Erbyn hyn mae’r ffeiriau Nadolig wedi cychwyn a’r cyhoeddiadau’n dechrau cyrraedd am oedfaon a chyngherddau arbennig yr Ŵyl a ddaw o fewn y mis. Fyddaf fi byth yn siŵr beth i’w wneud o’r cyfnod hwn ar ddechrau’r Adfent gan fy mod i’n gweld mis yn amser hir i feddwl am y Nadolig. Wedi’r cwbl dim ond deuddeg mis sydd mewn blwyddyn, ac mae neilltuo un cyfan ohonynt i baratoi at ddathliadau un diwrnod – er pwysiced yr hyn a ddathlwn ar Ragfyr 25 – yn teimlo’n chwithig iawn i mi.
A’r syniad bod mis yn amser hir sydd wrth wraidd un o hysbysebion teledu’r Nadolig hwn. A do, fe’m daliwyd innau gan yr heip ynghylch yr hysbyseb hwnnw. Ac ydw, rwy’n mynd i ddatgelu’r tro sydd yng nghynffon yr hysbyseb a sbwylio’r syrpreis i chi os nad ydych eisoes wedi gweld hysbyseb newydd siopau John Lewis. Felly, os nad ydych am wybod diwedd y stori, rhowch y gorau i ddarllen hwn rŵan!
Yn yr hysbyseb munud a hanner o hyd mae hogyn bach ar ddechrau mis Rhagfyr yn edrych ymlaen at ddydd Nadolig. Fe’i gwelwn mewn gwahanol sefyllfaoedd yn dyheu am y diwrnod mawr, ac yn gweld yr amser mor hir. Mae’r cyfan i gyfeiliant cân sy’n dweud rhywbeth fel, ‘Am y tro cynta’ un, gad i mi gael be’ dwi eisiau’. Mae’n llowcio’i swper Noswyl Nadolig cyn rhuthro i’w wely. A bore Nadolig, mae’n deffro’n gynnar, ac wrth ei wely mae pentwr o anrhegion. Ond mae’r hogyn bach yn anwybyddu’r cyfan, yn agor cwpwrdd, ac yn estyn anrheg arall ai’i gario i lofft ei rieni. A’r neges? “For gifts you can’t wait to give”. Dyheu am roi ei anrheg fu’r hogyn wedi’r cwbl!
Bu’r disgwyl am y Meseia yn hir hefyd, ac mae cyfnod yr Adfent, sy’n cychwyn heddiw, yn ein hatgoffa am hynny. Ac o ochr Duw, roedd y Meseia wedi ei addo, a Duw wedi bwriadu ei roi er tragwyddoldeb. Ac o’n safbwynt ni, dyna amser hir yw hwnnw, er nad yw mil o flynyddoedd wrth gwrs ond fel diwrnod yng ngolwg Duw. Iesu Grist yw’r rhodd fawr y bwriadodd Duw ei rhoi i ni erioed.
Mae meddwl Duw yn ddirgelwch i ni, ond feiddiwn ni heddiw ddychmygu hiraeth y Brenin Mawr am y dydd y byddai’n cyflawni’r addewid ac yn anfon ei Fab i’r byd yn Waredwr? Trwy gyfnod yr Hen Destament, wrth i’r proffwydi gyhoeddi eu neges, ac i Dduw trwyddynt ddweud ambell beth am y Mab a’r Gwaredwr oedd i ddod, gallwn ddychmygu dyhead mawr Duw i roi i’r ddynoliaeth y darlun perffaith ac eglur ohono ei hun yn ei Fab. Yn ei gariad mawr, roedd Duw ei hun yn aros am y dydd y byddai ei bobl yn cael ac yn cydnabod y Gwaredwr.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 27 Tachwedd, 2011