodd y sylw i ddechrau am iddo ganiatau i’w gyfaill, nad oes a wnelo ddim oll â Llywodraeth San Steffan, fod yn bresennol mewn cyfarfodydd a thrafodaethau swyddogol yn ymwneud â swydd Dr Fox fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn.  Erbyn nos Wener roedd Liam Fox wedi penderfynu ymddiswyddo.

Ond cyn iddo wneud hynny, roedd un arall o Geidwadwyr San Steffan wedi gwneud sôn amdano’i hun.  Oliver Letwin yw’r gwr sy’n gyfrifol am ddatblygu polisiau’r Llywodraeth.  Cafodd yntau gryn sylw ddiwedd yr wythnos am iddo gael ei ddal yn taflu llythyrau a phapurau swyddogol a chyfrinachol i fin sbwriel mewn parc cyhoeddus yng nghanol Llundain. 

Gwnaeth y ddau wleidydd profiadol  gamgymeriadau dwl.  Sut ar wyneb daear y credai’r naill na fyddai neb yn sylwi bod ei gyfaill pennaf yn rhan o drafodaethau nad oedd a wnelo fo â hwy.  A sut allai’r llall gredu na fyddai neb yn sylwi ar wleidydd amlwg yn taflu dogfennau pwysig yn ymwneud â busnes Llywodraeth i’r bin? 

Mae ymddygiad y ddau’n awgrymu eu bod rywsut yn credu eu bod yn ddeddf iddynt eu hunain.  Mae Liam Fox wedi traethu’n huawdol ers tro am yr angen i Aelodau Seneddol weithredu’n unol â chod ymddygiad y Senedd.  Ac eto, roedd o’i hun yn ei anwybyddu trwy beidio datgelu bod ei gyfaill yn rhan o’r trafodaethau.  Ac er y pwyslais mawr heddiw ar ddiogelu gwybodaeth o bob math, dyma Oliver Letwin yn anwybyddu pob cyngor a rheol wrth daflu dogfennau swyddogol i’r bin yn hytrach na’u cario’n ôl i’r swyddfa i’w cadw neu i’w taflu’n ddiogel. 

Ond os ydym yn onest, gallwn adnabod ein hunain yn y ddau ohonynt, am fod tuedd mewn llawer ohonom i geisio bod yn ddeddf i ni ein hunain.  Rydym eisiau gwneud y rheolau, ac eisiau gweithredu’n ôl ein safonau ni ein hunain.  Ein buddiannau ni sy’n cyfrif yn aml, ac mae mor anodd gweithredu fel y gwnai ein Gwaredwr wrth roi buddiannau pobl eraill o flaen ei fuddiannau ei hun. 

Unwaith eto, gwelwyd gwleidyddion yn gwadu cyfrifoldeb ac yn gwrthod cydnabod iddynt wneud dim o’i le.  Ond yn hynny hefyd y mae eu hymddygiad mor nodweddiadol ohonom fel pobl.  Mae’r duedd i wadu cyfrifoldeb am bechodau a’r ymdrech i’n cyfiawnhau ein hunain mor agos at bawb ohonom. 

Ac oherwydd hynny, diolch am y gras i gydnabod bai ac i ddymuno ymddwyn bob dydd fel ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist.     

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 16 Hydref, 2011


Wrth eu ffrwythau

Hydref 21, 2011

Fwy na thebyg fod pawb arall yn gwybod yn iawn ers talwm, ond doeddwn i ddim!  Mi fu’r peth yn gryn benbleth i mi ers rhai wythnosau, a dweud y gwir.  Ers dechrau’r haf, mi fûm drwy Lanfrothen ddwy neu dair o weithiau, ac am ryw reswm fe sylwais i fod cymaint o’r tai a’r adeiladau’r un lliwiau â’i gilydd: y waliau’n wyn a’r drysau a’r giatiau a’r landerau’n fath o wyrdd golau.  Erbyn hyn, rwyf wedi cael eglurhad: mae’r holl adeiladau hyn yn eiddo i Stad Portmeirion.  Ac wrth yrru trwy Lanfrothen, felly, mae modd adnabod adeiladau’r Stad yn rhwydd iawn yn ôl eu lliwiau.

 Mae’r un peth yn wir am ei ddisgyblion ef, yn ôl yr Arglwydd Iesu.  Ond nid wrth eu lliwiau, ond yn hytrach wrth eu ffrwythau y cânt hwy eu hadnabod.  Tua diwedd y Bregeth ar y Mynydd y dywedodd Iesu hynny wrthym.  Mae coeden dda, meddai, yn rhoi ffrwythau da, a choeden wael yn rhoi ffrwythau drwg.  Sôn am broffwydi yr oedd Iesu yn gyntaf oll wrth ddweud hyn.  Wrth eu ffrwythau, meddai, y gallwn adnabod y gau broffwydi y mae’n rhybuddio ei ddisgyblion rhagddynt.  Mae cymaint o leisiau yn cyhoeddi pob math o bethau am Dduw a chrefydd.  Ar bwy y dylem wrando?  Pwy ddylem gymryd sylw ohonynt?  ‘Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy’ meddai.  Y bobl sy’n gwneud ewyllys Duw, yn byw yn debyg i’r Arglwydd Iesu, yn dangos cariad Duw yn eu bywydau eu hunain, yn parchu geiriau Duw ac yn gwrando ac yn ufuddhau i eiriau Iesu Grist – dyna’r bobl y dylem wrando arnynt ac ymddiried yn eu neges.

Ond mae geiriau Iesu am adnabod pobl ‘wrth eu ffrwythau’ yn wir am bob un o ddisgyblion Iesu Grist hefyd.  Ymddygiad pobl sy’n dangos eu bod yn perthyn iddo ef.  Y ffaith eu bod yn caru Duw ac yn caru pobl eraill, ac yn ymdrechu i ddilyn gorchmynion ac esiampl yr Arglwydd Iesu sy’n dangos eu bod yn perthyn iddo.  Nid y pethau da a wna pobl sy’n eu gwneud yn Gristnogion.  Ymddiriedaeth – neu ffydd yn Iesu Grist – sy’n gwneud hynny.  Ond gweithredoedd da a chariad at Dduw yw’r ffrwythau sy’n dangos fod y ffydd honno’n real a chywir.  Mae amrywiaeth o adeiladau yn Llanfrothen, ac eto mae’r lliwiau cyffredin yn dangos pa rai sy’n eiddo i’r Stad.  Mae byd o wahaniaeth rhwng un Cristion a’r llall mewn llawer peth, a diolch am hynny gan eu bod oll yn unigolion, gyda’u diddordebau a’u personoliaethau eu hunain.  Ac eto, yr un ffrwythau a welir ynddynt i gyd, pa ffordd bynnag y caiff y pethau hynny eu gweithredu.  Cariad at Dduw ac ufudd-dod i’w orchmynion, a chariad at bobl a dymuniad i wneud daioni yw’r ffrwythau sy’n dangos fod pobl yn credu yn yr Arglwydd Iesu ac yn eiddo iddo.  

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 09 Hydref, 2011