John Harper

Byddai’n anodd peidio â chyfeirio at y Titanic heddiw, a hithau’n gan mlynedd union i’r dydd y suddodd y llong honno ar ei mordaith gyntaf ar draws yr Iwerydd. 

Daeth hanes y llong enfawr hon yn chwedlonol yn fuan wedi’r trychineb dychrynllyd a laddodd dros 1,500 o bobl pan drawodd y llong yn erbyn mynydd ia am ugain munud i hanner nos, ar Ebrill 14, 1912. Lai na theirawr yn ddiweddarach, yn oriau mân fore Sul, Ebrill 15 roedd y Titanic ar waelod y môr. 

Pythefnos oed i bob pwrpas oedd hi pan suddodd gan mai ar Ebrill 2 yr hwyliodd gyntaf o Iard Longau Harland a Wolff ym Melffast.  Hi oedd llong fwya’r byd ar y pryd, ac nid heb reswm y soniwyd amdani fel palas ar y dŵr, gan mor foethus ydoedd.  Ac yr oedd y fordaith gyntaf o Southampton i Efrog Newydd yn naturiol yn llawn cyffro, yn ernes o ddyfodol disglair i’w pherchnogion, Lein y Seren Wen,  ac yn obaith o fywyd newydd yn yr America i lawer iawn o’r teithwyr.

Ond trasiedi enfawr oedd y cyfan i bawb oedd yn gysylltiedig â’r daith, a does rhyfedd bod dryllio llong ysblennydd newydd sbon, a cholli dros fil a hanner o bobl wedi cael y fath sylw ar hyd y blynyddoedd.  Ac ers i Robert Ballard a’i gydweithwyr ddarganfod gweddillion y Titanic ym mis Medi 1985, daeth y delweddau o ysgerbwd rhydlyd y llong mor drawiadol o’u cyferbynnu â’i rhwysg a’i mawredd gwreiddiol.

Rhan o chwedloniaeth y Titanic yw’r straeon am arwriaeth llawer o’r criw a’r teithwyr.  Un o’r bobl hynny oedd gweinidog ifanc o’r Alban o’r enw John Harper.  Boddi a fu ei hanes, ond nid cyn iddo dystio yn nŵr y môr i’w Waredwr, Iesu Grist, gan alw ar bobl i gredu ynddo er iachawdwriaeth.  Yn ôl yr hanes, gwaeddai, ‘Peidiwch â phoeni amdanaf fi.  Nid wyf yn mynd i lawr; rwy’n mynd i fyny’.  Byddai o leiaf un o’r bobl a’i clywodd, ac a oroesodd y noson honno, yn tystio flynyddoedd yn ddiweddarach iddo ddod i gredu yng Nghrist oherwydd tystiolaeth John Harper yn nyfroedd angau’r Iwerydd.

Ond y mae’r Titanic hefyd yn dwyn i gof freuder pethau, a breuder bywyd ei hun hyd yn oed.  Y llong osgeiddig, oedd fod, fwy neu lai, yn amhosibl i’w suddo, yn diflannu dan y dŵr mewn dim o dro, ac angau’n llyncu cannoedd o bobl o bob gradd ac oed.  Mae’r hanes wedi ysbrydoli cynhyrchwyr ffilmiau a nofelwyr ac awduron ers blynyddoedd.  Mae hefyd yn rhybudd parhaol rhag i neb anghofio breuder bywyd a’r angen i geisio’r pethau sy’n para byth.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 15 Ebrill, 2012

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: