Roeddwn i’n teimlo’n euog wedyn.
Wedi picio i Fangor oeddwn i, heb fwriad i oedi. Roedd yna brysurdeb mawr wrth y Cloc, ac enw cwmni ffôn yn amlwg ar babell neu ddwy. Ac wrth fynd heibio derbyniais daflen o law’r gŵr a’i cynigiodd i mi, gan gymryd yn ganiataol mai hysbyseb oed hi. Fe’i rhois yn fy mhoced, a dim ond wedyn y sylweddolais mai taflen neu dract Cristnogol ydoedd, a theimlo’n euog na wnes aros i sgwrsio â’r dyn.
Does gen i ddim syniad pwy oedd o. A dweud y gwir, fe gymerais y daflen oddi wrtho heb edrych arno. Mae’n debyg ei fod wedi arfer â hynny wrth iddo roi’r taflenni i bwy bynnag sy’n digwydd mynd heibio. Does ganddo fo, mwy na’r rhelyw o bobl sy’n cyhoeddi’r Efengyl, ddim syniad beth a wna pobl â’r taflenni. Caiff llawer ohonynt eu taflu, mae’n debyg, heb i neb eu darllen. Mae eraill yn syrthio ar glustiau byddar. Ond mae’n siŵr bod rhai’n denu llygad ac yn ennill clust rhywrai y mae’r Efengyl yn gwbl newydd iddynt.
Roeddwn i’n teimlo’n euog am beidio â sylweddoli ar unwaith beth a roddwyd i mi ac am beidio ag aros i ddiolch am y daflen. Oherwydd mae’n siŵr fod gair o ddiolch ac anogaeth yn galondid i bobl sy’n rhannu taflenni cenhadol ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd. Gallwn ddiolch i Dduw am bobl sy’n cenhadu trwy ddosbarthu taflenni ag arnynt air am yr Efengyl. Gweddïwn iddynt gael eu calonogi yn eu gwaith.
Un rhwystr amlwg i genhadaeth o’r fath yw bod cymaint o daflenni’n hysbysebu hyn ac arall yn cael eu gwthio ar bobl heddiw, nes bod pobl yn aml yn taflu’r cyfan heb edrych arnynt o gwbl. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys nid yn unig hysbysebion amrywiol ond hefyd daflenni crefyddol o bob math. Gweddïwn felly ar i Dduw ddefnyddio’r tractiau sy’n cyflwyno’r Efengyl yn ffyddlon, ac ar iddo alluogi pobl i wahaniaethu rhwng y gwir a’r gau negeseuon. Gweddïwn yn arbennig ar i Dduw warchod pobl rhag unrhyw neges sy’n groes i Efengyl ei ras yng Nghrist Iesu.
Gall Duw ddefnyddio tractiau bach syml i agor llygaid a chalon pobl i wirioneddau mawr y Ffydd Gristnogol. Pwy a ŵyr beth all ddigwydd pan roddir gair bach am yr Efengyl, neu adnod neu ddwy o’r Ysgrythur, yn llaw pobl? Gweddïwn felly dros bawb sy’n mynd â’r Efengyl i’r ’priffyrdd a’r caeau’ yn y modd arbennig hwn.
Gyda llaw, siom fawr oedd sylweddoli o ddarllen y Daily Post ddoe mai cyfweliadau ar gyfer cyfres X-Factor oedd y prysurdeb ym Mangor. Taswn i ond wedi yn gwybod, pwy a ŵyr …?
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 29 Ebrill, 2012