Preifat?

Mae rhai pethau o fewn traddodiad ein capeli a’n heglwysi yn dipyn o ddirgelwch.  Er enghraifft, o ble daeth y syniad bod rhaid cynnal dwy oedfa bob Sul?  Neu, pam fod rhaid i’n hoedfaon bara awr (dim mwy a dim llai)?  Ond o bosib mai’r dirgelwch mwyaf un o fewn ein capeli yng Nghymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf yw’r syniad a ddatblygodd mai rhywbeth preifat, ac nid rhywbeth i’w rannu a’i drafod, yw ffydd. 

Ers blynyddoedd clywsom bobl yn dweud nad rhywbeth i’w drafod yw ffydd grefyddol.  Mynegwyd y farn hon mewn ysgol Sul a seiat ar draws y wlad.  Buom yn fwy na pharod i drafod materion crefyddol o bob math.  Cawsom hwyl ar drafod y safbwynt Cristnogol am hyn a’r llall.  Buom yn datgan barn yr eglwys ar bob math o bynciau.  A buom yn brysur yn trafod y Ffydd, yn yr ystyr o bwyso a mesur yr hyn a ddywed y Beibl am wahanol bynciau.  Ac yn aml iawn, mae hynny wedi golygu dadlau ac anghydweld ynghylch gwirioneddau’r Ffydd Gristnogol.  Ond amharod iawn fuom yn aml i drafod ein ffydd ni ein hunain, oherwydd rhyw syniad nad peth i’w rhannu yw honno.

Mae’n beryg ein bod wedi methu gwahaniaethu rhwng yr hyn sy’n bersonol a’r hyn sy’n breifat.  Y mae ffydd yn sicr yn beth bersonol am fod pob un ohonom yn credu yn Nuw ac yn adnabod Iesu Grist drosom ein hunain.  Ni all neb gredu ar ein rhan ac ni all neb ddilyn Iesu Grist yn ein lle.  Perthynas bersonol â Duw trwy ei Fab yw gwreiddyn y bywyd Cristnogol.  Ond mae’r ffydd honno ymhell o fod yn beth preifat.  Wedi’r cwbl, mae yna filiynau o bobl yn rhannu’r un olwg ar Iesu a’r un profiad o Dduw.  Er mor bersonol yw ein cred yn Nuw, yr un gred sydd gan ein cyd Gristnogion.  Yr un Gwaredwr sydd gennym, a’r un peth yw ein hymddiriedaeth ynddo.  Mae ein ffydd, felly, yn rhywbeth y gallwn ei drafod â’n gilydd.

Ond mae ein ffydd hefyd yn rhywbeth y gallwn ei rannau ag eraill.  Ond mwy na hynny hyd yn oed, mae’n rhywbeth y dylem ei rannu ag eraill.  Ie. O reidrwydd, ffydd bersonol sydd gennym, am ein bod yn ymddiried ein hunain i’r Arglwydd Iesu.  Ond nid ffydd breifat yw hon chwaith gan mai ffydd i’w rhannu ag eraill yw hi yn y gobaith y daw pobl eraill i’w meddu.  Clywais y dydd o’r blaen am aelodau un eglwys a aeth ati’n fwriadol i ddysgu siarad am eu ffydd gyda’i gilydd.  Gan sylweddoli eu bod yn ei chael yn anodd i rannu eu ffydd â phobl o’r tu allan i’r eglwys, aethant ati i siarad ymysg ei gilydd am eu profiad a’u cred yn y gobaith y byddai’n haws iddyn nhw rannu ag eraill os oedden nhw’n rhannu â’i gilydd.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 04 Mawrth, 2012

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: