O wirfodd calon

Unwaith neu ddwy y bum yn Llangwm erioed, ond rwy’n tybio mai pentre digon tawel ydi o.  Mae Mochdre ychydig yn fwy cyfarwydd i mi gan yr arferem fynd trwyddo cyn adeiladu’r A55 newydd.  Mae’n ddigon dieithr i mi, ond hyd y gwn i mae hwnnw’n ddigon digyffro fel arfer.  Ond mae Llannefydd yn gyfarwydd iawn i mi, a gwn yn iawn mai lle braf a thawel ydi o.  Ond am gyfnod byr nôl yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pethau’n wahanol yn y tri lle. 

Cafwyd protestiadau ffyrnig yn Llangwm a Mochdre yn 1887 ac yn Llannefydd yn 1888.  Dyma ‘Ryfel y Degwm’ a gododd o’r anfodolonrwydd cynyddol pobl i dalu degfed rhan o’u hincwm blynyddol i’r Eglwys Wladol.  Bu raid cael milwyr i ddelio â’r protestwyr ac i amddiffyn y rhai a gasglai’r arian.  Ond o ganlyniad i’r protestiadau, rhoddwyd y cyfrifoldeb am dalu’r degwm ar y landlordiaid yn hytrach na’r tenantiaid, er rhyddhad i’r gweithwyr. 

Mae’n debyg mai’r peth tebycaf a welsom ni i’r helyntion hynny oedd y protestiadau yn erbyn ‘Treth y Pen’ Llywodraeth Margaret Thatcher, a gyflwynwyd yn yr Alban yn 1989 ac yng Nghymru a Lloegr yn 1990.  Bu raid i’r llywodraeth honno ildio i’r farn gyhoeddus a dileu’r dreth amhoblogaidd erbyn 1993. 

Go brin, fodd bynnag, y gwelwn ni’r fath beth â ‘Rhyfel Hanner Degwm’ yn dilyn galwad yr Esgob Andy John ym Mangor yr wythnos ddiwethaf i aelodau’r Eglwys yng Nghymru roi 5% o’u cyflog i’r Eglwys.  Mi fydd yna gwyno, fel a gafwyd ar dudalennau’r Daily Post ddoe.  Ond fydd yna ddim mwy na hynny am y rheswm syml mai peth gwirfoddol yw cyfraniadau ariannol i’r Eglwys yng Nghymru fel i eglwysi pob enwad arall heddiw.

Pwysleisio wna’r Esgob ddysgeidiaeth Y Beibl fod aelodau’r Eglwys i gyfrannu’n ôl eu gallu at ei gwaith.  Ond hanner arall y stori yw eu dymuniad i gyfrannu o sylweddoli cymaint a gawsant gan Dduw.  Ac yn hyn o beth, dylid cofio un peth am brotestwyr Rhyfel y Degwm.  Roedd y mwyafrif ohonynt yn gwrthwynebu talu’r Degwm, nid am eu bod yn amharod i gyfrannu at waith yr Efengyl ond am mai anghydffurfwyr oeddent erbyn hynny.  Roeddent yn cyfrannu o’u gwirfodd at eu heglwysi anghydffurfiol, ac yn gwrthod cyfrannu at Eglwys Wladol nad oeddent yn perthyn iddi.  (Yn y pen draw, arweiniodd eu protestiadau at ddatgysylltu’r Eglwys oddi wrth Eglwys Loegr a sefydlu’r Eglwys yng Nghymru.)  Feiddiwn ni ein herio’n hunain i gyfrannu at waith ein heglwys yn ôl ein gallu ac mewn ffordd sy’n cyfateb i’r pethau a roddodd Duw i ni?

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 22 Ebrill, 2012

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: