‘I Dduw yn unig y bo’r anrhydedd a’r gogoniant.’ Mae’r geiriau hynny (yn Saesneg) ar y wal uwchben drws yr hen lyfrgell yn y Brifysgol ym Mangor. Mi welais i nhw ddoe wrth ladd amser rhwng cystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd. Does gen i ddim cof i mi sylwi arnyn nhw o’r blaen, er i mi fod yn y coleg hwnnw am bum mlynedd gyfan. Mi ddylwn i egluro mai uwchben hwn ddrws nad oedd yn cael ei ddefnyddio erbyn fy nghyfnod i yn y coleg oedd y geiriau, rhag i chi feddwl na fûm trwy ddrws y llyfrgell o gwbl yn ystod y pum mlynedd hynny!
Doedd gen i ddim cof chwaith o’r cerflun sydd ymhell uwchben prif ddrysau Neuadd Pritchard-Jones. O bosib nad yw hynny’n syndod o gofio mai Neuadd i sefyll arholiad ynddi oedd Neuadd PJ yn gyntaf oll i mi gydol y blynyddoedd hynny. A gan mai’n benisel y bydden ni fel myfyrwyr yn mynd i bethau felly, does dim syndod nad oedden ni’n gweld pethau oedd i fyny yn yr entrychion dan grib tô’r Neuadd ysblennydd hon.
Weithiau, welwn ni mo’r pethau amlwg. Mae’r un peth yn wir yn aml gyda’r golygfeydd hardd y bydd ymwelwyr yn gwirioni arnyn nhw yn y fro hon. Yn aml iawn, fyddwn ni ddim yn sylwi ar eu prydferthwch. A gall yr un peth ddigwydd gyda’r Efengyl am fod y ffeithiau am fywyd a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist mor gyfarwydd i ni fel na welwn ni mor syfrdanol yw’r hyn a wnaeth drosom. Gall cyfoeth cariad Duw fod dan ein trwynau heb i ni ei weld a’i werthfawrogi’n iawn.
A rywsut, mae’r geiriau a naddwyd ar wal y llyfrgell dan ein trwynau hefyd, a ninnau wedi ein magu yn sŵn Beibl ac emyn a mawl. Mae ‘I Dduw yn unig y bo’r anrhydedd a’r gogoniant’ yn un o wirioneddau sylfaenol Y Beibl. A thros y canrifoedd bu’r geiriau hyn yn symbyliad i bobl gyflawni pob math o bethau er clod i’r Goruchaf. Felly y gwelid y Coleg newydd a’i lyfrgell hardd gan lawer iawn o bobl pan adeiladwyd nhw ddechrau’r Ugeinfed Ganrif, mae’n amlwg.
Ond nid am adeiladau crand a champweithiau celfyddydol a llenyddol yn unig y dylem ddweud mai ‘i Dduw yn unig y bo’r anrhydedd a’r gogoniant’. Felly’n union y dylem ddweud am bob dim. Beth bynnag a wnawn ni heddiw a’r wythnos newydd hon, gwnawn y cyfan er clod a mawl i’n Harglwydd Dduw. Mae’n deilwng o’r clod i gyd am mai Ef yw’r Crëwr a’r Cynhaliwr a’n carodd ni ddigon i roi ei Fab yn Waredwr i ni. Boed i’n haddoliad heddiw, a’n gwasanaeth gydol y dyddiau nesaf, er gogoniant iddo. Mewn gwirionedd, boed pob meddwl a bwriad a gweithred o’n heiddo er ei glod.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 25 Mawrth, 2012