Ni chaiff Gronyn ei gyhoeddi ddydd Sul nesaf, dydd Nadolig.
Felly, dyma ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Croeso cynnes i oedfa Dydd Nadolig yr Ofalaeth – Oedfa Gymun yn Capel Coch am 10.00 o’r gloch, ddydd Sul, Rhagfyr 25.
Ni chaiff Gronyn ei gyhoeddi ddydd Sul nesaf, dydd Nadolig.
Felly, dyma ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Croeso cynnes i oedfa Dydd Nadolig yr Ofalaeth – Oedfa Gymun yn Capel Coch am 10.00 o’r gloch, ddydd Sul, Rhagfyr 25.
Roedd ’na sôn am ddydd Gwener du echdoe a darogan mai ddoe fyddai’r diwrnod siopa prysuraf cyn yr Ŵyl. Beth bynnag am hynny, mae’n ddiwrnod prysur arall yn yr Ofalaeth heddiw gyda gwasanaethau Nadolig y plant yn Neiniolen yn y bore ac yn Llanberis gyda’r nos. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y gwasanaethau hyn mewn unrhyw ffordd. Oedfaon i’w mwynhau yw’r rhain bob amser, ac edrychwn ymlaen at ddathlu’r Nadolig gyda’n gilydd. Bydd bwrlwm y plant yn parhau nos Fawrth ym mharti’r Ysgolion Sul yn Capel Coch, a diolch i bawb am y nwyddau a’r bwyd a’r paratoadau ar gyfer hwnnw hefyd. Rhwng y ddau, bydd cyfle i blant blwyddyn 3-6 yr ysgol ddod i ddiwrnod o gemau a neges y Nadolig yn Y Ganolfan yn Llanberis yfory. Mae’r cyfan yn dangos i bwy bynnag a’u gwêl bod y dystiolaeth Gristnogol yn dal yn fyw yn ein plith, a diolchwn i Dduw am ei drugaredd sy’n sicrhau hynny.
Dyma’r math o weithgarwch y bu’r eglwysi’n ei gynnal ers cenedlaethau bellach. Am ba reswm bynnag, mae llawer yn Neiniolen a Llanberis yn tybio bod y pethau hyn wedi darfod ac yn siarad am gapel ac Ysgol Sul fel petaent yn perthyn i’r gorffennol yn unig. Os clywch chi rywun – boed deulu neu gymdogion neu ffrindiau – yn sôn am y pethau hyn fel petaent wedi darfod, cofiwch ddweud wrthynt am y gweithgarwch hwn sydd yma o hyd. Ond pwysicach o lawer na’r gweithgarwch yw’r hyn y mae’r gweithgarwch yn dwyn sylw ato ac yn dystiolaeth iddo. Oherwydd y llawenydd mwyaf yw’r ffaith fod yma o hyd sôn am yr Arglwydd Iesu ac ymdrech yn nerth Duw i gyflwyno Iesu i genhedlaeth newydd. Am Iesu Grist y dywedwn o hyd yn yr oedfaon a’r ysgolion Sul, am ein bod yn credu bod Iesu’n dal i gynnig y bywyd gorau posibl i bawb ohonom, beth bynnag ein hoed.
Felly, boed i Iesu Grist gael ei fawrygu yn ein plith heddiw a’r Nadolig hwn, a boed iddo gael mwy o le yn ein calonnau a mwy o ogoniant gennym yn y flwyddyn newydd sydd o’n blaen.
