Ddydd Iau, fe fyddwn ni’n dathlu Gŵyl Ddewi unwaith eto, ac yn cofio’r gŵr arbennig hwnnw a fu’n cyhoeddi Iesu Grist i bobl ei genhedlaeth ef, nôl yn y Chweched Ganrif. Mae’r ffaith ein bod yn cofio’r gŵr hwn ynddi ei hun yn dipyn o ryfeddod o gofio na wyddom ddim oll bron amdano. Wedi’r cwbl aethai pum canrif heibio cyn i Rhygyfarch gofnodi hanes Dewi yn y llawysgrif, Buchedd Dewi.
Roedd llawer peth wedi newid yn ystod y pum can mlynedd rhwng oes Dewi a chyfnod Rhygyfarch. Ac mae llawer iawn mwy wedi newid ers dyddiau Rhygyfarch. Byd gwahanol iawn sydd gennym heddiw i fyd Rhygyfarch a Dewi o ran dulliau cyfathrebu a theithio ac o ran ein hamgylchiadau bob dydd. Mae ein tai a’n gwisgoedd a’n hamddena mor wahanol i’r hyn y byddent hwy wedi ei adnabod.
Ac eto, mae rhai pethau yn aros yn debyg. Byddai Dewi yn ein deall yn siarad gan fod yr iaith Gymraeg eisoes yn datblygu yn ei oes ef. A byddai’r Efengyl y ceisiwn ni ei phregethu yn gyfarwydd iddo gan mai cyhoeddi’r newyddion da am Grist oedd ei fwriad yntau. A’r un wrth gwrs ym mhob oes yw pobl a’u hangen. Ac mae hynny’n ddirgelwch i lawer. Oherwydd mae llawer yn credu fod ein hanghenion ni yn newid o un cyfnod i’r llall. Fel y mae ein hamgylchiadau yn newid, mae pobl yn disgwyl i’r anghenion newid hefyd. Ond nid felly y mae. Mae’r anghenion yn aros yr un o hyd. Oherwydd yr un yw pobl yn eu hanfod. Mae’r gwir angen yn codi o’r galon, nid o amgylchiadau allanol.
Ac o’n mewn, mae yna angen o hyd am Dduw: Duw i’w addoli; Duw i ymddiried ynddo; Duw i brofi ei gymorth a’i arweiniad; a Duw a fydd yn cynnig maddeuant am ein beiau. Dyma’r anghenion dwfn sydd ym mhawb ohonom heddiw, ac a fu ym mhawb erioed. Cynnig Gwaredwr a oedd yn diwallu’r anghenion hyn a wnâi Dewi, a dyna a wnawn o hyd.
Beth bynnag arall a wnawn ni o Ŵyl Ddewi eleni, boed i ni gofio ein bod yn dathlu bywyd a gwaith un o saint Duw a gysegrodd ei fywyd er mwyn yr Efengyl. Gan Gristnogion y mae’r gallu i ddathlu’n llawnach na neb ar Ŵyl ein nawddsant. Gall eraill gydio yn Dewi a’i wneud yn hyrwyddwr y bywyd Cymreig a Chymraeg. Ond nid digon hynny gan mai prif waith Dewi oedd cenhadu a dwyn tystiolaeth i’r Arglwydd Iesu. Mynnwn ddathlu a chenhadu er mwyn i’r Gymru hon yr ydym yn byw ynddi barhau yn Gymru Gristnogol a Chymraeg am ganrifoedd i ddod. Mwynhewch y dathlu a cheisiwch fendith Duw.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 26 Chwefror, 2012