Nid yw “hwliganiaeth pêl droed” mor gyffredin ag y bu rai blynyddoedd yn ô1, diolch am hynny.
Nid yw gemau rhagbrofol y Cwpan Byd nesaf wedi cychwyn eto, ac mae’r rowndiau terfynol ym Mrasil dros ddwy flynedd i ffwrdd. Ond er hynny mae’r hwliganiaeth wedi cychwyn. Ac mae hwn yn hwliganiaeth cyfrwys a pharchus.
Wyddoch chi nad oes hawl i werthu alcohol yng nghaeau pêl droed Brasil? Pasiwyd deddf gwlad i’r perwyl hwnnw yn 2003 er mwyn mynd i’r afael â phroblem hwliganiaeth oedd yn blino pêl droed ym Mrasil ar y pryd. Ers pasio’r ddeddf mae pethau wedi gwella’n arw.
Wyddoch chi hefyd mai’r rheol ym Mrasil yw bod pensiynwyr a myfyrwyr yn cael mynd i gemau pêl droed am hanner pris? Mae hynny’n sicrhau tegwch a phrisiau teg.
Ond mae’r hwliganiaid yn codi stwr wrth i’r gwleidyddion a’r awdurdodau ym Mrasil drafod deddf arbennig ar gyfer cynnal y Cwpan Byd yno. Ac ni fydd neb yn synnu o ddeall mai pobl bwysig FIFA, y corff rhyngwladol sy’n rheoli pêl droed, yw’r hwliganiaid hynny.
‘Dim alcohol yn y caeau? Chewch chi ddim gweithredu rheol feIly! Naw wfft i ddeddfau Brasil. Mae’n rhaid cael alcohol yn y caeau yn ein twrnament ni! Tocynnau hanner pris? Dim ffiars! Mi gaiff pensiynwyr a myfyrwyr dalu fel pawb arall. Mi wnawn ni’r elw mwyaf posib ym Mrasil fel ym mhobman arall.’
Pa ots am ddeddfau bach lleol? Mae FIFA’n mynnu ei ffordd ei hun ac yn mynnu gwneud ei reolau ei hun. Ac felly’n union yw agwedd pobl at Dduw yn aml. Pa ots am reolau’r Brenin Mawr? Allwn ni ddim cytuno â nhw. Dydyn nhw ddim at ein dant. Ac felly, mi fynnwn eu hanwybyddu a gwneud ein rheolau ein hunain. Mi fynnwn ni gael dweud sut mae pethau i fod a beth sy’n iawn ac yn dderbyniol. Onid felIy yr ydym yn meddwl ac yn ymddwyn yn aml iawn? Mae’r syniad mai gan Dduw y mae’r hawl i ddweud ac i osod y safonau yn annerbyniol ac yn rhywbeth na allwn ei oddef.
Wrth gwrs fod angen diwygio a newid llawer o ddeddfau. Wedi’r cwbl, nid yw deddfau’r un wlad yn berffaith. Ac eto, er bod y ddwy ddeddf arbennig hyn ym Mrasil yn swnio’n ddoeth a theg, mae FIFA am gael gwared â nhw. Ond mae deddfau Duw yn berffaith, ac wedi eu rhoi er ein lles, Mae deddfau Duw yn ddoeth a chywir a glân, Ond mae pobl yn benderfynol o fyw hebddynt, gan fynnu’r hawl i fyw fel y mynnon nhw, ac nid fel y mynno Duw.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 22 Ionawr, 2012