Wedi sôn am gyffro a phrysurdeb, anfonwn ein cofion at bawb y mae’r Nadolig yn drwm ac anodd ac ymhell o fod yn fêl i gyd iddynt. Boed i’r rhai sy’n llesg, yn wael, yn alarus, yn bryderus, yn ofnus ac yn unig brofi rhywfaint o ddiddanwch presenoldeb y Duw byw gyda hwy i’w cysuro a’u cynorthwyo’r dyddiau nesaf hyn. Nid enw yn unig oedd yr ‘Imanwel’ ond sicrwydd i ni fod yr Un a aned ym Methlehem yn wir Dduw gyda ni yn y byd hwn. Diolch am hynny, beth bynnag ein hamgylchiadau, mae modd canfod cysur a chymorth y Duw a ddaeth i ganol byd trafferthus i fod yn Geidwad ac yn Gyfaill i bawb sy’n ei geisio.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 18 Rhagfyr, 2011
Bydd yr oedfa yn Neiniolen am 4.00 o’r gloch nos Sul, Rhagfyr 18 (yn lle’r 5.00 o’r gloch arferol).
Ceir oedfa Nadolig yng ngofal y Gweinidog.
Peidiwch â gofyn i mi egluro’r materion dyrys a barodd i David Cameron fod fel adyn unig ym Mrwsel y noson o’r blaen. Mynnodd na fyddai’n arwyddo’r cytundeb ar drethi a chyllideb a fwriadwyd i wynebu’r argyfwng dyledion o fewn gwledydd y ’parth ewro’ os na chai sicrwydd o amodau arbennig i’r ‘Ddinas’ (neu’r diwydiant ariannol yn Llundain). Chafodd o mo hynny, a gwrthododd arwyddo’r cytundeb ar ran Llywodraeth gwledydd Prydain, er bod 26 aelod arall yr Undeb Ewropeaidd wedi ei arwyddo.
Y drwg efo’r hyn a wnaeth Mr Cameron yw ei bod yn anodd dweud beth a ddigwydd o ganlyniad i hynny, a pha effaith a gaiff ei benderfyniad ar wleidyddiaeth a lles economaidd Ewrop, a gwledydd Prydain yn arbennig, y blynyddoedd nesaf hyn.
Gall dilyn y llwybr unig fod yn beth clodwiw i’w wneud ar adegau. Ond ar adegau eraill gall fod yn beth annoeth ac anghywir. Mae Mr Cameron yn amlwg yn mynnu mai ef sy’n iawn, a’i fod wedi gwneud y peth gorau er lles gwledydd Prydain. Ond mae eraill o’r farn iddo wneud camgymeriad mawr ac y bydd y gwledydd hyn yn dioddef oherwydd hynny.
Nid yw sefyll yn erbyn y llanw ynddo’i hun na da na drwg. Gallwn anghytuno â phawb arall, ac weithiau byddwn yn gywir i wneud hynny, ond dros arall yn anghywir. Er enghraifft, os yw pawb arall yn mynnu bod dau a dau yn bump, rydym yn iawn i fynnu mai pedwar yw’r ateb. Ond os dywed pawb arall bod pump a phump yn ddeg, waeth i ni heb a bod yn wahanol a dweud mai deuddeg sydd gywir.
Galwad i sefyll yn gadarn dros Iesu Grist yw galwad Duw arnom. Os bydd pawb arall yn ei wrthod a’i wadu, byddwn ni’n ei arddel fel Arglwydd a Gwaredwr. Ein gobaith, wrth gwrs, yw cael ei arddel gydag eraill, fel rhan o gwmni o Gristnogion. Ond hyd yn oed pe na fyddai neb arall yn sefyll gyda ni, rydym wedi ein galw i gyffesu Iesu Grist yn Arglwydd. A’r cysur sydd gennym o gredu’r Beibl yw mai ni fyddai’n iawn. Pe byddai’r byd i gyd yn dadlau mai celwydd yw’r Efengyl, byddai’r Cristion yn mynnu – ac yn gwybod yn nyfnder ei galon – mai ef sy’n iawn, ac mai gallu Duw yw’r Efengyl hon er iachawdwriaeth i bawb sy’n credu.
Nid yw’r Efengyl yn dibynnu arnom ni. Nid faint o bobl sy’n ei chredu sy’n penderfynu os yw’n wir ai peidio. Y mae yn wir am mai neges y Duw Byw ydyw i ni. Gweddïwn felly am y gras i allu sefyll – pe byddai raid – fel adyn unig dros y ffaith sylfaenol hon. Beth bynnag a wna neu a ddywed eraill, daliwn wrth ein cyffes.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 11 Rhagfyr, 2011
Diwrnod rhyfedd iawn oedd wythnos i heddiw. Cyrhaeddais adref amser cinio wedi’r oedfa yn Nhanycoed a’r cwestiwn cyntaf ofynwyd i mi oedd, ‘Glywaist ti am Gary Speed?’ Doedd gen i mo’r syniad lleiaf beth oeddwn i fod wedi ei glywed, a fedrwn ni ddim credu’r hyn a glywais wedyn am ei farwolaeth sydyn a chwbl annisgwyl.
Rwy’n dal i deimlo’n euog am feddwl yn fuan iawn y byddai hyn yn golygu cam yn ôl i’n tîm pêl droed cenedlaethol a wnaeth mor dda’n ddiweddar. Oherwydd o’i gymharu â phoen a loes teulu Gary Speed, dibwys iawn yw hynt a helynt unrhyw dim.
Mae’n naturiol mai un o’r cwestiynau a ofynnir amlaf yn dilyn hunanladdiad yw ‘Pam?’ Mae’n gwestiwn mor anodd ei ateb, ac yn sicr yn amhosibl i’w ateb o bell, pan nad ydym yn adnabod y person. I raddau helaeth, hyd yma beth bynnag, fe ymatalodd pobl rhag ymbalfalu am atebion. Ond un peth a’m trawodd yn od oedd rhywbeth a ddarllenais ym mhapur newydd y Guardian fore Llun, lle dywedodd un colofnydd ‘mai’r un peth y gallwn fod yn sicr ohono oedd nad oedd a wnelo’r hyn a ddigwyddodd ddim â phêl droed’.
Fedrwn i yn fy myw a deall sut gallai’r dyn ddweud hynny. Oherwydd yr unig beth y gallwn fod yn sicr ohono yw nad ydym yn gwybod. Ŵyr neb pam y penderfynodd Gary Speed ei ladd ei hun, ac felly ynfydrwydd yw datgan nad oedd a wnelo ddim â hyn ac arall. Mae bywyd a’i broblemau mor gymhleth, a phwy a ŵyr sut y mae un peth yn effeithio ar bethau eraill, a sut y mae naill ran ein bywydau’n dylanwadu ar rannau eraill?
Gweddïwn dros bobl sy’n ei chael yn anodd gweld sut allan nhw ddal ati yn wyneb pethau sy’n eu poeni. Yn aml iawn, nid yw’r gofidiau’n amlwg i bobl eraill, ac oherwydd hynny mae’n bosibl mai ‘gweddïo yn y tywyllwch’ y byddwn ni, heb wybod hyd yn oed dros bwy yr ydym yn gweddïo. Weithiau, mae gweddïau cyffredinol yn bethau i’w hosgoi, gan ei bod yn dda i ni fod yn benodol ac enwi pobl gerbron Duw, yn ein gweddïau personol yn sicr os nad yn ein gweddïau cyhoeddus hefyd. Ond wrth weddïo dros y gofidus, mae’n bosibl mai’r unig beth y gallwn ei wneud yw gweddïo’n gyffredinol ‘dros bawb sy’n cael eu poeni’, ac sydd o bosibl yn ystyried hunanladdiad. Ond os na fedrwn ni enwi pobl, ac os na wyddom ni dros bwy yn union yr ydym yn gweddïo, mae’r Duw Hollalluog yn gwybod i’r dim.
A heddiw, wythnos yn ddiweddarach cyflwynwn deulu Gary Speed i ofal Duw, gan ddeisyf ei nerth a’i gysuron iddynt yn eu profedigaeth lem.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 04 Rhagfyr, 2011